Wedi ei ddiweddaru: 15 Hydref 2024
Am y tro cyntaf, mae adnoddau Dysgu Proffesiynol wedi cael eu canoli mewn un lle ar Hwb. Bellach, mae’r adnoddau, sydd wedi’u categoreiddio o’r newydd, ar gael i holl ymarferwyr addysg Cymru eu chwilio drwy’r ardal dysgu proffesiynol.
Mae’r ardal dysgu proffesiynol wedi ei drefnu mewn ffordd sy’n helpu ymarferwyr i ddod o hyd i’r adnoddau iawn ar gyfer eu hanghenion dysgu proffesiynol, beth bynnag yw’r anghenion hynny.
O fewn yr ardal, bydd ystod eang o hyfforddiant, adnoddau hunanddysgu, astudiaethau achos, canllawiau a gwaith ymchwil ar gael i ymarferwyr ar bob agwedd ar ddysgu proffesiynol.
Mae’r fideos yma’n dangos pa mor hawdd yw hi nawr i gael mynediad at adnoddau Dysgu Proffesiynol ar Hwb.
Mae’r adnoddau yn cwmpasu 4 maes yn fras: y cwricwlwm, addysgeg ac asesu; Arweinyddiaeth a llywodraethiant; lles, tegwch a chynhwysiant; a datblygu fel ymarferydd proffesiynol.
Gall ymarferwyr hidlo’r adnoddau o fewn y categorïau hyn neu chwilio am adnoddau gan ddefnyddio geiriau allweddol.
Cynlluniwyd parti gwaith o ymarferwyr er mwyn sicrhau ansawdd yn ystod y broses, ac mae sawl grŵp arall yn dal i roi adborth. Mae maes Dysgu Proffesiynol yn faes sy’n datblygu drwy’r amser, a gall unrhyw un sy’n ymweld â’r dudalen roi sylwadau drwy adborth er mwyn ein helpu i’w gwella.

Mae’r Dirprwy Bennaeth, Sian Evans wedi bod yn rhan o weithgor parti gwaith o ymarferwyr. Dyma sydd ganddi i’w ddweud:
“Dw i wedi bod yn rhan o’r grŵp cyfeirio ymarferwyr sydd wedi bod yn gweithio yn y maes hwn, i ddod â’r ystod o wahanol gyfleoedd dysgu proffesiynol at ei gilydd i fod yn un lle hawdd iawn eu defnyddio. Roeddem am i hyn fod yn faes y gallai pawb, pob math o ymarferwyr ar bob lefel o fewn ysgolion gael mynediad a dod o hyd i ddysgu proffesiynol sy’n berthnasol iddyn nhw. Roeddem am allu gwneud hyn mewn cyn lleied o gliciau o’r llygoden â phosibl!
“Yr hyn sy’n glir iawn nawr yw bod staff yn gweld ei bod hi’n brofiad cadarnhaol i fod yn defnyddio Hwb i chwilio am ddysgu proffesiynol. Maen nhw’n teimlo y gallan nhw nawr ddefnyddio’r amser prin cyfyngedig hwnnw sydd ganddyn nhw’r mwyaf effeithiol i ddod o hyd i ddysgu proffesiynol perthnasol.’
Dolen i’r tri fideo arddangos: Hwb – Dysgu Proffesiynol – YouTube