Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn daith, nid yn unig i ysgolion ond i’r system addysg ehangach wrth iddi addasu i gefnogi’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm. Mae’r newid yn null arolygu Estyn yn enghraifft bwysig o hyn.
Mae Ceri Richmond, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Treforys, yn Arolygydd Cymheiriaid. Mae hi wedi cael wythnos o hyfforddiant gloywi yn ddiweddar ac mae mewn sefyllfa berffaith i ddweud mwy wrthym sut mae’r dull arolygu yn newid.

I gychwyn Ceri, pam mynd yn Arolygydd Cymheiriaid?
Dechreuais yn 2017, oherwydd fel uwch arweinydd gyda chyfrifoldeb dros hunanwerthuso ac addysgu a dysgu, roeddwn i eisiau sicrhau fy mod i’n gwybod beth oedd arfer da. Roeddwn i eisiau bod yn hyderus mewn gweithdrefnau hunanwerthuso wrth arsylwi gwersi a mentora adrannau. I mi, mae’n ymwneud ag addysgu a dysgu gwell, er i mi ddechrau drwy ganolbwyntio ar broses hunanwerthuso’r ysgol.
Beth yw hanfod y rôl?
Mae’n bwysig i Estyn gael ymarferwyr proffesiynol yn y tîm er mwyn cael cydbwysedd a dod â’r persbectif presennol hwnnw. Fel arfer mae o leiaf dau arolygydd cymheiriaid ym mhob tîm. Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith ein bod yn aelodau llawn o’r tîm arolygu sydd â’r un ystod o gyfrifoldebau. Ar yr ochr arall, rwyf hefyd wedi gwerthfawrogi’r persbectif presennol hwnnw gan yr arolygwyr cymheiriaid pan fydd fy ysgol fy hun yn cael ei harolygu.
Allwch chi ddisgrifio eich hyfforddiant diweddar?
Fe wnes i wir fwynhau’r profiad. Roeddem yn llond ystafell o Arolygwyr Cymheiriaid, yn edrych yn bennaf ar addysgu a dysgu, gofal bugeiliol (e.e. sgiliau a phresenoldeb) a datblygiad tîm. Edrychom ar lawer o enghreifftiau o waith disgyblion a gofynnwyd i ni pa wybodaeth y gallem ei chywain ohono. Mae casglu tystiolaeth bob amser yn ymwneud â llenwi’r bylchau a dadansoddi sut y byddai’r craffu hwnnw’n cyd-fynd â sylwadau ac â llais disgyblion, er enghraifft. Yn ystod arolygiad byddem yn rhannu ein holl sylwadau a nodiadau o wahanol weithgareddau arolygu mewn dogfen fyw. Mae hyn yn golygu y gall yr holl arolygwyr gasglu a gweld y wybodaeth sy’n berthnasol i’r maes a ddyrannwyd iddynt i adrodd arno. Mae’n dda iawn fel hyfforddiant gloywi os oes bwlch wedi bod ers eich arolygiad diwethaf, a gallaf fynd â llawer yn ôl i’m hysgol fy hun.
Wrth i ni fynd i mewn i ysgolion sy’n cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y bydd y gweithgareddau hyn a’u ffocws yn datblygu i ystyried gwahaniaethau, er enghraifft, yn y ffordd yr ydym yn defnyddio egwyddorion cynnydd i fesur cynnydd, a’r hyn yr ydym bellach yn ei fesur o ran cynnydd, wrth i ni symud i gwricwlwm sy’n cael ei yrru gan ddibenion penodol, gyda phwyslais newydd ond mwy cyfartal ar effeithiolrwydd dysgwyr yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau.
Pa mor wahanol yw arolygiadau o dan y Cwricwlwm i Gymru?
Y gwelliant mwyaf yn y fframwaith presennol yw cael gwared ar ddyfarniadau crynodol. Mae’n golygu ein bod yn edrych ar gryfderau a gwendidau. Gallwch weld anghenion ysgol, ac maent yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad terfynol hwnnw, ond mae’r adborth yn fwy cytbwys ac yn llawer mwy adeiladol.
Mae trefniadau arolygu dysgwyr yn canolbwyntio mwy ar y meysydd pwysicaf sy’n ysgogi gwelliant. Mae hefyd yn fwy seiliedig ar weithgarwch hunanwerthuso’r ysgol ei hun. Yn y modd hwnnw, rydym hefyd yn asesu gallu’r ysgol ei hun i nodi gwelliant.
Yn ddiddorol, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedwyd bod angen i’r Arolygiaeth barchu’r penderfyniadau a wnaed ar lefel leol ar gwricwlwm. Fel arall mae risg y bydd ysgolion yn ceisio plesio arolygwyr yn hytrach na gwasanaethu anghenion y dysgwyr, sy’n gwneud synnwyr llwyr yng Nghymru!
Felly pa arddull all ysgolion ei ddisgwyl gennych chi?
Mae’r arddull wedi newid. Nid ‘brawd mawr’ yw hi bellach, mae’n fater o weithio gyda’r ysgolion ac mae’n fwy cefnogol, er fy mod yn credu y bydd yn cymryd peth amser cyn i ysgolion sy’n cael eu harolygu deimlo hyn. Mae’r adroddiad yn llawer mwy cytbwys ac adeiladol. Hefyd, mae cyswllt mwy rheolaidd ac ymweliadau amlach – ymweliadau ymgysylltu ac ymweliadau thematig. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i ganolbwyntio ar brosesau gwella i gefnogi gwerthusiadau cryfach.
Ar y cyfan, mae’n teimlo’n well, yn enwedig mewn cyfnod pan mae’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno o flwyddyn i flwyddyn mewn ysgolion uwchradd. Mae angen i ni gydnabod faint o newid sy’n gysylltiedig â hynny a sicrhau bod pob haen ac adran yn y sector yn siarad â’i gilydd ac yn cyfathrebu’n agored â’i gilydd.