Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o’r Model Ysgolion Arloesi – cyhoeddi’r adroddiad cyntaf

Read this page in English

459082897

Mae canfyddiadau cynnar gwerthusiad allanol o’r defnydd a wneir o’r Ysgolion Arloesi wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd bellach wedi’u cyhoeddi. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn gofyn sut mae’r ‘model’ Ysgolion Arloesi’n gweithio. Mae hefyd yn ystyried y gwersi a ddysgwyd a allai lywio’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm llawn, sy’n parhau i fynd rhagddo’n dda.

Roedd rhai o’r canfyddiadau cynnar positif yn cynnwys bod athrawon yn teimlo bod eu harbenigedd yn cael ei werthfawrogi, a hefyd bod cydweithio’n cael ei annog. Fodd bynnag, roedd y ‘model’ newydd wedi cyflwyno rhai heriau, megis ysgolion yn ansicr am eu rôl ar y dechrau ac angen cyfeiriad strategol mwy clir arnynt. Ond ‘cytunodd ysgolion a rhanddeiliaid bod y broses o ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi gwella dros amser’.

Gadael ymateb