Neidio i'r prif gynnwy

Camau i’r Dyfodol – Datblygu cynnydd dysgu ar y cyd yng Nghymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol, sy’n cynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn dod ag arbenigedd a phrofiad y sector addysg at ei gilydd i gyd-adeiladu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar gyfer pob dysgwr sy’n ystyrlon, yn hylaw ac yn gynaliadwy.

Mae’r trawsnewidiad yn ein hysgolion a ddygir gan ddiwygio yn dod â heriau cynhenid a phosibiliadau cyffrous ar gyfer newid – boed hynny’n brofiadau dysgu dyfnach, mwy deniadol i ddysgwyr, dysgu mwy perthnasol wedi’i deilwra i’w hanghenion, neu ddulliau addysgu mwy creadigol ac arloesol.

Mae dilyniant dysgu yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. Mae’r canllawiau’n pwysleisio hyn, gan amlinellu sut y dylai dysgwyr ddatblygu i gyrraedd eu potensial llawn, gwaeth beth yw eu cefndir neu eu hanghenion. Mae Camau i’r Dyfodol yn gweithio gyda’r system i feithrin gwell dealltwriaeth o gynnydd dysgu, a sut i’w gefnogi yn ymarferol, ledled Cymru.

Newid ein tybiaethau

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi cael y fraint o weithio gydag ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid yn y system addysg ehangach. Mae’r gwaith hwn wedi dangos i ni nad yw newid yn hawdd. Roedd angen gwneud synnwyr a meithrin gwybodaeth ymhlith yr holl randdeiliaid. Mae’n gwahodd newid yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am ddysgu, asesu a chynnydd, tuag at ddulliau mwy cyfannol, datblygiadol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Ac o bwys, mae’n gofyn am gysondeb mewn dealltwriaeth wrth i ni weithio i drosi polisi’n ymarfer.

Mae’r rhain yn newidiadau sylweddol, sy’n golygu bod cael lle a chefnogaeth ar gyfer gwneud synnwyr a meithrin gwybodaeth yn hanfodol.  Trwy greu cyfleoedd i rannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd, ac adeiladu dealltwriaeth gyffredin, gallwn gefnogi gwell cydweithio ar gyfer cynnydd.

Mae Camau i’r Dyfodol wedi ceisio darparu’r mannau hyn, ac yn ffurfio math gwahanol iawn o brosiect sydd heb ddigwydd yng Nghymru o’r blaen.  Mae hyn yn golygu ein bod yn dwyn ynghyd arbenigedd cyflenwol athrawon, llunwyr polisi, ymchwilwyr a phartneriaid addysgol o bob rhan o’r system i ddatblygu gwybodaeth a dulliau sy’n helpu i wireddu Cwricwlwm i Gymru.  Mae hwn yn ddull unigryw i Gymru sy’n ceisio ymgysylltu â chymhlethdodau newid addysgol wrth iddo ddigwydd, ac felly’n symud i ffwrdd o arolygon disgrifiadol, ymchwil gwerthuso, neu gyflwyno rhaglen o ddatblygiad proffesiynol a bennwyd ymlaen llaw.  Yn hytrach, mae wedi’i gynllunio i fod yn ymatebol, adeiladu ar arbenigedd sy’n bodoli eisoes, a chefnogi ymarferwyr drwy greu synnwyr proffesiynol ac adeiladu gwybodaeth ar y cyd sy’n angenrheidiol i gefnogi newid cynaliadwy. 

Yr hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn

Rydym yn gyffrous i rannu ein cynnydd hyd yn hyn. Yng Ngham 1, cynhaliwyd trafodaethau gyda nifer ar draws y system addysg i gael ymdeimlad o ble roedd pobl a sut roeddent yn meddwl am ddiwygio’r cwricwlwm.  Gwnaethom archwilio’r hyn a ddeallwyd yn y llenyddiaeth am y berthynas rhwng y cwricwlwm, asesu, addysgeg a chynnydd dysgu.  Bu i ni hefyd ddatblygu dull o ddatblygu ar y cyd sy’n ei ystyried yn warediad i ddysgu sy’n caniatáu i bobl weithio drwy’r materion dyrys hynny o drosi polisi yn arfer.

