Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Ers mis Ebrill 2023, bu 3500+ o ddysgwyr o fwy nag 80% o ysgolion a cholegau a ariennir gan y wladwriaeth yn cymryd rhan mewn gweithdai mathemateg, dosbarthiadau meistr a chynadleddau a drefnwyd gan Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru (RhGMBC).
Mae cymorth ar gael o hyd i bob ysgol yng Nghymru a gellir gwneud cais amdano yma.
Ond i gael darlun llawn o’r gefnogaeth sydd ar gael a sut mae’n gweithio i ddysgwyr o wahanol oedrannau, darllenwch ymlaen.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Brifysgol Abertawe, mae RhGMBC yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru a’r DU, gan weithredu ar draws prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Gyda’n gilydd, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o weithgareddau cyfoethogi mathemateg wedi’u teilwra ar gyfer pob oedran.
Ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8, mae RhGMBC yn cynnal clybiau mathemateg amser cinio ac ar ôl ysgol, gan feithrin awyrgylch croesawgar lle gall cyfranogwyr ymgysylltu â mathemateg trwy gemau rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol.
I ddysgwyr 14-15 oed, mae ein rhaglen yn darparu mynediad i gyfres o ddosbarthiadau meistr mathemateg gan y Sefydliad Brenhinol, sydd ar gael ar-lein ac mewn person, ynghyd â heriau mathemateg iau a hŷn a sesiynau datrys problemau. Mae ein sgyrsiau “Gyrfaoedd mewn Mathemateg” yn cynnig cipolwg gwerthfawr i agweddau ymarferol mathemateg ym myd gwaith ac astudio, gan gynorthwyo myfyrwyr i wneud penderfyniadau doeth yn eu dewisiadau Safon Uwch.
Wrth i fyfyrwyr nesáu at lefel TGAU, rydym yn darparu cymorth trwy ddigwyddiadau adolygu ac adnoddau ar-lein. Mae’r RhGMBC yn arbennig o ymroddedig i gefnogi cymhwyster Mathemateg Ychwanegol Lefel 2 gan ei bod yn amlwg bod y cymhwyster yn bwysig i ysgolion. Mae ein hastudiaethau achos diweddar wedi dangos y gall astudio Mathemateg Ychwanegol arwain at fwy yn cofrestru mewn dosbarthiadau mathemateg Safon Uwch, hybu hyder ymhlith myfyrwyr benywaidd, a chyfrannu at gynrychiolaeth fwy cytbwys rhwng y rhywiau ar lefel Safon Uwch. Er mwyn annog mwy o ysgolion i gynnig Mathemateg Ychwanegol, datblygodd RhGMBC gyfres o adnoddau Desmos diddorol yn cwmpasu’r maes llafur cyfan.
Yn y cyfnod Safon Uwch, mae RhGMBC yn ymestyn i gynnwys dosbarthiadau adolygu a chyfoeth o ddeunyddiau i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn cymwysterau Mathemateg a Mathemateg Bellach Safon Uwch.
Ar gyfer ysgolion nad ydynt yn gallu cynnig Mathemateg Bellach yn fewnol, mae RhGMBC yn darparu dosbarthiadau dysgu ar-lein ynghyd â diwrnodau astudio mewn person a gynhelir ledled Cymru. Eleni, mae 27 o ysgolion wedi tanysgrifio i’n cyrsiau dysgu Mathemateg Bellach, gan gefnogi bron i 60 o fyfyrwyr i astudio 140 o fodiwlau MB. Daw 40% o’n myfyrwyr o ysgolion sydd â chanrannau canolig i uchel o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Rhannodd James Johnson o ysgol yng Ngogledd Cymru ei brofiad cadarnhaol yn astudio Mathemateg Bellach gyda RhGMBC:
“Mae Astudio Mathemateg Bellach wedi bod yn brofiad hwyliog, heriol a gwerth chweil dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r tiwtoriaid wedi rhoi digon o gefnogaeth i mi ac roedd llawer o adnoddau ar gael i’n cynorthwyo yn ystod y flwyddyn.”
Mae Mathemateg Bellach yn parhau i fod yn gymhwyster pwysig sy’n cael ei ffafrio neu ei annog gan rai prifysgolion gyda thystiolaeth ymchwil o bontio gwell i raddau STEM ymhlith yr holl fyfyrwyr ond yn enwedig merched.
Mae datrys problemau yn parhau i fod yn ganolbwynt i RhGMBC ar gyfer Safon Uwch, gyda chyrsiau heriol wedi’u cynllunio i ymestyn dealltwriaeth myfyrwyr. Fel y dengys adborth dysgwyr, mae cyfranogwyr yn gweld y problemau yn ysgogol ac yn ddifyr, yn aml yn ffurfio cyfeillgarwch newydd ar hyd y ffordd.
Dywedodd myfyriwr ym Mlwyddyn 12 sy’n cymryd rhan yn y cwrs Cyflwyniad i Ddatrys Problemau eleni:
“Rwy’n teimlo bod y pynciau’n heriol iawn ac yn anodd eu dirnad, sy’n beth da oherwydd ei fod yn ymestyn eich dealltwriaeth.”
Gan gydnabod yr angen i gefnogi mathemategwyr disgleiriaf Cymru ymhellach, rydym yn cynnig rhaglen gymorth hybrid i fyfyrwyr sy’n anelu at astudio ym mhrifysgolion Grŵp Russell, a all fod angen profion mathemateg ychwanegol fel MAT neu STEP. Mae ein rhaglen Pontio Mathemateg i’r Brifysgol ar-lein yn helpu myfyrwyr i bontio’r bwlch rhwng mathemateg ysgol ac astudio ar lefel prifysgol.
Mae RhGMBC yn ddiolchgar i’n partneriaid mewn ysgolion, colegau, consortia addysg, a phrifysgolion am eu cymorth a’u cefnogaeth amhrisiadwy. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o fathemategwyr yng Nghymru a thu hwnt.