Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio cwricwlwm – canllawiau wedi’u diweddaru i ysgolion

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn dilyn cyfnod o ddatblygu ar y cyd ac ymgynghori ag ymarferwyr, mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru wedi’u diweddaru i gynnwys ‘Ymlaen â’r Daith‘, sy’n amlinellu ein disgwyliadau ar gyfer y gwaith parhaus o gynllunio cwricwlwm.

Er nad yw ein disgwyliadau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm wedi newid, mewn ymateb i sylwadau ymarferwyr rydym wedi gwneud y canllawiau’n fyrrach ac yn haws eu deall, ac wedi hwyluso’r gwaith o lywio drwyddynt.

Rhannwyd y canllawiau’n 4 maes:

  • Diben: beth y dylai ein dysgwyr ei ddysgu a pham?
  • Cynnydd: sut olwg fydd ar y cynnydd hwnnw mewn dysgu ar gyfer pob dysgwr?
  • Asesu: sut ddylem asesu i wneud y cynnydd hwnnw’n bosibl?
  • Addysgeg: Sut mae ein hymarfer o ddydd i ddydd yn cefnogi ein cwricwlwm?

Hefyd, mae cymorth sy’n hawdd cael gafael arno ar gael ar Hwb bellach, gan gynnwys:

Mae gwaith yn mynd rhagddo, gyda chymorth ysgolion, i ddarparu canllawiau wedi’u diweddaru ar bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.

Cadwch olwg am ragor o wybodaeth dros y misoedd nesaf.

Adnoddau Dysgu Proffesiynol Cymru – Safbwynt Athro

Wedi ei ddiweddaru: 15 Hydref 2024

Read this page in English

Am y tro cyntaf, mae adnoddau Dysgu Proffesiynol wedi cael eu canoli mewn un lle ar Hwb. Bellach, mae’r adnoddau, sydd wedi’u categoreiddio o’r newydd, ar gael i holl ymarferwyr addysg Cymru eu chwilio drwy’r ardal dysgu proffesiynol.

Mae’r ardal dysgu proffesiynol wedi ei drefnu mewn ffordd sy’n helpu ymarferwyr i ddod o hyd i’r adnoddau iawn ar gyfer eu hanghenion dysgu proffesiynol, beth bynnag yw’r anghenion hynny.

O fewn yr ardal, bydd ystod eang o hyfforddiant, adnoddau hunanddysgu, astudiaethau achos, canllawiau a gwaith ymchwil ar gael i ymarferwyr ar bob agwedd ar ddysgu proffesiynol.

Mae’r fideos yma’n dangos pa mor hawdd yw hi nawr i gael mynediad at adnoddau Dysgu Proffesiynol ar Hwb.

Mae’r adnoddau yn cwmpasu 4 maes yn fras: y cwricwlwm, addysgeg ac asesu; Arweinyddiaeth a llywodraethiant; lles, tegwch a chynhwysiant; a datblygu fel ymarferydd proffesiynol.

Gall ymarferwyr hidlo’r adnoddau o fewn y categorïau hyn neu chwilio am adnoddau gan ddefnyddio geiriau allweddol.

Cynlluniwyd parti gwaith o ymarferwyr er mwyn sicrhau ansawdd yn ystod y broses, ac mae sawl grŵp arall yn dal i roi adborth. Mae maes Dysgu Proffesiynol yn faes sy’n datblygu drwy’r amser, a gall unrhyw un sy’n ymweld â’r dudalen roi sylwadau drwy adborth er mwyn ein helpu i’w gwella.

Mae’r Dirprwy Bennaeth, Sian Evans wedi bod yn rhan o weithgor parti gwaith o ymarferwyr. Dyma sydd ganddi i’w ddweud:

“Dw i wedi bod yn rhan o’r grŵp cyfeirio ymarferwyr sydd wedi bod yn gweithio yn y maes hwn, i ddod â’r ystod o wahanol gyfleoedd dysgu proffesiynol at ei gilydd i fod yn un lle hawdd iawn eu defnyddio. Roeddem am i hyn fod yn faes y gallai pawb, pob math o ymarferwyr ar bob lefel o fewn ysgolion gael mynediad a dod o hyd i ddysgu proffesiynol sy’n berthnasol iddyn nhw. Roeddem am allu gwneud hyn mewn cyn lleied o gliciau o’r llygoden â phosibl!

