Gan Russell Dwyer, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe
Rydym yn ysgol Arloesi Ddigidol. Gall hynny olygu bod athrawon o ysgolion eraill yn credu ein bod yn gwybod popeth am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Nid yw hynny’n wir – rydym yn teimlo ein bod ar yr un daith â phawb arall. Fodd bynnag, ar ôl cynnal digwyddiad agored yn ddiweddar i athrawon yn canolbwyntio ar gymhwysedd digidol, roedd yn glir, yn ôl y niferoedd a oedd yn bresennol, ei fod yn bosibl fod llawer o bobl yn ansicr o’r daith honno o hyd!
Am y rheswm hwnnw, gofynnwyd i mi ysgrifennu blog i rannu ein barn ar y Fframwaith a thrwy wneud hynny, gobeithio, eich helpu i ddatblygu eich syniadau ynghylch ei weithredu.
Y Fframwaith yw’r cam cyntaf tuag at ein gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm newydd yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu gan athrawon sy’n meddu ar wybodaeth a phrofiad yn y maes, a chafodd ei lunio i ymdopi â’r newidiadau niferus sy’n digwydd ym myd technoleg. Mae’n nodwedd allweddol ar system addysg sy’n gorfod paratoi ein dysgwyr ifanc ar gyfer byd sy’n datblygu’n dechnolegol. Am y rheswm hwnnw, mae angen i ni, fel arweinwyr, groesawu hyn a chydnabod yr angen i’w ddatblygu ym mhob rhan o gymuned ysgol gyfan. Yn ysgol St Thomas, rydym wedi gwneud hynny drwy archwilio sgiliau digidol staff, cyflwyno adnoddau olrhain sgiliau Fframwaith, arwain sesiynau DPP penodol, ymgysylltu â rhieni a’r gymuned ehangach a chefnogi ein gilydd yn gyffredinol i groesawu’r hyn sydd o’n blaenau.
Nid yw’r rhan fwyaf o’r Fframwaith yn anodd iawn i’w ddeall. Mae llawer o’r sgiliau Fframwaith wedi bodoli ers sawl blwyddyn ac, o ganlyniad, nid oes angen i ysgolion boeni a mynd allan i brynu cymaint o galedwedd a meddalwedd â phosibl o fewn y gyllideb. Mewn gwirionedd, rydym mewn sefyllfa well nag erioed i fynd i’r afael â TG am gost isel. Er enghraifft, mae Hwb yn darparu mynediad am ddim i Office 365 ac mae cymwysiadau ar-lein am ddim a gwefannau yn helpu plant i fod yn rhan o lu o weithgareddau. Hefyd, mae’n deg dweud y gellir mynd i’r afael â nifer o sgiliau mewn modd ‘di-blwg’; gellir cwmpasu cyflwyniadau i feddwl yn gyfrifiadurol a mynd i’r afael â materion diogelwch ar-lein yr un mor hawdd gyda phen a phapur a thrwy drafod. Yr hyn sy’n newydd yw natur flaengar y sgiliau hyn a’r ffaith y dylent dreiddio i bob rhan o’r cwricwlwm i brofiad dysgu pob plentyn mewn modd pwrpasol. Nid yw hynny’n golygu y dylid cyfeirio at TG a’r Fframwaith ym mhob cynllun gwers. Yn wir, rwy’n dal i gredu y dylid ond cynnwys technoleg os yw’n cyflawni diben dilys i wella’r dysgu. Gall fod gan ysgol gannoedd o iPads, ond oni bai bod y plant yn eu defnyddio mewn ffordd benderfynol i wella eu dysgu, nid oes llawer o bwynt iddynt. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ymgysylltu pwrpasol a chreadigol i ddatblygu sgiliau Fframwaith er mwyn iddynt ddod yn fwyfwy naturiol i’n dysgwyr.
Mae angen i ni leddfu unrhyw bryderon sy’n bodoli o hyd yn ein hysgolion ynghylch cymhwysedd digidol a TG a chydnabod ein bod yn dysgu ac yn symud ymlaen gyda’n gilydd. Wrth wneud hynny, mae angen i ni dderbyn bod llawer o’n dysgwyr eisoes yn hyddysg ym maes cymhwysedd digidol ac yn meddu ar sgiliau y gallant eu rhannu â ni. Cefais fy synnu pan es i i’n clwb codio a gweld bod un o’n disgyblion wedi datblygu ei ap ei hun y tu allan i’r ysgol ac wedi’i gyflwyno ar-lein i bawb gael gweld. Rwy’n ystyried fy hun yn eithaf cymwys o ran technoleg (er ddim mor gymwys ag yr oeddwn yn credu!) ond allwn i ddim mynd ati i wneud yr hyn a wnaeth y disgybl hwn o flwyddyn 6. Dim ond un enghraifft yw hon, ond mae llu o straeon am y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn arwain y ffordd ym maes technoleg i wella dysgu. Mae angen i ni dderbyn, yn enwedig ym myd TG, nad ydym ni fel athrawon yn gwybod popeth; ein rôl ni yw hwyluso ac annog, gan agor y porth i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol a fydd yn gwthio ein dysgwyr ymlaen.
I grynhoi, mae gennym gyfle gwirioneddol i gefnogi, herio a dysgu gan ein gilydd nawr. Mae’n wir, arloeswyr digidol sy’n arwain y ffordd, ond rwy’n siŵr bod nifer o ysgolion eraill yn gwneud pethau gwych i hyrwyddo cymhwysedd digidol. Mae angen i ni rannu hyn a chroesawu popeth y gallwn ei wneud i sicrhau ‘dyfodol llwyddiannus’ ein dysgwyr mewn byd technolegol modern sy’n newid o hyd.