Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gwerthuso’r Cwricwlwm i Gymru 2023

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm i Gymru, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol ledled Cymru, yn destun gwaith gwerthuso helaeth.

Mae dau adroddiad blynyddol cychwynnol wedi rhoi cipolwg cadarn ar sefyllfa bresennol. Ond fel y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ym mis Gorffennaf, bydd gwaith gwerthuso strwythuredig yn cael ei gynnal yn y tymor hir – gan ddechrau eleni. Diben y gwaith yw ddeall sut mae’r newidiadau wedi gweithio ac i ba raddau y maent yn cael yr effaith a ddymunir ar bob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir a’u hanghenion.

Bydd hefyd yn edrych ar bethau sydd ddim yn symud ymlaen yn ôl y disgwyl, a’r rheswm am hynny, fel bod modd darparu cefnogaeth ac arweiniad yn y mannau cywir.

Mae’r cynllun gwerthuso yn nodi ystod eang o waith ymchwil a monitro a fydd yn cael ei wneud dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yn cynnwys siarad â channoedd o ysgolion, dysgwyr a rhieni mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Uchod: prosiectau tystiolaeth sy’n cyfrannu

Fel rhan o hynny, bydd gwaith gwerthuso ffurfiannol Cwricwlwm i Gymru yn dechrau yn yr hydref hwn. Bydd yr astudiaeth hon yn cael ei chynnal ar raddfa lawer mwy nag o’r blaen, sy’n golygu y bydd y casgliadau’n adlewyrchu’r  cynnydd sydd wedi’i wneud ledled Cymru, gan nodi hefyd unrhyw heriau a chyfleoedd.  Bydd yn edrych ar ystod enfawr o ffactorau sy’n effeithio ar y broses o ddiwygio’r cwricwlwm  drwy arolygon ar raddfa fawr acarchwiliadau ansoddol a thrylwyr i faterion penodol fel ansawdd ac addasrwydd y ddarpariaeth dysgu proffesiynol; cynllunio’r cwricwlwm; addysgeg; a dulliau o sicrhau degwch a chynwysoldeb.

Er mwyn asesu canlyniadau ac effaith y Cwricwlwm i Gymru, bydd canfyddiadau’n cael eu casglu a’u dwyn ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau bob blwyddyn. Bydd crynhoi a a dadansoddi’r wybodaeth hon yn rhoi sylfaen dystiolaeth gref i lywio adroddiadau blynyddol yn y dyfodol ac yn helpu i gyfeirio ein blaenoriaethau a’n cyllid ar gyfer rhoi cymorth i ysgolion. Mae hynny’n cynnwys casgliadau o astudiaethau gwerthuso ac ymchwil gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â rhai o’r byd academaidd a gan bartneriaid strategol fel Estyn.

Mae rhaglen gwerthuso’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i chynllunio a’i harwain gan Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth, proffesiwn o fewn y Llywodraeth sy’n gweithio i safonau trylwyredd a didueddrwydd. Bydd y prosiectau unigol yn cael eu cyflawni gan gwmnïau ymchwil annibynnol, contract a reolir gan ymchwilwyr Llywodraeth Cymru.

Gadael ymateb