“Yr hyn sy’n glir iawn nawr yw bod staff yn gweld ei bod hi’n brofiad cadarnhaol i fod yn defnyddio Hwb i chwilio am ddysgu proffesiynol. Maen nhw’n teimlo y gallan nhw nawr ddefnyddio’r amser prin cyfyngedig  hwnnw sydd ganddyn nhw’r mwyaf effeithiol i ddod o hyd i ddysgu proffesiynol perthnasol.’

Dolen i’r tri fideo arddangos: Hwb – Dysgu Proffesiynol – YouTube

Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg – letter from Lynne Neagle

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Fel rhan o’r broses o ad-drefnu’r Cabinet, yn dilyn penodi Vaughan Gething yn Brif Weinidog, mae Lynne Neagle wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan ddisodli Jeremy Miles sy’n symud i bortffolio’r Economi.

Lynne Neagle yw’r Aelod o’r Senedd dros Dorfaen, ac mae’n symud i’r portffolio Addysg o’i swydd flaenorol yn y Cabinet fel y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl.

Annwyl gyfaill

Mae’n fraint i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rwy’n gwybod o fy nghyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd pa mor ymroddedig a gweithgar yw’r gweithlu addysg yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn fy rôl newydd.

Rydych yn hanfodol i lwyddiant ein diwygiadau addysg trawsnewidiol, gan gynnwys cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, yr ymgynghoriad cyfredol ar ddysgu 14 i 16, TGAU Gwneud-i-Gymru, a gweithredu’r rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol. Fy mhrif flaenoriaeth fydd sicrhau bod gennych yr offer i wneud y diwygiadau hyn yn llwyddiant.

Rwy’n ymwybodol iawn eich bod yn cefnogi ein trawsnewidiad addysg uchelgeisiol wrth ddelio hefyd â chanlyniadau pandemig byd-eang. Mae’r cynnydd mewn materion iechyd meddwl ymhlith dysgwyr a’r gweithlu, gostyngiad mewn presenoldeb ac adroddiadau o ymddygiad sy’n dirywio yn faterion sy’n ein poeni ni i gyd.

Mae angen i’r llywodraeth, rhieni a gofalwyr, a’r gymdeithas gyfan ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Rwy’n gwybod na all y cyfan fod yn gyfrifoldeb ar ysgolion.

Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle gorau mewn bywyd yn angerdd i mi. Mae addysg dda mewn amgylchedd cynhwysol, sy’n annog a diogel yn helpu i feithrin sgiliau, gwybodaeth a gwytnwch. Dyma’r rhodd fwyaf y gallwn ei rhoi i’n plant a’n pobl ifanc.

Fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, roeddwn yn gadeirydd ar y cyd ar y Bwrdd Gweinidogol i fwrw ymlaen â’n Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru ac roeddwn yn gallu sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed yng Nghymru.

Rwy’n bwriadu treulio fy misoedd cyntaf yn y swydd yn gwrando arnoch chi. Rwy’n gobeithio ymweld ag ysgolion ar ôl y Pasg ac yn ystod yr ymweliadau hynny, yn ogystal â chwrdd â phlant, pobl ifanc a’ch staff, hoffwn siarad â chi am unrhyw bynciau llosg.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi a chwrdd â chymaint ohonoch â phosibl. Os oes unrhyw faterion yr hoffech eu trafod gyda mi, mae fy nrws yn agored. E-bostiwch Dysg@llyw.cymru neu Gohebiaeth.Lynne.Neagle@llyw.cymru a byddaf mewn cysylltiad.

Yn gywir

Lynne Neagle AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sut mae Estyn yn newid y dull arolygu o dan y Cwricwlwm i Gymru? – Sylwadau gan Arolygydd Cymheiriaid

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn daith, nid yn unig i ysgolion ond i’r system addysg ehangach wrth iddi addasu i gefnogi’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm. Mae’r newid yn null arolygu Estyn yn enghraifft bwysig o hyn.

Mae Ceri Richmond, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Treforys, yn Arolygydd Cymheiriaid. Mae hi wedi cael wythnos o hyfforddiant gloywi yn ddiweddar ac mae mewn sefyllfa berffaith i ddweud mwy wrthym sut mae’r dull arolygu yn newid.

