Neidio i'r prif gynnwy

Podlediad newydd – adolygu calendr yr ysgol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Dechreuwyd ymgynghoriad ar 21 Tachwedd, gan archwilio opsiynau ar gyfer newid calendr yr ysgol. Nod newidiadau yw gwella lles dysgwyr a staff a chefnogi addysgu a dysgu, gyda’r gwyliau wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson. Byddai’r newid cyntaf yn creu pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref, gan leihau toriad yr haf o wythnos. Ni fydd nifer y diwrnodau addysgu na’r gwyliau yn newid.

Yn y podlediad hwn, mae penaethiaid o ysgol gynradd, uwchradd ac ysgolion 3-19 yn trafod yr effeithiau a’r goblygiadau posibl i staff addysgu, disgyblion a rhieni. Cadeirydd y drafodaeth yw Tegwen Ellis, Prif Weithredwr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (NAEL).

Gwrandewch ar eich platfform dewisedig isod:

Apple podcasts 

Spotify

Spreaker

Neu ar gyfer unrhyw ffôn symudol, defnyddiwch y ‘ddolen hud’ hon.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Chwefror. Gellir dod o hyd iddo yma.

Gweithredu Cwricwlwm i Gymru: grŵp newydd yn helpu i oresgyn heriau.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Bydd Grŵp Polisi Cwricwlwm i Gymru newydd yn gweithio i oresgyn yr heriau sy’n wynebu ymarferwyr fel chi wrth i chi weithredu Cwricwlwm i Gymru. Mae’n cynnwys ymarferwyr o wahanol fathau o ysgolion a lleoliadau ledled Cymru.

Bydd y grŵp yn cyfarfod tua unwaith y mis a bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar:

  • Cyd-ddatblygu polisi
  • Llywio a hyrwyddo’r Rhwydwaith Cenedlaethol
  • adolygu a diweddaru canllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru

Dros amser, bydd cydweithwyr eraill yn gallu ymuno â’r grŵp. Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu leoliad sy’n defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru ac yn angerddol am weithio gydag eraill i gyd-greu atebion, cwblhewch y Ffurflen Mynegi Diddordeb er mwyn cael eich ystried ar gyfer y rhestr wrth gefn.

Os hoffech wybod mwy am sut y ffurfiwyd y Grŵp Polisi a’r math o waith maen nhw’n ei wneud, gallwch ddarllen Blog Bethan.

Aelodau’r grŵp presennol yw:

Allison Evans, Ysgol Gynradd Portmead Primary School, Abertawe

Amanda Taylor, uned cyfeirio disgyblion Maes Derw, Abertawe

Bethan Jones, Ysgol Arbennig Cedewain, Powys

Bethan Moore, Ysgol Arbennig Crownbridge Torfaen

Catrin Eleri Penge, Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam

Catrin Evans, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-bont

Catryn Lawrence, Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn, Aberystwyth

Craig Davies, Ysgol Gyfun Dwr Y Felin, Castell-nedd Port Talbot

Dale Duddridge, Maesteg Comprehensive School, Pen-y-bont

Eizabeth Dennis, Gwasanaeth Cynhwysiant Llesiant ac Ymddygiad, Castell-nedd Port Talbot

Eleri Gwyn, Ysgol Dyffryn Conwy, Conwy

Gemma Prangley-Hunt, Ysgol Gynradd Maindee, Casnewydd

James Griffiths, Llangan Primary School, Y Bont-faen

Jane Altham Watkins, Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen, Abertawe

Janine Tennant Jones, Ysgol Arbennig y Gogarth, Conwy

Kate Watkins-Freeman, Meithrinfa Ribbons, Dinas Powys

Lana Martin, Ysgol Gynradd Pontygwaith, Rhondda Cynon Taf

Lauren James, Bridge Achievement Centre, Casnewydd

Leanne Prevel, Ysgol Gynradd Gatholig Mary Immaculate, Sir Benfro

Lowri Roberts, Ysgol Brynrefail, Gwynedd

Marc Bowen, Ysgol Gynradd Raglan, Sir Fynwy

Maria Williams, Ysgol Gynradd Caedraw, Merthyr Tydfil

Michelle Barry, Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, Merthyr Tydfil

