“Bydd pob asiantaeth yn cydweithio i lunio un cynllun ar gyfer plentyn…bydd yn gwneud pethau’n haws i rieni…gall y cyfnod pontio redeg yn ddidrafferth o 0-25 oed…bydd parhad dysgu’n well ynghyd â’u datblygiad tuag at annibyniaeth”.
Bydd dysgwyr a’u teuluoedd yn elwa ar y Bill Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) pan fydd yn cyflwyno newidiadau i’r ffordd y rheolir eu hanghenion dysgu ychwanegol.
Bydd dysgwyr yn cael cynllun datblygu unigol (CDP) a fydd gyda nhw o 0 i 25 oed. Bydd y cynllun yn cael ei ddiweddaru’n barhaus a’i lywio gan bob asiantaeth y mae angen iddynt fod yn rhan o’r broses. Bydd yn helpu i sicrhau bod symudiadau rhwng lleoliadau blynyddoedd cynnar yn ddi-dor ac yn paratoi’r dysgwyr yn well ar gyfer bywyd ar ôl addysg amser llawn.
Gwyliwch y fideo byr isod i weld sut mae ymarferwyr yn mabwysiadu’r ffyrdd newydd o weithio a gynigiwyd gan y Bil, neu ewch I Rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol i weld ffilm hirach sy’n egluro’r newidiadau’n fwy llawn.
Mae croeso i chi hefyd gymryd rhan yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weithredu’r Bil.