I gychwyn Ceri, pam mynd yn Arolygydd Cymheiriaid?

Dechreuais yn 2017, oherwydd fel uwch arweinydd gyda chyfrifoldeb dros hunanwerthuso ac addysgu a dysgu, roeddwn i eisiau sicrhau fy mod i’n gwybod beth oedd arfer da. Roeddwn i eisiau bod yn hyderus mewn gweithdrefnau hunanwerthuso wrth arsylwi gwersi a mentora adrannau. I mi, mae’n ymwneud ag addysgu a dysgu gwell, er i mi ddechrau drwy ganolbwyntio ar broses hunanwerthuso’r ysgol.

Beth yw hanfod y rôl?

Mae’n bwysig i Estyn gael ymarferwyr proffesiynol yn y tîm er mwyn cael cydbwysedd a dod â’r persbectif presennol hwnnw.  Fel arfer mae o leiaf dau arolygydd cymheiriaid ym mhob tîm.  Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith ein bod yn aelodau llawn o’r tîm arolygu sydd â’r un ystod o gyfrifoldebau.  Ar yr ochr arall, rwyf hefyd wedi gwerthfawrogi’r persbectif presennol hwnnw gan yr arolygwyr cymheiriaid pan fydd fy ysgol fy hun yn cael ei harolygu.

Allwch chi ddisgrifio eich hyfforddiant diweddar?

Fe wnes i wir fwynhau’r profiad. Roeddem yn llond ystafell o Arolygwyr Cymheiriaid, yn edrych yn bennaf ar addysgu a dysgu, gofal bugeiliol (e.e. sgiliau a phresenoldeb) a datblygiad tîm. Edrychom ar lawer o enghreifftiau o waith disgyblion a gofynnwyd i ni pa wybodaeth y gallem ei chywain ohono.  Mae casglu tystiolaeth bob amser yn ymwneud â llenwi’r bylchau a dadansoddi sut y byddai’r craffu hwnnw’n cyd-fynd â sylwadau ac â llais disgyblion, er enghraifft. Yn ystod arolygiad byddem yn rhannu ein holl sylwadau a nodiadau o wahanol weithgareddau arolygu mewn dogfen fyw.  Mae hyn yn golygu y gall yr holl arolygwyr gasglu a gweld y wybodaeth sy’n berthnasol i’r maes a ddyrannwyd iddynt i adrodd arno.  Mae’n dda iawn fel hyfforddiant gloywi os oes bwlch wedi bod ers eich arolygiad diwethaf, a gallaf fynd â llawer yn ôl i’m hysgol fy hun.

Wrth i ni fynd i mewn i ysgolion sy’n cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y bydd y gweithgareddau hyn a’u ffocws yn datblygu i ystyried gwahaniaethau, er enghraifft, yn y ffordd yr ydym yn defnyddio egwyddorion cynnydd i fesur cynnydd, a’r hyn yr ydym bellach yn ei fesur o ran cynnydd, wrth i ni symud i gwricwlwm sy’n cael ei yrru gan ddibenion penodol, gyda phwyslais newydd ond mwy cyfartal ar effeithiolrwydd dysgwyr yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau.

Pa mor wahanol yw arolygiadau o dan y Cwricwlwm i Gymru?

Y gwelliant mwyaf yn y fframwaith presennol yw cael gwared ar ddyfarniadau crynodol. Mae’n golygu ein bod yn edrych ar gryfderau a gwendidau. Gallwch weld anghenion ysgol, ac maent yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad terfynol hwnnw, ond mae’r adborth yn fwy cytbwys ac yn llawer mwy adeiladol.

Mae trefniadau arolygu dysgwyr yn canolbwyntio mwy ar y meysydd pwysicaf sy’n ysgogi gwelliant. Mae hefyd yn fwy seiliedig ar weithgarwch hunanwerthuso’r ysgol ei hun. Yn y modd hwnnw, rydym hefyd yn asesu gallu’r ysgol ei hun i nodi gwelliant.

Yn ddiddorol, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedwyd bod angen i’r Arolygiaeth barchu’r penderfyniadau a wnaed ar lefel leol ar gwricwlwm. Fel arall mae risg y bydd ysgolion yn ceisio plesio arolygwyr yn hytrach na gwasanaethu anghenion y dysgwyr, sy’n gwneud synnwyr llwyr yng Nghymru!

