Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp ymarferwyr newydd i gefnogi cyflwyno Cwricwlwm i Gymru – allwch chi helpu?

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi ei ddatblygu gan athrawon ac ar gyfer athrawon. Ac mae’n hanfodol bod lleisiau ymarferwyr yn parhau i ddylanwadu ar ddatblygiadau wrth iddo esblygu. Ond sut ydyn ni’n gallu sicrhau bod ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau ar draws Cymru yn gallu gwneud hynny? Trwy Grŵp Polisi i ymarferwyr sy’n chwilio am aelodau newydd.

I roi cychwyn arni, cafodd cyfres o weithdai ei chynnal cyn yr haf i sefydlu cylch gorchwyl y grŵp newydd. Roedd yn cynnwys ymarferwyr sydd wedi bod yn rhan o’r Rhwydwaith Cenedlaethol, project Camau i’r Dyfodol, peilot Understanding by Design, rhai sydd wedi bod wrthi’n adolygu adnoddau Hwb,  ac aelodau grwpiau cyd-ddatblygu eraill Cwricwlwm i Gymru. Rwan rydyn ni’n galw am fwy o aelodau i ymuno, felly cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb os oes diddordeb gennych chi!*

Isod, mae Bethan Jones yn siarad am ei nerfusrwydd wrth ymuno â’r gweithdy cyntaf, sut mae hi wedi elwa trwy gymryd rhan, a pham mae’n teimlo ei bod mor bwysig bod llais yr ymarferydd yn cael ei glywed.

“Iawn, felly waeth imi gyfaddef, pan o’n i’n ystyried  ddod yn aelod o’r Grŵp Polisi Ymarferwyr, doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd o, na beth fydden ni’n ei wneud yn ystod y pedwar diwrnod hynny yn nhymor yr haf. Fydden nhw hyd yn oed eisiau fi – arweinydd cwricwlwm mewn ysgol arbennig yng nghefn gwlad canolbarth Cymru? Beth fyddwn i’n gallu cynnig i’r grŵp?

Doeddwn i ddim wedi bod yn rhan o’r broses arloesi, nac unrhyw waith datblygu cwricwlwm ar y cyd yn genedlaethol o ran hynny, ac roeddwn i hefyd yn newydd yn fy swydd ac yn fy ysgol, felly roeddwn i’n teimlo braidd yn ddibrofiad ac yn ansicr ohonof fi fy hun. Ond rwy wedi bod yn hwyluso sgyrsiau‘r Rhwydwaith Cenedlaethol ers tro bellach, ac wedi cefnogi fy nghlwstwr ym Mhowys fel rhan o’m rôl secondiad fel Arweinydd Addysgeg am ddwy flynedd, felly roeddwn i’n gwybod bod unrhyw gyfle a fyddai’n fy helpu i ddatblygu fy nealltwriaeth ymhellach yn un i fanteisio arno.

Daeth ein grŵp bychan o ymarferwyr, sy bellach yn chwilio am aelodau newydd, at ei gilydd i gytuno cylch gorchwyl ar gyfer y Grŵp Polisi. Gofynnodd Llywodraeth Cymru am ein mewnbwn ar sut olwg fyddai ar y grŵp hwn, sut y byddai’n gweithredu a beth fyddai ei flaenoriaethau. Roedd hyn yn gyfle i mi roi rhywbeth yn ôl, cael dweud fy nweud, a chael rhywfaint o fewnbwn i’r hyn sy’n digwydd ym myd addysg yng Nghymru. Rwy’n credu’n gryf yn y ffordd y mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio trwy ddatblygu ar y cyd, proses gynhwysol yn cynnwys ymarferwyr o bob rhan o Gymru ac rwy’n falch iawn ein bod yn ceisio parhau â hyn drwy’r Grŵp Polisi a’r Rhwydwaith Cenedlaethol. Ond dydy o ond yn gallu fod mor gynhwysol ag yr ydyn gyd yn ei wneud o ac mae angen ymarferwyr i fod yn rhan o hyn.

Felly, penderfynais roi syndrom y ffugiwr o’r neilltu, a mynd a rhoi cynnig arni. Mae’n rhaid i chi gymryd rhan os ydych chi am ddylanwadu ar rywbeth mwy. Cyn gynted ag y cerddais drwy drws ein gweithdy cyntaf diflannodd y nerfau. Roedd pawb mor groesawgar a chyfeillgar, roedd y cyfarfod wedi’i gynllunio’n drylwyr ac roedd y bwriadau ar gyfer ein hamser gyda’n gilydd wedi’u nodi mor glir fel fy mod yn teimlo’n gartrefol gyda nhw ar unwaith. Roedd rhai wynebau cyfarwydd yn yr ystafell, eraill yn newydd i mi, ond ymarferwyr fel fi oedden nhw i gyd. Roedd rhai wedi bod yn rhan o’r broses arloesi ac yn adnabod ei gilydd yn dda, ac eraill yn newydd i’r broses fel fi, ond roedd pob barn yn cael ei hystyried yn gyfartal. Yn brofiadol neu’n ddibrofiad, roedd gan bawb lais ac roedd ein safbwynt o bwys. Mae ein hysgolion ar wahanol gamau o ddiwygio’r cwricwlwm ac o’r herwydd gallen ni gyd gyfrannu rhywbeth o werth i’r grŵp.

Rydyn ni’n dod o wahanol gyd-destunau addysg: cynradd, uwchradd, addysg arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion;  ac yn dod o bob cwr o Gymru. Mae ‘na Gymry Cymraeg, dysgwyr profiadol a dechreuwyr, yn rhoi llais i gwricwlwm dwyieithog go iawn mewn ffordd dydw i yn bersonol erioed wedi’i hystyried o’r blaen. Buom yn gweithio ein ffordd drwy’r tasgau fel grŵp, pob un ohonyn ni gyda’n persbectif unigryw ein hunain yn cynnig mewnbwn yn adlewyrchu safbwynt y plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd, ein rhanbarthau, ein meysydd arbenigedd, a’n profiadau ein hunain. Roedd mor bwysig bod ystod eang o wahanol bobl o ysgolion a lleoliadau gwahanol yn dod â’u barn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y grŵp yn esblygu gyda mwy o ymarferwyr yn dod ynghyd.

Ac eto, wrth i mi edrych yn ôl ar y gweithdai, rwy’n gweld nad y deilliannau y cytunwyd arnynt, na’r mewnbwn ar y cyd i Lywodraeth Cymru yw’r hyn rwy’n ei werthfawrogi fwyaf, ond yr amser trafod. Yr amser i oedi, meddwl a myfyrio gyda chyd-ymarferwyr sydd wedi dod yn ffrindiau cyflym.  Mae rhannu syniadau, profiadau ac adnoddau wedi cyflymu fy nealltwriaeth o weithio o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru; syniadau sy wedi dod nôl i’r ysgol gyda fi a syniadau fy hun rwy  wedi’u rhannu ag eraill. Mae wedi fy ailfywiogi, wedi adfywio fy angerdd at bopeth ynghylch Cwricwlwm i Gymru. Ni waeth ble rydyn ni ar ein teithiau, mae gan bob un ohonyn ni rywbeth o werth i’w gynnig. Mae’n iawn ailedrych ar ein dealltwriaeth gynharach, ei gwestiynu ac adeiladu arno. ‘Dyw’r un ohonon ni’n arbenigwr ac rydyn ni gyd yn mireinio’r hyn rydyn ni’n ei wybod wrth i ni ddysgu mwy. Ac mae wedi meithrin ynof fi hyder cryfach yn y broses hon, yn fy nghydweithwyr, ond yn bwysicaf oll ynof fi fy hun, a fy rôl, ac o ran fy ysgol hyn yw’r peth mwyaf amhrisiadwy y gallwn fod wedi dod yn ôl gyda mi. “

* Dyddiad cau 29 Hydref

Gadael ymateb