Michelle McNamee, Ysgol Gynradd St Anthony, Sir y Fflint

Nia Williams, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Sir Gaefyrddin

Rachel Faulkner, Western Learning Federation, Caerdydd

Rachel George, Ysgol Arbennig Maes y Coed, Castell-nedd Port Talbot

Rachel Teague, Ysgol Uwchradd Cantonian, Cardiff

Rhys Hughes, Ysgol Gyfun Gowerton, Abertawe

Sally Williams, Ysgol Arbennig Crug Glas, Abertawe

Sam Osborne, Ysgol Gynradd Holton, Bro Morgannwg

Sarah Cooke, Ysgol Gynradd Parc Jubilee, Casnewydd

Sarah Tudur, Ysgol Iolo Morgannwg, Y Bont-faen, Bro Morgannwg

Suzanne Chamberlain, Ysgol Gynradd Gatholig Dewis Sant, Abertawe

Tania Morgan, Ysgol Y Bynea, Llanelli

Victoria Jobson, Ysgol Uwchradd Catholig ac Anglicanaidd St. Joseph, Wrecsam

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau drafft traws i ysgolion

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau drafft i ddisgyblion traws ar gyfer ysgolion yn Lloegr. Ni fydd yn berthnasol i ysgolion yng Nghymru.

Bydd gan Gymru ei chanllawiau ei hun, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag arweinwyr ysgolion, ymarferwyr ac ystod eang o randdeiliaid ar ei datblygiad. Bydd y canllawiau drafft yn barod yn y gwanwyn a bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y cynnwys.

Roedd darparu canllawiau cenedlaethol priodol i gefnogi plant a phobl ifanc traws mewn addysg yn ymrwymiad yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023. Roedd y cynllun yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd.

Mae arweinwyr ac ymarferwyr addysg wedi dweud yn glir bod angen canllawiau cenedlaethol arnynt i gefnogi plant a phobl ifanc traws ac anneuaidd i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys, a’u bod yn ddiogel yn eu haddysg.

Nadolig Cyd-luniadol Llawen, a diolch yn fawr!

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Wrth i Gwricwlwm i Gymru barhau i’w gael ei gyflwyno, mae mwy a mwy o ysgolion a chydweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar gyd-lunio cwricwla perthnasol a diddorol i’w disgyblion. Cafwyd hwyl a sbri – ynghyd â gwaith caled – wrth gydweithio i greu rhywbeth newydd.

Mae nifer o ysgolion hefyd wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu straeon a helpu i   greu astudiaethau achos sy’n dangos y broses a’r daith – am ei bod hi’n daith – tuag at greu Cwricwlwm penigamp.

Diolch yn fawr iawn i chi gyd. I bob ymarferydd, pob gweithiwr addysg yng Nghymru, am eich gwaith a’ch angerdd sy’n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol ein pobl ifanc.

Mwynhewch y Nadolig, a bydded i eiriau dwy seren ffilm astudiaeth achos diweddar (am athrawon sy’n dychwelyd i Gymru i addysgu) adleisio wrth i derfyn y tymor agosau.

Gyda diolch i ddisgyblion a staff Ysgol Gymunedol Trimsaran.

Mae’r adran astudiaeth achos ar Hwb yma

Gweithdai tegwch a chynwysoldeb – cymryd gofal a rhannu!  

Mae ymarferwyr wedi bod yn siarad am: carfannau gwahanol o ddysgwyr, er enghraifft plant sy’n byw mewn tlodi a dysgwyr ag ADY; agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru megis hanesion a chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig; ac, yn fwy cyffredinol, am sut mae eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, gan helpu pawb i wneud cynnydd mewn dysgu a datblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben. 

Yn nigwyddiad Abertawe ym mis Tachwedd, yr ail o 5 digwyddiad wyneb yn wyneb ledled Cymru, bu cydweithwyr o uned cyfeirio disgyblion, ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru, ysgol gynradd gyda nifer uchel o ddisgyblion Sipsiwn Roma a Theithwyr, ac ysgol arbennig, yn esbonio eu dulliau ac yn arwain trafodaethau, yn siarad yn onest wrth ateb rhai cwestiynau manwl iawn! 

Roedd naws ddigyfryngiad wrth i bawb eistedd wyneb yn wyneb wrth y byrddau, a dywedodd cydweithwyr: 

Read more

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

“Dwi’n dysgu lot, wrth wrando ar be’ mae pobl arall yn ‘neud.” 

Mae cyfres o weithdai ar y gweill, sy’n cynnig cipolwg gwerthfawr i ymarferwyr ar y dulliau y mae eraill yn eu defnyddio i sicrhau bod eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb i’w holl ddysgwyr, yn ogystal â rhannu eu profiadau nhw eu hunain.  Mae dyddiadau ar gael nawr ar gyfer digwyddiadau ym mis Ionawr a mis Chwefror, a gall ymarferwyr gofrestru gan ddefnyddio’r ddolen isod. 

Mae’r digwyddiadau’n cynnwys sesiwn farchnad i gyfarfod a chysylltu â sefydliadau yn eich rhanbarth sy’n gallu cefnogi staff a dysgwyr gydag agweddau ar degwch a chynwysoldeb. 

Mae ymarferwyr wedi bod yn siarad am: carfannau gwahanol o ddysgwyr, er enghraifft plant sy’n byw mewn tlodi a dysgwyr ag ADY; agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru megis hanesion a chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig; ac, yn fwy cyffredinol, am sut mae eu cwricwlwm yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, gan helpu pawb i wneud cynnydd mewn dysgu a datblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben. 

Yn nigwyddiad Abertawe ym mis Tachwedd, yr ail o 5 digwyddiad wyneb yn wyneb ledled Cymru, bu cydweithwyr o uned cyfeirio disgyblion, ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru, ysgol gynradd gyda nifer uchel o ddisgyblion Sipsiwn Roma a Theithwyr, ac ysgol arbennig, yn esbonio eu dulliau ac yn arwain trafodaethau, yn siarad yn onest wrth ateb rhai cwestiynau manwl iawn! 

Roedd naws ddigyfryngiad wrth i bawb eistedd wyneb yn wyneb wrth y byrddau, a dywedodd cydweithwyr: 

Read more

Cyd-greu cymwysterau newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr

Gwyddom fod cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed yn cael cryn ddylanwad ar y ffordd y mae dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn cael profiad o’r Cwricwlwm. Felly, rydym wedi datblygu cymwysterau newydd a rhai wedi’u diweddaru i gefnogi’r dysgu hwnnw, gan ddechrau gyda chymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru.

Mae’n hanfodol bod y cymwysterau hyn yn adlewyrchu chwe maes dysgu a phrofiad (MDPh) y Cwricwlwm, yn ogystal â chefnogi dysgwyr i wireddu ei bedwar diben. Rydym wedi ymchwilio’n ddwfn i’r cynnig TGAU, yn ogystal â chymwysterau eraill sydd ar gael, gan gadw’r ystyriaethau hyn yn ganolog i’n gwaith diwygio yn y maes cymwysterau 14 -16.

Rydym wedi rheoli’r broses o ddiwygio cymwysterau TGAU a’r cynnig ehangach o gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed ar wahân, fel rhaglenni gwaith penodol, er mwyn rhoi’r ffocws sydd ei angen ar y ddau faes. Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r canfyddiadau a’r penderfyniadau yn gynnar yn 2024.

Read more

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau gyda Cymwysterau Cymru, wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddiwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru. Mae’n myfyrio ar y dull cydweithredol a arweiniodd at ddatblygu’r cymwysterau newydd hyn, a’r camau nesaf ar y daith.

Bu newidiadau sylfaenol mewn addysg yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi arwain at newid mawr yn yr hyn y mae plant yn ei ddysgu a sut y cânt eu haddysgu. Felly, i gefnogi’r Cwricwlwm, rydym yn datblygu amrywiaeth o gymwysterau newydd a chyffrous, wedi’u cynllunio i sicrhau y bydd ein pobl ifanc yn gadael addysg yn gymwys ar gyfer y dyfodol.

Gwyddom fod cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed yn cael cryn ddylanwad ar y ffordd y mae dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn cael profiad o’r Cwricwlwm. Felly, rydym wedi datblygu cymwysterau newydd a rhai wedi’u diweddaru i gefnogi’r dysgu hwnnw, gan ddechrau gyda chymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru.

Mae’n hanfodol bod y cymwysterau hyn yn adlewyrchu chwe maes dysgu a phrofiad (MDPh) y Cwricwlwm, yn ogystal â chefnogi dysgwyr i wireddu ei bedwar diben. Rydym wedi ymchwilio’n ddwfn i’r cynnig TGAU, yn ogystal â chymwysterau eraill sydd ar gael, gan gadw’r ystyriaethau hyn yn ganolog i’n gwaith diwygio yn y maes cymwysterau 14 -16.

Rydym wedi rheoli’r broses o ddiwygio cymwysterau TGAU a’r cynnig ehangach o gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed ar wahân, fel rhaglenni gwaith penodol, er mwyn rhoi’r ffocws sydd ei angen ar y ddau faes. Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r canfyddiadau a’r penderfyniadau yn gynnar yn 2024.