Felly pa arddull all ysgolion ei ddisgwyl gennych chi?

Mae’r arddull wedi newid. Nid ‘brawd mawr’ yw hi bellach, mae’n fater o weithio gyda’r ysgolion ac mae’n fwy cefnogol, er fy mod yn credu y bydd yn cymryd peth amser cyn i ysgolion sy’n cael eu harolygu deimlo hyn. Mae’r adroddiad yn llawer mwy cytbwys ac adeiladol.  Hefyd, mae cyswllt mwy rheolaidd ac ymweliadau amlach – ymweliadau ymgysylltu ac ymweliadau thematig.  Mae’r rhain wedi’u cynllunio i ganolbwyntio ar brosesau gwella i gefnogi gwerthusiadau cryfach.

Ar y cyfan, mae’n teimlo’n well, yn enwedig mewn cyfnod pan mae’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno o flwyddyn i flwyddyn mewn ysgolion uwchradd. Mae angen i ni gydnabod faint o newid sy’n gysylltiedig â hynny a sicrhau bod pob haen ac adran yn y sector yn siarad â’i gilydd ac yn cyfathrebu’n agored â’i gilydd.

Gadewch i Fathemateg fynd â Chi Ymhellach: RhGMBC yn cefnogi myfyrwyr ar eu taith fathemategol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Ers mis Ebrill 2023, bu 3500+ o ddysgwyr o fwy nag 80% o ysgolion a cholegau a ariennir gan y wladwriaeth yn cymryd rhan mewn gweithdai mathemateg, dosbarthiadau meistr a chynadleddau a drefnwyd gan Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru (RhGMBC).

Mae cymorth ar gael o hyd i bob ysgol yng Nghymru a gellir gwneud cais amdano yma.

Ond i gael darlun llawn o’r gefnogaeth sydd ar gael a sut mae’n gweithio i ddysgwyr o wahanol oedrannau, darllenwch ymlaen.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Brifysgol Abertawe, mae RhGMBC yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru a’r DU, gan weithredu ar draws prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Gyda’n gilydd, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o weithgareddau cyfoethogi mathemateg wedi’u teilwra ar gyfer pob oedran.

Ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8, mae RhGMBC yn cynnal clybiau mathemateg amser cinio ac ar ôl ysgol, gan feithrin awyrgylch croesawgar lle gall cyfranogwyr ymgysylltu â mathemateg trwy gemau rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol.

I ddysgwyr 14-15 oed, mae ein rhaglen yn darparu mynediad i gyfres o ddosbarthiadau meistr mathemateg gan y Sefydliad Brenhinol, sydd ar gael ar-lein ac mewn person, ynghyd â heriau mathemateg iau a hŷn a sesiynau datrys problemau. Mae ein sgyrsiau “Gyrfaoedd mewn Mathemateg” yn cynnig cipolwg gwerthfawr i agweddau ymarferol mathemateg ym myd gwaith ac astudio, gan gynorthwyo myfyrwyr i wneud penderfyniadau doeth yn eu dewisiadau Safon Uwch.

Wrth i fyfyrwyr nesáu at lefel TGAU, rydym yn darparu cymorth trwy ddigwyddiadau adolygu ac adnoddau ar-lein. Mae’r RhGMBC yn arbennig o ymroddedig i gefnogi cymhwyster Mathemateg Ychwanegol Lefel 2 gan ei bod yn amlwg bod y cymhwyster yn bwysig i ysgolion. Mae ein hastudiaethau achos diweddar wedi dangos y gall astudio Mathemateg Ychwanegol arwain at fwy yn cofrestru mewn dosbarthiadau mathemateg Safon Uwch, hybu hyder ymhlith myfyrwyr benywaidd, a chyfrannu at gynrychiolaeth fwy cytbwys rhwng y rhywiau ar lefel Safon Uwch. Er mwyn annog mwy o ysgolion i gynnig Mathemateg Ychwanegol, datblygodd RhGMBC gyfres o adnoddau Desmos diddorol yn cwmpasu’r maes llafur cyfan.

Yn y cyfnod Safon Uwch, mae RhGMBC yn ymestyn i gynnwys dosbarthiadau adolygu a chyfoeth o ddeunyddiau i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn cymwysterau Mathemateg a Mathemateg Bellach Safon Uwch.

