Beth os nad ydw i’n rywun sy’n ymwneud â TG (gan nad oedd fy mhwnc yn gofyn imi wneud o’r blaen)?
Does dim rhaid ichi fod yn arbenigwr mewn TG i addysgu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
A yw’r Fframwaith yn ymwneud â chael yr ‘offer’ gorau yn y bôn?
Dyw cael offer da ddim yn eich gwneud yn ysgol sy’n gymwys yn ddigidol – y peth pwysig yw’r ffordd yr ydych chi’n defnyddio’r offer hwnnw.
A oes rhaid inni ddefnyddio technoleg i gyflawni holl sgiliau’r Fframwaith.
Nac oes. Weithiau, yr hyn sy’n bwysicach yw’r syniadau a’r ffordd yr ydych chi’n mynd ati.
A oes angen meddu ar sgiliau rhaglennu ar gyfer Meddwl Cyfrifiadurol?
Nac oes, nid rhaglennu o reidrwydd yw Meddwl Cyfrifiadurol. Gall fod mor syml ag ysgrifennu ar bapur gyfarwyddiadau ar sut i bobi cacen (wel er nad yw hynny’n syml, mae’n bosibl ei wneud).
At bwy y galla’ i droi os ydw i’n ansicr am beth i’w wneud?
Dydych chi ddim ar eich pen eich hunan. Mae’r Consortia a’r Arloeswyr Digidol ar gael i’ch helpu. Cysylltwch â’ch consortia i gael enw cyswllt.
A yw’r Fframwaith yn disodli TGCh?
Nac ydy! Mae’n llawer ehangach na thechnoleg, a’r Fframwaith yw’r drydedd thema drawsgwricwlaidd.
A oes angen inni argraffu gwaith fel tystiolaeth ar gyfer Estyn?
Nac oes, dyw Estyn ddim yn disgwyl ichi argraffu pob darn o waith digidol. Meddyliwch am bortffolios digidol.
A oes rhaid inni roi un cynnig ar ‘gyflawni’ y Fframwaith cyfan?
Beth am ddechrau drwy ystyried y tasgau a dod i arfer â’r fframwaith newydd. Edrychwch ar beth yr ydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd a sut y gallai’r Fframwaith gefnogi a gwella hynny.Gallwch ei ddefnyddio i chwilio am gyfleoedd naturiol i’w ddefnyddio yn eich dulliau addysgu presennol ar draws y cwricwlwm. Does dim rhaid ichi gynllunio, mapio ac asesu sgiliau’r Fframwaith ar unwaith.
A ddylai ein Cydgysylltydd TG ddelio â hyn?
Na ddylai! Nid swyddogaeth Cydgysylltydd TG yw’r Fframwaith. Mae pob un ohonon ni’n gyfrifol am y Fframwaith, a dylen ni i gyd weithio gyda’n gilydd.
A yw hyn yn ymwneud â bod yn dda wrth ddelio â TGCh yn y bôn?
Dyw defnyddio TGCh ddim yn golygu eich bod yn gymwys yn ddigidol. Mae’r ffordd yr ydych chi’n defnyddio’r dechnoleg ac yn dewis y cyfrwng gorau am y gwaith yn bwysicach.
A oes angen imi addysgu pob sgil yn unigol?
Does dim angen ichi addysgu pob un o sgiliau’r Fframwaith yn unigol. Gall un dasg ‘gyfoethog’ a ddyfeisiwyd yn dda olygu eich bod yn addysgu nifer o’r sgiliau.
…gyda diolch i’r Arloeswyr Digidol.