Read more

Cynhadledd Penaethiaid 20fed Tachwedd – fideos ac adnoddau eraill

Gweler neges debyg yn Saesneg

Am y tro cyntaf ers 2019 daeth benaethiaid ynghyd yng Nghaerdydd i glywed y Gweinidog Jeremy Miles annerch cynhadledd, gofyn cwestiynau iddo, a chymryd rhan mewn gweithdai dan arweiniad cyd-benaethiaid, ac yna cafwyd drafodaeth panel gan gynnwys Estyn, Cymwysterau Cymru, Cyngor Abertawe a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Canolbwyntiwyd ar bynciau gweithdy ar ddysgu yn dilyn Covid wrth fynd i’r afael â pholisi dysgu 14-16 (cyn i’r ymgynghoriad cynnar yn 2024); dysgu sy’n gynhwysol, yn ddiddorol ac yn berthnasol ond sydd hefyd yn uchelgeisiol; ymgysylltu â theuluoedd; Arfer effeithiol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol; a lles penaethiaid. Mae’r holl sesiynau wedi’u recordio.

Gweler adroddiad y Gweinidog yma.

Gweler yr agenda a’r adnoddau ategol yma.

Ac i weld fideos o anerchiad y Gweinidog, gweithdai a sesiynau trafod y Gweinidog, ar y diwrnod, dewiswch o’n rhestr chwarae YouTube.

Ymgynghoriad ar ddiwygio calendr ysgolion

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar 21 Tachwedd, gan archwilio opsiynau ar gyfer newid calendr yr ysgol. Nod newidiadau yw gwella lles disgyblion a staff a chefnogi addysgu a dysgu, gyda’r gwyliau wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson. Byddai’r newid cyntaf yn creu pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref, gan leihau toriad yr haf o wythnos. Ni fydd nifer y diwrnodau addysgu na’r gwyliau yn newid.

Un rheswm dros y newid sy’n cael eu cynnig yw bod tymor yr hydref yn hirach na’r lleill. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y tymor hwn yn flinedig ac yn heriol i ddysgwyr a staff, gan fod mwy o addysgu yn cael ei wasgu i’r tymor hwn nag i unrhyw un arall.

Gweler ein animeiddiad syml

Y Rhwydwaith Cenedlaethol i drafod y Cwricwlwm a Chynnydd – Tach 29

Gweler neges debyg yn Saesneg

Crëwyd y Rhwydwaith Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ynghyd ag ymarferwyr fel fforwm i drafod gweithredu ac ymarfer Cwricwlwm i Gymru. Mae’n cyfarfod eto ar 29 Tachwedd.

Bydd y sesiwn rithiol hon yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, gan ddefnyddio adnoddau sy’n cynnwys Deall y cwricwlwm ar waith: Camau i’r Dyfodol, a chynllunio cwricwlwm â chynnydd mewn golwg, gan ddefnyddio adnoddau a ddatblygwyd yn ystod prosiect peilot diweddar i gynllunio cwricwlwm: Peilot Cynllunio Cwricwlwm 2023.

Bydd cydweithwyr o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan, a gall ymarferwyr gofrestru i ymuno yma: Sgwrs Rhydwaith Cenedlaethol Cwricwlwm a Chynnydd / National Network Conversation Cwricwlwm a Dilyniant

Isod, mae Ceri-Anwen James o Ysgol Bro Edern yn esbonio pam mae mynychu sesiynau’r Rhwydwaith Cenedlaethol mor fuddiol:

Gweler hefyd yr adnoddau o sesiynau blaenorol yma.

Hysbysiad i’r wasg gan Adnodd – Prif Weithredwr wedi’i benodi

Enwyd Emyr yn gynharach eleni fel un o ‘100 o Wneuthurwyr Newid’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am gael effaith gadarnhaol drwy ei waith ar ddiwygio cymwysterau.

Read more

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Adnodd, corff hyd braich newydd a fydd yn goruchwylio’r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yng Nghymru, wedi penodi Emyr George fel ei brif weithredwr newydd cyntaf.

Wedi’i sefydlu yn gynharach eleni, Adnodd fydd y siop un stop ar gyfer adnoddau addysg dwyieithog. Bydd yn goruchwylio’r gwaith o gomisiynu a darparu deunyddiau addysgu a dysgu o ansawdd uchel i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, a’r cymwysterau newydd ar gyfer dysgwyr 14-16 oed.

Bydd Emyr yn ymuno ag Adnodd yn gynnar yn 2024 o’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Cymwysterau, Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru. Daw â chyfoeth o brofiad o bob rhan o’r sector addysg, gan gynnwys wyth mlynedd yn Cymwysterau Cymru a phrofiad blaenorol yn Ofqual – y rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau ar gyfer Lloegr.

Yn fwy diweddar, mae Emyr wedi bod yn arwain diwygiadau proffil uchel i gymwysterau i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys set newydd sbon o gymwysterau TGAU ‘Gwneud i Gymru’.

Enwyd Emyr yn gynharach eleni fel un o ‘100 o Wneuthurwyr Newid’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am gael effaith gadarnhaol drwy ei waith ar ddiwygio cymwysterau.

Read more