Ers lansio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yng Nghymru, mae nifer yr ysgolion sydd wedi ei fabwysiadu ac awydd ysgolion i gael cymryd rhan wedi creu cryn argraff ar yr Arloeswyr Digidol ac wedi’u hysbrydoli.
Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sy’n cael ei ofyn i Arloeswyr ydy ‘A oes angen i mi brynu offer newydd i allu dygymod â’r sgiliau yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol?’. Wel os oedd ysgolion yn gallu cyflawni holl sgiliau’r Cwricwlwm Cenedlaethol blaenorol, dydy hi ddim yn debygol y bydd angen offer newydd arnyn nhw. Fodd bynnag, bydd angen i ysgolion weithio’n fwy clyfar gyda’r hyn sydd ganddyn nhw, o bosibl, neu ystyried eu dewisiadau yn yr hirdymor o ran diweddaru eu hoffer. Gan fod cymaint o’n byd ni ar-lein bellach, mae’n hanfodol fod dysgwyr yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd. Felly cyn prynu offer, dylai ysgolion edrych yn ofalus ar eu seilwaith ac ystyried a oes angen gwario’n gyntaf ar ddatblygu’r gallu i gysylltu’n ddibynadwy â’r we a’r gallu i wneud hynny’n ddi-wifr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu Hwb fel ffynhonnell i gynnig cefnogaeth i ysgolion i ddatblygu eu sgiliau digidol. Drwy ddefnyddio adnoddau fel Office 365, J2E a Britannica, gall ysgolion gyflawni’r rhan fwyaf o sgiliau gweithio ar-lein heb orfod prynu meddalwedd na thrwyddedau ychwanegol. Wrth i Hwb barhau i esblygu a datblygu, bydd diweddariadau iddo’n sicrhau bod ardaloedd newydd o Hwb, a rhai sydd wedi cael eu mireinio, yn cefnogi ystod eang o sgiliau sy’n cynyddu o hyd.
Nid oes hyd yn oed unrhyw angen am dechnoleg ar lawer o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Efallai fod hyn yn swnio’n syniad rhyfedd i rai, ond mae’n bosibl cwblhau’r sgiliau lefel uwch ar bapur, yn enwedig ym maes meddwl cyfrifiadurol. Er enghraifft, wrth baratoi cyflwyniad, mae’n bosibl gosod y cynllun ar bapur yn llawn mor effeithiol â phetai llechen wedi’i defnyddio i’w ysgrifennu.
Weithiau, pan ddaw hi’n gwestiwn o dechnoleg, mae’r gwersi’n tueddu i ganolbwyntio ar y dechnoleg yn hytrach nag ar y dysgu. Am y rheswm hwnnw, mae llawer o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi’i ysgrifennu fel bod dysgwyr yn gweld gwerth elfennau cynllunio a gwerthuso’u gwaith yn llawn cymaint â gwerth y cynnyrch neu’r adnodd y maen nhw’n ei greu. Mae angen gweld gwerth y ddwy elfen hyn fel bod y gwersi mor ystyrlon â phosibl a’u bod yn adlewyrchu’r hyn rydyn ni’n ei wneud mewn bywyd go iawn; rydyn ni’n cynllunio, yn gweithredu ac yn gwerthuso.
Wrth gynllunio gweithgarwch, dylai dysgwyr gael dewis p’un a ydynt am ddefnyddio technoleg ai peidio. Mewn ysgolion sy’n gymwys yn ddigidol, dylai dysgwyr gael amrywiaeth o ddewisiadau technolegol ac annhechnolegol a phenderfynu a gwerthuso o’u pen a’u pastwn eu hunain beth sydd orau ganddynt. Gall hyn arwain at drafodaethau ardderchog ynghylch pam bod gwahanol ddysgwyr yn hoffi gwahanol ddewisiadau a’r rhesymau dros ddewis gwahanol ddulliau. Wrth gwrs, rhaid i ddysgwyr gael llais ar y dechrau ynghylch sut y dylid defnyddio’r dechnoleg fel eu bod yn gallu trafod p’un a yw ei defnyddio’n briodol mewn sefyllfa benodol ai peidio.
Nid yw hyn yn golygu na ddylai ysgolion fuddsoddi mewn technoleg. Mae’n rhaid i ni baratoi dysgwyr Cymru ar gyfer y dyfodol ac mae angen i ysgolion gael cynlluniau hirdymor i ddiweddaru eu caledwedd a’u seilwaith fel nad ydy dysgwyr yn gorfod defnyddio offer sydd bellach ar ôl yr oes. Mae technoleg yn datblygu’n anhygoel o gyflym ac mae’n rhaid i ysgolion fod yn drefnus ac edrych tuag at y dyfodol fel eu bod nhw’n symud ymlaen hefyd.
– Ian Timbrell, Ysgol St Gwladys Bargoed