Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad i’r wasg gan Adnodd – Prif Weithredwr wedi’i benodi

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Adnodd, corff hyd braich newydd a fydd yn goruchwylio’r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yng Nghymru, wedi penodi Emyr George fel ei brif weithredwr newydd cyntaf.

Wedi’i sefydlu yn gynharach eleni, Adnodd fydd y siop un stop ar gyfer adnoddau addysg dwyieithog. Bydd yn goruchwylio’r gwaith o gomisiynu a darparu deunyddiau addysgu a dysgu o ansawdd uchel i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, a’r cymwysterau newydd ar gyfer dysgwyr 14-16 oed.

Bydd Emyr yn ymuno ag Adnodd yn gynnar yn 2024 o’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Cymwysterau, Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru. Daw â chyfoeth o brofiad o bob rhan o’r sector addysg, gan gynnwys wyth mlynedd yn Cymwysterau Cymru a phrofiad blaenorol yn Ofqual – y rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau ar gyfer Lloegr.

Yn fwy diweddar, mae Emyr wedi bod yn arwain diwygiadau proffil uchel i gymwysterau i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys set newydd sbon o gymwysterau TGAU ‘Gwneud i Gymru’.

Enwyd Emyr yn gynharach eleni fel un o ‘100 o Wneuthurwyr Newid’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am gael effaith gadarnhaol drwy ei waith ar ddiwygio cymwysterau.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Emyr, “Ar ôl gweithio ym myd addysg ers blynyddoedd lawer, rydw i’n frwd dros roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i bobl ifanc. Edrychaf ymlaen at weithio gydag eraill i roi’r offer sydd eu hangen ar ddysgwyr ac athrawon i lwyddo.

“Mae’n hanfodol bod dysgwyr ac athrawon yn gallu cael mynediad at amrywiaeth eang o ddeunyddiau o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion byd sy’n newid yn gyflym. Adnoddau yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n berthnasol, yn ddeniadol ac yn hygyrch i bob dysgwr ac sy’n adlewyrchu diwylliannau amrywiol ein cenedl.

“Fy nhasg gyntaf fydd adeiladu tîm sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir i weithio gyda dysgwyr, athrawon a llu o gyfranwyr i greu’r adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel a fydd yn helpu i ddod â Chwricwlwm newydd Cymru yn fyw i bob dysgwr.

Wrth wneud sylw ar y penodiad, dywedodd Jeremy Miles AS, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg,

“Gyda hanes mor gryf ym myd addysg, rydw i wrth fy modd bod Emyr wedi cael ei benodi i’r rôl hon. Bydd ei brofiad a’i arbenigedd yn amhrisiadwy wrth symud Adnodd ymlaen, gan alinio adnoddau addysgol y dyfodol â’r Cwricwlwm i Gymru a’n cymwysterau newydd.

“Rwy’n benderfynol bod ein holl ddysgwyr yn gallu cael mynediad at adnoddau addysgol dwyieithog o’r safon uchaf – dydyn nhw’n haeddu dim llai. Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos ag Emyr a thîm ehangach Adnodd i wireddu ein gweledigaeth o sicrhau safonau uchel i bawb.”

Mae Adnodd wedi bod yn ymgynghori â rhanddeiliaid yn ddiweddar i sicrhau bod y corff yn adlewyrchu anghenion a dyheadau’r sector addysg gyfan, gyda datblygiadau pellach i’w gweld yn y misoedd nesaf wrth iddo ddod yn gwbl weithredol.

Gweler y Datganiad Ysgrifenedig gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhys Flowers rhys.flowers@four.cymru neu Kate Williams kate.williams@four.cymru.

Gwybodaeth am Adnodd

Yn dilyn ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid, sefydlwyd Adnodd ym mis Ebrill eleni fel is-gwmni i Lywodraeth Cymru sydd â’r dasg o ddod yn siop un stop ar gyfer comisiynu adnoddau ar gyfer ymarferwyr addysgol a dysgwyr yng Nghymru.

Un o werthoedd craidd Adnodd yw ei fod yn sefydliad sy’n gwrando ac yn ymatebol. Wrth ddatblygu model comisiynu a fframwaith sicrhau ansawdd newydd, mae Adnodd eisiau clywed gan ei randdeiliaid.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein blog blaenorol:

Adnodd – dyfodol adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru | Addysg Cymru (llyw.cymru)

Gadael ymateb