Ar gyfer ysgolion nad ydynt yn gallu cynnig Mathemateg Bellach yn fewnol, mae RhGMBC yn darparu dosbarthiadau dysgu ar-lein ynghyd â diwrnodau astudio mewn person a gynhelir ledled Cymru. Eleni, mae 27 o ysgolion wedi tanysgrifio i’n cyrsiau dysgu Mathemateg Bellach, gan gefnogi bron i 60 o fyfyrwyr i astudio 140 o fodiwlau MB. Daw 40% o’n myfyrwyr o ysgolion sydd â chanrannau canolig i uchel o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Rhannodd James Johnson o ysgol yng Ngogledd Cymru ei brofiad cadarnhaol yn astudio Mathemateg Bellach gyda RhGMBC:

Mae Astudio Mathemateg Bellach wedi bod yn brofiad hwyliog, heriol a gwerth chweil dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r tiwtoriaid wedi rhoi digon o gefnogaeth i mi ac roedd llawer o adnoddau ar gael i’n cynorthwyo yn ystod y flwyddyn.”

Mae Mathemateg Bellach yn parhau i fod yn gymhwyster pwysig sy’n cael ei ffafrio neu ei annog gan rai prifysgolion gyda thystiolaeth ymchwil o bontio gwell i raddau STEM ymhlith yr holl fyfyrwyr ond yn enwedig merched.

Mae datrys problemau yn parhau i fod yn ganolbwynt i RhGMBC ar gyfer Safon Uwch, gyda chyrsiau heriol wedi’u cynllunio i ymestyn dealltwriaeth myfyrwyr. Fel y dengys adborth dysgwyr, mae cyfranogwyr yn gweld y problemau yn ysgogol ac yn ddifyr, yn aml yn ffurfio cyfeillgarwch newydd ar hyd y ffordd.

Dywedodd myfyriwr ym Mlwyddyn 12 sy’n cymryd rhan yn y cwrs Cyflwyniad i Ddatrys Problemau eleni:

Rwy’n teimlo bod y pynciau’n heriol iawn ac yn anodd eu dirnad, sy’n beth da oherwydd ei fod yn ymestyn eich dealltwriaeth.”

Gan gydnabod yr angen i gefnogi mathemategwyr disgleiriaf Cymru ymhellach, rydym yn cynnig rhaglen gymorth hybrid i fyfyrwyr sy’n anelu at astudio ym mhrifysgolion Grŵp Russell, a all fod angen profion mathemateg ychwanegol fel MAT neu STEP. Mae ein rhaglen Pontio Mathemateg i’r Brifysgol ar-lein yn helpu myfyrwyr i bontio’r bwlch rhwng mathemateg ysgol ac astudio ar lefel prifysgol.

Mae RhGMBC yn ddiolchgar i’n partneriaid mewn ysgolion, colegau, consortia addysg, a phrifysgolion am eu cymorth a’u cefnogaeth amhrisiadwy. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o fathemategwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Trafod Addysgeg – prosiect ymchwil newydd gan sefydliadau addysg uwch ac adnodd newydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae prosiect ymchwil newydd, ac adnodd newydd, wedi’u cynllunio i gefnogi Trafod Addysgeg.

Mae Trafod Addysgeg yn galluogi athrawon i fyfyrio ar eu hunaniaeth broffesiynol mewn gofod addysgegol diogel. Mae’n gwella galluogedd athrawon ac yn cefnogi eu gallu i ymdrin â’r ansicrwydd wrth gynllunio a chyflwyno cwricwlwm.

Er mwyn deall sut mae ysgolion yn newid eu ffordd o feddwl am addysgeg a dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae prosiect ymchwil newydd ar y gweill.  Dan arweiniad Prifysgolion Bangor, Wrecsam a De Cymru, gyda chefnogaeth GwE, bydd y prosiect yn edrych ar y graddau y mae meddylfryd ac arferion yn newid ar lefel genedlaethol. Bydd newidiadau mewn gwerthoedd, credoau ac arferion yn faterion trafod.

Cam cyntaf yr ymchwil hon yw arolwg sy’n agored i staff ysgolion ledled Cymru. Gofynnwn i chi gwblhau’r arolwg gan ddefnyddio’r ddolen hon erbyn 31 Gorffennaf 2024.

