Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017: Dewch i gyfarfod Kellie yn yr Farchnad Ddigidol

Read this page in English

NDLA-2-16-esafety2.jpg

Bydd y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Stadiwm Liberty ar 21 Mehefin, a thema eleni yw ‘Dulliau creadigol o weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol’.

Bydd y diwrnod yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, y prif anerchiad gan John Jackson o London Grid for Learning, dewis o weithdai a’r Farchnad Ddigidol.

Archebwch eich lle nawr ar gyfer y Digwyddiad.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys Marchnad Ddigidol lle bydd siaradwyr yn cynnig enghreifftiau ymarferol o sut i fynd i’r afael â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Bydd Kellie Williams yn rhoi sylw i’r llinyn Dinasyddiaeth. Darllenwch am ei barn ar y Fframwaith a pham y dylech fod yn bresennol yn y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol.

Hanes fel ymarferydd

Rwyf wedi treulio deng mlynedd o’m gyrfa yn y byd addysg fel athrawes ac Arweinydd Digidol yn Ysgol Gynradd Parc Cornist. Rwyf ar hyn o bryd ar secondiad gyda GwE fel Arweinydd Digidol Rhanbarthol, a chyda Llywodraeth Cymru fel Arloeswr Digidol. Rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch gwella addysgu a dysgu drwy gynnwys technoleg ddigidol ar draws y cwricwlwm. Rwyf wedi bod ddigon ffodus i gael cydnabyddiaeth genedlaethol i’m gwaith pan enillais wobr Athro/Athrawes y Flwyddyn yng Nghymru ymysg gwobrau eraill am fy null o fynd i’r afael â dysgu digidol a dinasyddiaeth ddigidol.

Beth yw eich barn ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’r manteision i system addysg Cymru?

Mae wedi bod yn wych gweld pa mor awyddus yw’r rhan fwyaf o ysgolion i groesawu’r Fframwaith ers iddo gael ei lansio ym mis Medi. Bydd y Fframwaith yn gyfrifoldeb traws gwricwlaidd a fydd yn helpu athrawon i sicrhau eu bod yn addysgu’r strategaethau i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion ar-lein cadarnhaol a’u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi. Bydd cymhwysedd digidol a hyder y dysgwr yn hanfodol i’w paratoi ar gyfer swyddi yn y dyfodol.

Sut ydych wedi datblygu prosiectau i fynd i’r afael â’r Fframwaith?

Yn fy rôl fel Ymgynghorydd Digidol Rhanbarthol, bûm yn rhan o gefnogi nifer o ysgolion yn y gogledd i’w helpu i roi’r Fframwaith ar waith ar gyfer y cwricwlwm cynradd. Bu’n ysbrydoledig gweld athrawon a staff cymorth yn cymryd rhan ar y cyd ym mhrosiectau’r Fframwaith i helpu i ddatblygu eu gallu digidol eu hunain ac i wella eu harfer yn yr ystafell ddosbarth.

Beth fyddwch yn ei ddangos yn y farchnad yn y Digwyddiad?

Yn y farchnad yn y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol, byddaf yn rhannu gwybodaeth am daith fy ysgol i gryfhau ein dull tuag at ddinasyddiaeth ddigidol. Byddaf yn dangos syniadau sy’n rhwydd i’w rhoi ar waith ac a fydd yn gwella dinasyddiaeth ddigidol ymysg cymuned yr ysgol gyfan.

Pam ydych chi’n credu ei bod yn fanteisiol mynd i’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol?

Dylai’r Digwyddiad hwn fod yn ddyddiad allweddol yng nghalendr unrhyw athro sydd â diddordeb mewn dysgu digidol. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu eich gwybodaeth, cyfarfod ag athrawon o’r un anian a dysgu am y newidiadau cyffrous i Addysg Cymru. Bydd yn sicr yn rhoi llu o syniadau i chi eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth!

1 sylw

  1. Hysbysiad: National Digital Learning Event 2017: Meet Kellie at the Digital Marketplace | Curriculum for Wales Blog

Gadael ymateb