Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn gynharach eleni, sefydlodd Llywodraeth Cymru Adnodd, corff newydd i gydlynu a goruchwylio’r gwaith o ddarparu a chomisiynu adnoddau addysg, yn Gymraeg a Saesneg, i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau. Bydd ei gylch gwaith yn cynnwys comisiynu deunyddiau newydd a sicrhau ansawdd adnoddau.
Un o werthoedd craidd Adnodd yw ei fod yn sefydliad sy’n gwrando ac yn ymateb. Felly wrth ddatblygu model comisiynu a fframwaith sicrhau ansawdd newydd, mae Adnodd eisiau mewnbwn gan ei randdeiliaid.

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn ar gomisiynu a sicrhau ansawdd adnoddau addysg ar gyfer pobl ifanc 3 i 19 oed yng Nghymru yn sgil y gwaith parhaus o gyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru (CiG) a chymwysterau diwygiedig.
Rydym hefyd yn gwahodd ymarferwyr, dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr, a rhanddeiliaid yn y diwydiant ehangach (gan gynnwys cyhoeddwyr, awduron, a chrewyr cynnwys) i rannu eu barn mewn arolwg ar-lein.
Grŵp Rhanddeiliaid | Dolen arolwg | |
Ymarferwyr addysgu, gan gynnwys athrawon, penaethiaid, cynorthwywyr addysgu, darlithwyr, tiwtoriaid (cynradd, uwchradd, arbennig, colegau addysg bellach, ym mhob cyfrwng iaith) | Linc | |
Dysgwyr a’u rhieni neu gofalwyr | Linc | |
Rhanddeiliaid y diwydiant, gan gynnwys cyhoeddwyr, awduron, a chrewyr cynnwys adnoddau addysg | Linc |
Bydd ymarferwyr, dysgwyr, a rhieni/gofalwyr sy’n cwblhau’r arolygon ar-lein yn cael eu cynnwys mewn raffl am docyn llyfr gwerth £100, y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o fân-werthwyr a siopau llyfrau annibynnol ledled Cymru. Gobeithiwn fod y cymhellion hyn yn arwydd o’n gwerthfawrogiad o’ch amser a’ch egni, gan ei bod yn hanfodol casglu barn pawb ar y pwnc pwysig hwn.
Adnodd.