Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar ddiwygio calendr ysgolion

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar 21 Tachwedd, gan archwilio opsiynau ar gyfer newid calendr yr ysgol. Nod newidiadau yw gwella lles disgyblion a staff a chefnogi addysgu a dysgu, gyda’r gwyliau wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson. Byddai’r newid cyntaf yn creu pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref, gan leihau toriad yr haf o wythnos. Ni fydd nifer y diwrnodau addysgu na’r gwyliau yn newid.

Un rheswm dros y newid sy’n cael eu cynnig yw bod tymor yr hydref yn hirach na’r lleill. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y tymor hwn yn flinedig ac yn heriol i ddysgwyr a staff, gan fod mwy o addysgu yn cael ei wasgu i’r tymor hwn nag i unrhyw un arall.

Gweler ein animeiddiad syml

Mae rhai disgyblion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd sydd dan anfantais yn ariannol a’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ei chael yn anodd mynd yn ôl i ddysgu ar ôl gwyliau haf hir.

Gan fod gwyliau’r haf yn hir, rhaid neilltuo amser yn nhymor yr hydref i fynd dros bethau, yn hytrach na symud ymlaen gyda’r dysgu. Mae athrawon hefyd yn nodi mwy o faterion yn ymwneud ag ymddygiad a lles ar ôl gwyliau’r haf.

O dan y cynnig newydd, byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau’r haf a’i hychwanegu at wyliau mis Hydref, fel bod staff a dysgwyr yn cael mwy o amser i orffwys yn ystod tymor hir yr hydref.

Byddai’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud o fis Medi 2025, sy’n golygu y gall ysgolion cael pythefnos o wyliau ym mis Hydref 2025 a gwyliau haf pum wythnos yn 2026.

Byddai’r cynnig hefyd yn gwneud tymor y gwanwyn yn fwy cytbwys ac yn haws i gynllunio ar ei gyfer.  Mae’r pythefnos o wyliau yn y gwanwyn bob amser yn cyd-fynd â’r Pasg, sy’n symud o gwmpas. Byddai cadw gwyliau’r gwanwyn yn gyson yng nghanol y tymor a’i wahanu oddi wrth y Pasg yn gwneud y tymor yn fwy cyson. Byddai gwyliau cyhoeddus Dydd Llun y Pasg a Dydd Gwener y Groglith yn dal i fod yn gymwys, a byddai amser addysgu am y dyddiau hyn yn cael ei gyflenwi ar adeg arall yn y flwyddyn.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio newidiadau ychwanegol y gellid eu datblygu yn y dyfodol, ond nid o 2025. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau’r haf a’i ychwanegu at wyliau’r Sulgwyn. Byddai hyn yn helpu i wneud y tymhorau’n debyg o ran hyd ac i wneud tymor yr haf yn fwy cyson, gan ei gwneud yn haws i ddisgyblion ddysgu ac i athrawon gynllunio. Yn yr achos hwn, gallai diwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch ddigwydd yn yr un wythnos. Byddwn yn edrych ar hyn dros y blynyddoedd nesaf, gan ddilyn yr un amserlen â’r broses o gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru.

Mae sawl ardal yn y DU eisoes wedi gwneud newidiadau i’w calendrau.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

“Rydyn ni am wneud yn siŵr bod addysg yn gweithio orau i ddisgyblion, athrawon a theuluoedd. Rydyn ni’n edrych am farn pobl ar y newidiadau hyn a beth fyddai’n ei olygu iddyn nhw.”

Gellir dod o hyd i’r ymgynghoriad yma.

Gweler y datganiad i’r wasg yma.

A Datganiad Llafar y Gweinidog yma.

2 sylwadau

  1. Donna Thomas on

    Mae llawer o blant ysgol uwchradd yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch yn ystod gwyliau’r haf, sydd yn brofiad gwerth fawr iawn iddynt. Pe byddai’r gwyliau haf yng Nghymru yn cael ei gwtogi, lle mae busnesau lletygarwch i fod i gael staff ar gyfer gweddill y gwyliau? Hefyd, beth am y Sioe Frenhinol? Dyma’r unig wyliau mae llawer o blant cefn gwlad yn ei gael?

    • derekeditor on

      Diolch am hyn. Bwydwch eich sylwadau defnyddiol i’r adborth ymgynghori ei hun hefyd.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading