
Datblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’n hawdd, o’nd ydy…?

Rwy’n siŵr bod teitl diddorol y blogiad hwn, wedi ei gyhoeddi gan James Kent ar blog GCA, yn denu sylw unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad ein cwricwlwm newydd.
Ysgrifennir o safbwynt person cyntaf am y gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghymru ac yn sôn am y safbwyntiau eang o waith ymchwil academaidd.
Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017: Dewch i gyfarfod Kellie yn yr Farchnad Ddigidol

Bydd y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Stadiwm Liberty ar 21 Mehefin, a thema eleni yw ‘Dulliau creadigol o weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol’.
Bydd y diwrnod yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, y prif anerchiad gan John Jackson o London Grid for Learning, dewis o weithdai a’r Farchnad Ddigidol.
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol – Chwalu’r Mythau!

Beth os nad ydw i’n rywun sy’n ymwneud â TG (gan nad oedd fy mhwnc yn gofyn imi wneud o’r blaen)?
Does dim rhaid ichi fod yn arbenigwr mewn TG i addysgu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
A yw’r Fframwaith yn ymwneud â chael yr ‘offer’ gorau yn y bôn?
Dyw cael offer da ddim yn eich gwneud yn ysgol sy’n gymwys yn ddigidol – y peth pwysig yw’r ffordd yr ydych chi’n defnyddio’r offer hwnnw.
Bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn sicrhau cyfnod pontio didrafferth i ddysgwyr

“Bydd pob asiantaeth yn cydweithio i lunio un cynllun ar gyfer plentyn…bydd yn gwneud pethau’n haws i rieni…gall y cyfnod pontio redeg yn ddidrafferth o 0-25 oed…bydd parhad dysgu’n well ynghyd â’u datblygiad tuag at annibyniaeth”.
Gwerthusiad o’r Model Ysgolion Arloesi – cyhoeddi’r adroddiad cyntaf

Mae canfyddiadau cynnar gwerthusiad allanol o’r defnydd a wneir o’r Ysgolion Arloesi wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd bellach wedi’u cyhoeddi. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn gofyn sut mae’r ‘model’ Ysgolion Arloesi’n gweithio. Mae hefyd yn ystyried y gwersi a ddysgwyd a allai lywio’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm llawn, sy’n parhau i fynd rhagddo’n dda.
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol heb dechnoleg?

Ers lansio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yng Nghymru, mae nifer yr ysgolion sydd wedi ei fabwysiadu ac awydd ysgolion i gael cymryd rhan wedi creu cryn argraff ar yr Arloeswyr Digidol ac wedi’u hysbrydoli.
Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sy’n cael ei ofyn i Arloeswyr ydy ‘A oes angen i mi brynu offer newydd i allu dygymod â’r sgiliau yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol?’. Wel os oedd ysgolion yn gallu cyflawni holl sgiliau’r Cwricwlwm Cenedlaethol blaenorol, dydy hi ddim yn debygol y bydd angen offer newydd arnyn nhw. Fodd bynnag, bydd angen i ysgolion weithio’n fwy clyfar gyda’r hyn sydd ganddyn nhw, o bosibl, neu ystyried eu dewisiadau yn yr hirdymor o ran diweddaru eu hoffer. Gan fod cymaint o’n byd ni ar-lein bellach, mae’n hanfodol fod dysgwyr yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd. Felly cyn prynu offer, dylai ysgolion edrych yn ofalus ar eu seilwaith ac ystyried a oes angen gwario’n gyntaf ar ddatblygu’r gallu i gysylltu’n ddibynadwy â’r we a’r gallu i wneud hynny’n ddi-wifr.
Offeryn mapio newydd ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae Arloeswyr Digidol wedi datblygu offeryn mapio newydd ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae’n caniatáu i ysgolion groesgyfeirio gwaith addysgu cyfredol mewn pynciau ac ar gyfer gwahanol flynyddodd ag elfennau o’r Fframwaith, er mwyn dangos lefelau o ran maint o’r Fframwaith sydd wedi’i gynnwys. Mae hynny yn ei dro yn eu helpu i gynllunio i gynnwys yr ystod lawn o sgiliau ar gyfer pob elfen dros y flwyddyn. Bydd yr offeryn yn helpu ysgolion i rannu’r gwaith o gynnwys elfennau’r Fframwaith mewn modd mwy cytbwys ar draws yr ysgol hefyd.
Rydym ar daith Framwaith Cymhwysedd Digidol fel pawb arall! Darllenwch am yr hyn rydym wedi’i ddysgu

Gan Russell Dwyer, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe
Asesu a Chynnydd – canfyddiadau’r Grŵp Dylunio Strategol
Mae canfyddiadau’r Grŵp Dylunio Strategol ar gyfer ein cwricwlwm newydd bellach ar gael. Byddant yn llywio’r gwaith presennol ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Gweler crynodeb ar ffurf fideo isod, neu darllenwch y papur yn llawn.