Gallwch ddod o hyd i ganfyddiadau llawn y gwaith hwn yn ein hadroddiad Cam 1. Mae ein hadnodd ar gyfer ysgolion  yn nodi’r hyn y gall ysgolion ei wneud i gymhwyso’r rhain i’w cyd-destun eu hunain.

Yn dilyn Cam 1, daethom ag ymarferwyr, partneriaid addysgol ac ymchwilwyr ynghyd i ffurfio Grŵp Datblygu ar y Cyd proffesiynol. Nododd y grŵp hwn feysydd blaenoriaeth a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgu. Trwy graffu ar ac ymgorffori tystiolaeth o ymchwil, polisi ac ymarfer, dyfeisiodd y grŵp ddulliau ac adnoddau ar y cyd i gefnogi’r system gyfan i ddatblygu cynnydd mewn ysgolion a lleoliadau yng Nghymru.

Mae pawb ynghlwm wedi dod â gwybodaeth a dealltwriaeth werthfawr i’r drafodaeth; roedd cyfraniadau pawb i gyd yn ddilys. Mae’r grŵp wedi cyfarfod yn rheolaidd, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i herio tybiaethau ei gilydd ar y cyd ac i ddatblygu dulliau ac adnoddau i wireddu’r arfer. Fel ymchwilwyr, mae ein tybiaethau wedi parhau i esblygu fel yr ydym wedi dysgu gydag eraill.

Mae’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer cymorth a gynhyrchwyd gan y grŵp wedi’u mireinio i adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol, a chanolbwyntio ar ddealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgu, dylunio profiadau dysgu sy’n creu cynnydd, a mynegi a chyfleu cynnydd.

Fel rhan o’r gwaith hwn, cynigwyd seminarau a thrafodaethau cyfryngol i gefnogi datblygiad  cyfres o adnoddau mewn ffyrdd sy’n mynd i’r afael â materion cysondeb a chydlyniant wrth barhau i ganiatáu hyblygrwydd a gweithrediad ar draws ysgolion.

Rhannwyd syniadau a gwaith cyfredol y grŵp a llywiwyd hwn ymhellach gan drafodaethau ehangach gyda mwy o’r proffesiwn trwy bedwar Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol gwahanol bu i ni ei harwain dros y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar adeiladu dulliau ymarferol o ddatblygu cynnydd dysgu. Yn ogystal, o fewn y cam hwn o’r prosiect, gofynnwyd am dystiolaeth gan arbenigwyr rhyngwladol i ddysgu o ddiwygiadau cenedlaethol eraill er mwyn llywio gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru ymhellach.

Edrych ymlaen – adnoddau newydd

Rydym wrth ein bodd gyda’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma gyda Camau i’r Dyfodol, ac yn gyffrous i barhau i weithio gyda chi i hyrwyddo dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgu. Ym mis Medi, byddwn yn cyhoeddi deunyddiau ategol, ymarferol, newydd ar ddilyniant sydd wedi’i datblygu ar y cyd.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi trafodaethau gydag arbenigwyr rhyngwladol i ddysgu o ddiwygiadau cwricwlwm cenedlaethol eraill, a sut y gallwn gymhwyso’r gwersi hynny i ddatblygu cynnydd yng Nghymru.

Mae llwyddiant yr ymdrech gydweithredol hon yn dyst i’r arbenigedd a’r profiadau amrywiol a ddaeth i’r amlwg gan unigolion sy’n meddiannu rolau amrywiol o fewn system addysg Cymru a thu hwnt. Rydym yn ddiolchgar am gyfraniad pawb gymerodd ran, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i addysg yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect gan gynnwys adroddiad Cam 1 a deunyddiau ategol eraill ar gael ar wefannau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow .

Prif Ymchwilwyr Camau i’r Dyfodol

David Morrison-Love (Prifysgol Glasgow)

Sonny Singh (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Kara Makara Fuller (Prifysgol Glasgow)

a Thîm Camau i’r Dyfodol

Gadael ymateb