Bydd ail gam yr ymchwil yn canolbwyntio ar gyfweliadau ansoddol/grwpiau ffocws ac os ydych yn dymuno cymryd rhan yny cam hwn mae gennych yr opsiwn i nodi hyn ar ddiwedd yr arolwg.

Yn y cyfamser cynhyrchwyd cyfres o grynodebau ymchwil i archwilio profiadau dysgu dilys  i ysgogi sgyrsiau beirniadol a ymholi dyfnach. Mae’r adnodd ar gael yma ac mae hefyd yn cynnwys cyflwyniadau fideo gan gydweithwyr mewn sefydliadau addysg uwch.

Rhaglen Effeithiolrwydd Dysgwyr 14 i16 – gallwch chi helpu?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i godi safonau i bawb, cau’r bwlch cyrhaeddiad, a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol. Mae effeithiolrwydd dysgwyr yn hanfodol yn hyn o beth, ac mae angen ymarferwyr ar Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu rhaglen ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed.

Mae’r gwaith yn ategu’r canllawiau i Ddysgwyr 14 i 16, sydd allan ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghori, ac yn canolbwyntio ar wireddu uchelgais Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 10 ac 11 drwy alluogi pob dysgwr i godi eu dyheadau a chyflawni eu llawn botensial.

Mae ysgolion yn wynebu nifer o rwystrau sylweddol i gyflawni’r weledigaeth hon; mae rhai pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd mynychu’r ysgol yn llawn amser; mae rhai wedi ymddieithrio o’u dysgu; ac mae llawer yn brin o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddysgu’n effeithiol.

Fel un o Egwyddorion Cynnydd gorfodol, mae cynyddu effeithiolrwydd dysgwyr yn hanfodol i ddatgloi cynnydd dysgwyr o fewn Cwricwlwm i Gymru ac mae’n chwarae rhan ganolog yn y canllawiau 14 i 16 arfaethedig. Pan fyddwn yn addysgu pobl ifanc sut i ddysgu’n fwy effeithiol, gallwn ryddhau eu gallu i ddysgu, i wneud cynnydd a chyflawni eu llawn botensial.

Dros y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda grŵp o ymarferwyr ysgolion uwchradd i ddatblygu ar y cyd rhaglen Effeithiolrwydd Dysgwyr ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Y nod yw tynnu ar ystod eang o brofiadau ac arbenigedd, ac felly, rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan gyfuniad o:

  • Benaethiaid
  • Dirprwy benaethiaid
  • Penaethiaid Cynorthwyol – cyfrifoldeb dysgu ac addysgu a/neu ddysgu proffesiynol
  • Penaethiaid Blwyddyn 10/11
  • Cydlynwyr Bagloriaeth Cymru (neu gyfwerth)
  • Arweinwyr Iechyd a Lles (neu gyfwerth)
  • Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol

Bydd yr ymrwymiad sy’n ofynnol gan yr ymarferydd/ysgolion yn cynnwys:

  • Digwyddiad wyneb yn wyneb ym mis Ebrill 2024
  • 3x cyfarfod ar-lein 90 munud (1 bob tymor yn 2024/25)
  • Amser i adolygu rhai o ddeunyddiau’r cwricwlwm – i’w gwblhau o bell ac yn debygol o fod yn tua 3 awr o waith.

Bydd costau cyflenwi ar gyfer 5 diwrnod ar y gyfradd berthnasol a chostau teithio priodol yn cael eu darparu.

I ddatgan diddordeb yn y prosiect cyffrous hwn, cwblhewch y ffurflen hon erbyn 4pm ddydd Gwener 22 Mawrth 2024 fan bellaf.

Yn dilyn y dyddiad cau, byddwn yn anelu at gynnull grŵp o tua 8-10 o ymarferwyr i gymryd rhan yn y prosiect hwn.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.

Ymgynghoriad: Dysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae ymgynghoriad ar sut a beth fydd ysgolion ledled Cymru yn eu dysgu rhwng 14 i 16 oed o 2025 ymlaen, yn agor heddiw 28 Chwefror ac yn rhedeg tan 8 Mai 2024.

