Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg – letter from Lynne Neagle

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Fel rhan o’r broses o ad-drefnu’r Cabinet, yn dilyn penodi Vaughan Gething yn Brif Weinidog, mae Lynne Neagle wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan ddisodli Jeremy Miles sy’n symud i bortffolio’r Economi.

Lynne Neagle yw’r Aelod o’r Senedd dros Dorfaen, ac mae’n symud i’r portffolio Addysg o’i swydd flaenorol yn y Cabinet fel y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl.

Annwyl gyfaill

Mae’n fraint i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rwy’n gwybod o fy nghyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd pa mor ymroddedig a gweithgar yw’r gweithlu addysg yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn fy rôl newydd.

Rydych yn hanfodol i lwyddiant ein diwygiadau addysg trawsnewidiol, gan gynnwys cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, yr ymgynghoriad cyfredol ar ddysgu 14 i 16, TGAU Gwneud-i-Gymru, a gweithredu’r rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol. Fy mhrif flaenoriaeth fydd sicrhau bod gennych yr offer i wneud y diwygiadau hyn yn llwyddiant.

Rwy’n ymwybodol iawn eich bod yn cefnogi ein trawsnewidiad addysg uchelgeisiol wrth ddelio hefyd â chanlyniadau pandemig byd-eang. Mae’r cynnydd mewn materion iechyd meddwl ymhlith dysgwyr a’r gweithlu, gostyngiad mewn presenoldeb ac adroddiadau o ymddygiad sy’n dirywio yn faterion sy’n ein poeni ni i gyd.

Mae angen i’r llywodraeth, rhieni a gofalwyr, a’r gymdeithas gyfan ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Rwy’n gwybod na all y cyfan fod yn gyfrifoldeb ar ysgolion.

Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle gorau mewn bywyd yn angerdd i mi. Mae addysg dda mewn amgylchedd cynhwysol, sy’n annog a diogel yn helpu i feithrin sgiliau, gwybodaeth a gwytnwch. Dyma’r rhodd fwyaf y gallwn ei rhoi i’n plant a’n pobl ifanc.

Fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, roeddwn yn gadeirydd ar y cyd ar y Bwrdd Gweinidogol i fwrw ymlaen â’n Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru ac roeddwn yn gallu sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed yng Nghymru.

Rwy’n bwriadu treulio fy misoedd cyntaf yn y swydd yn gwrando arnoch chi. Rwy’n gobeithio ymweld ag ysgolion ar ôl y Pasg ac yn ystod yr ymweliadau hynny, yn ogystal â chwrdd â phlant, pobl ifanc a’ch staff, hoffwn siarad â chi am unrhyw bynciau llosg.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi a chwrdd â chymaint ohonoch â phosibl. Os oes unrhyw faterion yr hoffech eu trafod gyda mi, mae fy nrws yn agored. E-bostiwch Dysg@llyw.cymru neu Gohebiaeth.Lynne.Neagle@llyw.cymru a byddaf mewn cysylltiad.

Yn gywir

Lynne Neagle AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading