Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr ‘Seren’ – sêr y dyfodol o’n hysgolion gwladol

See this post in English

Yn 2022, gwnaeth 484 o ddysgwyr o ysgolion gwladol yng Nghymru gais i astudio ym Mhrifysgolion Rhydychen neu Gaergrawnt. Cafodd 87 ohonynt gynigion, o’i gymharu â 65 y flwyddyn flaenorol, sy’n gynnydd o 33% sy’n cyd-fynd â’r tueddiad cyffredinol o gynnydd cyson.

Mae nifer y ceisiadau i’r prifysgolion gorau a’r ysgolion prifysgol gorau yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Academi Seren wedi cael cryn ddylanwad ar y llwyddiant hwnnw, ac mae’n helpu dysgwyr mwy galluog o bob rhan o Gymru, ni waeth beth fo’u cefndir, eu statws economaidd na’u sefyllfa bersonol, i gyflawni eu potensial academaidd.

Mae ‘Seren’, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cydweithio â phartneriaid i ddarparu rhaglen helaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r cwricwlwm, gan helpu dysgwyr i ehangu eu gorwelion, a datblygu angerdd am eu dewis o faes astudio heb unrhyw gost i’r dysgwr. Mae’n agored i flynyddoedd 8 i 13.

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn ymweld ag Ysgol Haf Seren

Un o’r gweithgareddau mwyaf cyffrous, sy’n gallu newid cwrs bywyd, a gynhelir gan ‘Seren’ yw’r ysgolion haf preswyl, sy’n rhoi syniad i ddysgwyr o sut beth fydd astudio mewn prifysgol a bywyd yn y brifysgol. Mae’r ysgolion hefyd yn anelu at ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol ac academaidd dysgwyr i gefnogi eu hastudiaethau TGAU a Safon Uwch. Mae’r rhain yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, a hoffai Seren rannu rhai enghreifftiau gwych isod:

Ysgol haf yr Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd

Ym mis Gorffennaf, cafodd 55 o ddysgwyr blwyddyn 12 o bob rhan o Gymru brofiad uniongyrchol o yrfa mewn meddygaeth a sut beth yw bod yn fyfyriwr meddygol, trwy gymryd rhan mewn gweithdai sgiliau dysgu a chyfathrebu yn seiliedig ar achosion, wedi eu modelu ar addysg myfyrwyr meddygol y flwyddyn gyntaf.

Uchafbwynt yr ysgol haf oedd ‘Ysbyty Gobaith’, lle sefydlodd y brifysgol wardiau i ddysgwyr eu rheoli, lle bu’n rhaid iddynt asesu a thrin ‘cleifion’ (actorion â ‘symptomau’) gyda chefnogaeth staff clinigol a myfyrwyr meddygol.

Sylw gan ddysgwr: ‘Roedd yr holl weithgareddau yn llawer mwy diddorol a chredadwy nag oeddwn i wedi dychmygu’…’ Fe wnaeth un o’r actorion gwrywaidd ddod â deigryn i’m llygad’

Ysgol y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth

Ym mis Awst, treuliodd 80 o ddysgwyr blwyddyn 11 dri diwrnod yn archwilio’r heriau allweddol y mae’r byd yn eu hwynebu ar hyn o bryd megis newid yn yr hinsawdd a rhyfeloedd yn Ewrop a chyfandiroedd eraill.

Sylw gan ddysgwr: ‘Dysgu am bynciau y tu hwnt i unrhyw beth dwi erioed wedi ei wneud yng nghwricwlwm yr ysgol’…’yn bendant cwrdd â phobl o bob cwr o’r wlad! Dyma’r agosaf rydw i wedi bod at ryngweithio a rhwydweithio ag eraill y tu allan i’m hardal, ac roedd cwrdd â phobl sydd i gyd yn rhannu’r un profiad diwylliannol yn anhygoel.’

Ysgol haf milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth

Ym mis Gorffennaf, cafodd 40 o filfeddygon y dyfodol y cyfle unigryw i brofi bywyd fel myfyriwr milfeddygol, gan gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol gydag anifeiliaid, a dysgu sgiliau clinigol ac anatomeg yn unig ysgol filfeddygol Cymru. Treuliasant amser yng nghanolfan geffylau fferm Trawsgoed y brifysgol ac mewn milfeddygfa  leoI.

Adborth gan ddysgwyr: ‘Mae darganfod sut brofiad yw’r cwrs gan fyfyrwyr sy’n astudio yno wedi rhoi darlun mwy realistig i mi o’ brifysgol’…’mae wedi ehangu fy ngorwelion ac agor fy meddwl i edrych ymhellach ar y gwahanol lwybrau sydd ar gael ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.’

Coleg yr Iesu, Ysgol Haf Rhydychen

Ym mis Awst, bydd 75 o dysgwyr blwyddyn 12 yn cael blas ar sut beth yw astudio yn Rhydychen mewn gwirionedd, gan gynnwys dosbarthiadau tiwtorial, seminarau a darlithoedd sy’n rhoi pwyslais ar ymgysylltu academaidd, gyda’r nod o roi’r wybodaeth, yr adnoddau, yr ysbrydoliaeth a’r cymhelliant i gyfranogwyr wneud ceisiadau cystadleuol i brifysgolion mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr Coleg yr Iesu bellach yn astudio yn yr Unol Daleithiau mewn sefydliadau blaenllaw gan gynnwys Coleg Iâl, Harvard, a Stanford.

Carfan y llynedd yng Ngholeg yr Iesu

Coleg Newydd, Ysgol Haf Rhydychen

Ym mis Awst, bydd 23 o dysgwyr blwyddyn 11 yn treulio pum diwrnod yn astudio yng Ngholeg Newydd, Rhydychen. Byddant yn dysgu gan arbenigwyr byd-eang, yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac yn dysgu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi uwch  a fydd yn cefnogi eu hastudiaethau TAG ac yn eu helpu ar eu taith addysgol yn y dyfodol.

Adborth gan ddysgwyr: ‘Un o’r profiadau mwyaf boddhaus a llawn gwybodaeth dwi wedi ei gael erioed’…’Mae wedi fy annog i ddilyn yr hyn rwy’n angerddol amdano, ac mae bod yn yr ysgol haf wedi gwneud i mi deimlo bod fy nodau o fewn cyrraedd i mi.’

Hoffai Seren ddiolch i’w partneriaid mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ac i awdurdodau lleol am eu cymorth a’u cefnogaeth.

Gadael ymateb