Mae’r ymgynghoriad ar ‘yr Hawl i Ddysgu 14 i 16’ yn cynrychioli’r cam nesaf wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Wrth i’r broses gyflwyno gyrraedd blwyddyn 10 o 2025, mae’n edrych ar y dysgu a’r paratoi ehangach sydd ei angen ar ddysgwyr – ochr yn ochr â chymwysterau – wrth iddynt geisio cymryd eu camau nesaf i addysg neu gyflogaeth.

Gofynnir i ysgolion, rhieni, gofalwyr a rhanddeiliaid am eu barn ar y ddogfen, sy’n amlinellu’r cwricwlwm y bydd gan bob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 hawl iddo. Mae’n disgrifio pedair cydran yn benodol:

  • Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
  • Cymwysterau i annog ehangder
  • Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y Cwricwlwm – ym mhob maes ac elfennau gorfodol (gan gynnwys Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg), ni waeth beth yw eu dewis gymwysterau.
  • Cynllunio ôl-16 – amser penodol i ganolbwyntio ar y camau nesaf a deall yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt wrth iddynt symud i addysg ôl-16, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Yn ôl yr ‘Hawl’ bydd gofyn i ysgolion wneud y canlynol:

  • Cynllunio ar gyfer a cyflwyno cynnig cwricwlwm 14 i 16, sy’n cynnwys cymysgedd o gymwysterau cyffredinol, galwedigaethol a seiliedig ar sgiliau ar wahanol lefelau, wedi’u cynllunio o amgylch anghenion eu dysgwyr, yn ogystal â’r cyd-destun lleol.
  • Adolygu eu cynigion cwricwlaidd a chynnydd, a chyflawniadau eu dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11, gan nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Cyhoeddir fersiwn derfynol y canllawiau ar gyfer ysgolion yn nhymor yr haf 2024, ynghyd â deunyddiau ategol. Bydd ar gael ochr yn ochr â’r don gyntaf o fanylebau arholiadau TGAU diwygiedig gan CBAC a bydd yn cael ei gefnogi gan gymorth dysgu proffesiynol.

Gweler datganiad yr wasg yma

Gweler Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yma

A chanllaw defnyddiol yma

Diwygio canllawiau Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru wedi’u diweddaru.

Mae diweddariadau mis Ionawr 2024 yn cynnwys:

  • adran newydd ‘Ymlaen â’r daith’ i ddisodli’r ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm’, gan fod y cwricwlwm bellach wrthi’n cael ei weithredu ym mhob ysgol. Mae’r adran hon yn cyflwyno disgwyliadau mwy cryno a phenodol i ysgolion (gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion a’r rhai sy’n gyfrifol am Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) mewn lleoliadau eraill) i’w helpu drwy’r camau ymarferol sydd angen eu rhoi ar waith wrth gynllunio, gweithredu ac adolygu eu cwricwlwm. Fe’i datblygwyd gan ymarferwyr, ar sail ymatebion ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae’n cynrychioli un o’r allbynnau cyntaf gan ymarferwyr Grŵp Polisi’r Rhwydwaith Cenedlaethol newydd.
  • cywiriadau i wallau sy’n ymwneud â diffiniadau a hyperddolenni
  • mân ddiweddariadau drwyddi draw mewn ymateb i adborth i sicrhau terminoleg gywir a chyson

Bydd y dyddiad ‘y diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod pob tudalen yn dangos a oes newid wedi’i wneud.

Gwneir ychwanegiad pellach i ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn yr haf, er mwyn rhoi cymorth pellach i ysgolion sy’n datblygu eu cwricwlwm a’u cynigion o ran cymwysterau i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Bydd yr adran ganllaw ddrafft Dysgu 14-16 yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyn bo hir, felly cadwch lygad am honno.

Bydd diweddariadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud bob mis Ionawr, fel y gall ymarferwyr fod yn sicr eu bod yn hollol gyfredol drwy’r flwyddyn. Dewiswyd mis Ionawr i gyd-fynd orau â chylchoedd cynllunio’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau.

Os oes gennych ymholiad am y canllawiau, neu os gwelwch fod gwall neu broblem, rhowch wybod inni drwy e-bostio: cwricwlwmigymru@llyw.cymru ar gyfer adolygiad.

Diweddariad ‘Trafod Addysgeg’ – cyfleoedd i gymryd rhan ar draws Cymru!

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae deialog ac ymholi proffesiynol yn hanfodol wrth helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o addysgeg yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru. Ledled Cymru, mae rhwydweithiau cydweithredol a rhaglenni dysgu proffesiynol wedi cael eu datblygu gan bartneriaid addysg i roi cyfleoedd i bob arweinydd ysgol ac athro ddatblygu yn y maes pwysig hwn.  Gweler yr hyn y mae pob ardal yn ei gynnig isod, ac os nad ydych wedi ei weld eto, cymerwch gip ar adnodd ystyried 12 egwyddor addysgeg fel man cychwyn defnyddiol.

EAS

Mae addysgeg yn llinyn aur ar draws holl rwydweithiau EAS. Gall ymarferwyr glicio ar y ddolen Teams berthnasol i ddod o hyd i gyfleoedd i ymuno â:

Cynorthwywyr addysgu, ANG, Athrawon, Dirprwy Benaethiaid, Penaethiaid.

Yn y gwanwyn a’r haf 2024 byddwn yn treialu rhaglen newydd ‘Cefnogi Cynnydd Dysgwyr’. Dros dridiau bydd athrawon yn arsylwi ymarfer byw (mewn dwy ysgol wahanol), yn ymgysylltu ag ymchwil ac yn nodi meysydd i’w ddatblygu a fydd yn cefnogi dilyniant dysgwyr. Yna byddant yn cael eu cefnogi i droi ymchwil yn weithredol yn yr ystafell ddosbarth. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu lle.

Beth arall sydd ar gael a ble allwch chi ddod o hyd iddo? Cysylltwch â Daniel Davies, Arweinydd Addysgeg yn EAS (daniel.davies@sewaleseas.org.uk), neu ewch i’n gwefan ‘Cefnogi ein hysgol’ lle byddwch yn dod o hyd i’n Cynnig Dysgu Proffesiynol.

CCD

Mae cefnogaeth ar gyfer addysgeg pwnc penodol ac arwyddocaol wedi’i integreiddio i gynnig cydlynol a chynhwysfawr yn CCD. Mae Cathryn Billington-Richards (Cathryn.Billington-Richards@cscjes.org.uk) a Kathryn Lewis (Kathryn.A.Lewis@cscjes.org.uk ) wedi ymgorffori dysgu proffesiynol ar gyfer addysgeg ac addysgu ym mhob agwedd ar eu gwaith. Gweler eu trosolwg o’r holl gyfleoedd dysgu proffesiynol yma.

Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n ymwneud a phynciau, meysydd a chyfnodau penodol ar gael yma:

Arwain dysgu a gwella addysgu ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau arwain

archwilio dulliau o sicrhau her uchel i bawb

archwilio asesu ffurfiannol effeithiol 

Archwilio effeithiolrwydd dysgwyr ac annibyniaeth dysgwyr

Mae’r deunyddiau cefnogol canlynol hefyd ar gael:

Dogfen Ecwiti a Rhagoriaeth Galluogi CCD

Cyflwyniad i wyddoniaeth wybyddol a sut mae’n cael ei chymhwyso at addysgu

Adnoddau i ddatblygu addysgeg mathemateg (addysgu) 

Addysgeg i wella dyluniad y cwricwlwm mewn Ieithoedd Rhyngwladol

Gellir cyrraedd ein cefnogaeth bwrpasol ar gyfer pob maes addysgu ac asesu trwy eich Partner Gwella neu drwy e-bostio support@cscjes.org.uk.

GWE

Mae GWE, drwy Tracy Jones, yn cryfhau rhwydweithiau blynyddoedd 3 hyd at 8 presennol a rhwydweithiau addysgu a dysgu uwchradd trwy ddatblygu rhwydwaith 8-11.  Bydd hyn yn canolbwyntio ar archwilio addysgeg o fewn cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar broses ac egwyddorion cynnydd. Hyd yma, mae 20 o ysgolion newydd o bob rhan o’r rhanbarth wedi ymgysylltu â’r rhwydwaith 8-11 a byddwn yn edrych i dyfu hyn dros y flwyddyn nesaf. Prif ffocws y rhwydwaith yw datblygu dealltwriaeth o strategaethau sy’n seiliedig ar ymchwil i’w defnyddio ar y cam priodol mewn dysgu.

Read more