Neidio i'r prif gynnwy

Ein taith ddysgu

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae diwedd y flwyddyn addysgol mewn prifysgol yn debyg iawn i ddiwedd tymor yr haf mewn ysgol: adeg o ffarwelio ac o deimlo balchder. Boed mewn meithrinfa neu addysg uwch, mae cael edrych yn ôl dros ddatblygiad eich dysgwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio yn un o bleserau addysgu. Eleni, fel addysgwr addysg gychwynnol athrawon, mae fy myfyrdodau ddiwedd tymor yr haf wedi arwain at ymdeimlad o ryfeddod. Heb os, mae addysg yng Nghymru wedi datblygu llawer ers i mi hyfforddi i fod yn athrawes, ac mae’n gyfnod hynod gyffrous i’r garfan newydd hon o athrawon ymuno â’r proffesiwn.

Ledled Cymru, mae ein darpar athrawon wedi cwblhau eu cwrs TAR neu BA Addysg gyda SAC ar adeg neilltuol.  Ers nifer o flynyddoedd bellach, bu Cwricwlwm i Gymru ar waith mewn gwahanol gamau, ond o’r mis yma bydd y cwricwlwm newydd yn ‘swyddogol’ ar yr union adeg y daw’r myfyrwyr hyn yn athrawon ‘swyddogol’, fel petai.

I’r darpar athrawon hyn, mae ymdeimlad fod Cwricwlwm i Gymru yn rhywbeth cyfarwydd. Wedi’r cyfan, seliwyd eu haddysg athrawon ar bileri’r cwricwlwm fel ‘y Pedwar Diben’, ‘Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ a ‘Disgrifiadau dysgu’. I bob pwrpas, mae Cwricwlwm i Gymru yn rhan o bopeth maent yn ei wneud a’i feddwl ac, yn ddiau, gall addysg yng Nghymru elwa o’u safbwyntiau. 

Fel tiwtor prifysgol fu’n cefnogi’r garfan ddiweddaraf hon o ddarpar athrawon, roedd yn hynod ddiddorol eu clywed yn trafod sut mae ysgolion yn mynd ati i weithredu Cwricwlwm i Gymru. Yn naturiol, mae gwahanol ysgolion mewn gwahanol fannau ar hyd y daith o ymgorffori Cwricwlwm i Gymru o fewn eu cynllunio a’u haddysgu. Mae ysgolion hefyd yn cymryd gwahanol lwybrau ar hyd y daith honno. Canlyniad hyn yw trafodaethau cyfoethog yn y seminarau prifysgol, gyda’r myfyrwyr yn rhannu profiadau a syniadau ac, wrth ddilyn llwybrau TAR y Brifysgol Agored, ceir cipolwg o arferion addysg o bob cwr o Gymru.

Read more

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn disodli ‘Addysg Grefyddol’ o dan y Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau ac yn orfodol i bob disgybl 3-16 oed. Mae’r elfen hon wedi’i datblygu i adlewyrchu dyheadau a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Dyma’r pwyntiau pwysicaf ynghylch cynllunio ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac addysgu’r elfen hon:

  • Wrth gynllunio ar gyfer y ffordd newydd hon o ymdrin â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg dylid dilyn gofynion dylunio cwricwlwm Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb
  • Wrth ddylunio eu cwricwlwm, rhaid i ysgolion ystyried y maes llafur y cytunwyd arno yn lleol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
  • Rhaid i’r elfen hon fod yn blwraliaethol, gan adlewyrchu’r ffaith bod traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf yn rhai Cristnogol ond gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
  • Rhaid hefyd adlewyrchu’r ffaith bod nifer o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol hefyd yn cael eu dal yng Nghymru
  • Rhaid i’r gwersi gael eu darparu mewn ffordd wrthrychol a beirniadol. Pan fyddant yn rhoi gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, rhaid i’r athrawon ddefnyddio dull diduedd nad yw’n annog plant na’i gwneud yn ofynnol iddynt fod yn grefyddol neu’n anghrefyddol nac i dderbyn safbwynt penodol
  • Ni all rhieni a gofalwyr ofyn am gael tynnu eu plant o’r gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Addysgu a defnyddio’r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg – enghraifft llwyddiannus

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Efallai nad Merthyr Tudful yw’r lle cyntaf i chi feddwl amdano os ydych chi’n am  ddod o hyd i angerdd dros y Gymraeg a’r mewnwelediadau diwylliannol sy’n deillio ohono.

Ond mae hynny’n newid diolch i’r tîm angerddol yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre, sy’n ymateb i ofynion Cymraeg y Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd gyfannol, gadarnhaol.

Mwynhewch eu hastudiaeth achos fer:

Ôl-sgript: Llongyfarchiadau i Mark Morgan a enillodd wobr ‘Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd’ yn #GwobrauAddysguCymru2022 Llywodraeth Cymru ar ddydd Sul 10fed Gorffennaf! Gweler y seremoni lawn yma: https://www.facebook.com/educationwales/videos/professional-teachingawardscymru2022/571567811016683/

Yr Egwyddorion Cynnydd ar waith – creu cysylltiadau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad – Ysgol y Strade.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Yn ôl fframwaith Cwricwlwm i Gymru, mae’r egwyddorion cynnydd yn amlinellu’r gofynion gorfodol ar gyfer cynnydd i ddysgwyr. Maent yn disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a’r galluoedd a’r ymddygiadau y mae’n rhaid i ymarferwyr geisio eu cefnogi, waeth beth fo’r cam datblygu i’r dysgwyr.

Wrth i ysgolion archwilio’r ffyrdd y mae’r egwyddorion cynnydd yn berthnasol i’w dysgwyr ar draws y continwwm 3-16, gallent ddefnyddio’r egwyddorion hyn i’w helpu i gynllunio’r cwricwlwm, eu trefniadau asesu, ynghyd â’u helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Alun Jones

Mae arweinwyr ac ymarferwyr Ysgol y Strade wedi bod yn archwilio sut mae’r egwyddorion cynnydd yn berthnasol i’w dysgwyr nhw. Wrth edrych ar gynnydd dysgwyr drwy gyfrwng yr egwyddorion cynnydd, heriwyd eu syniadau o safbwynt cynllunio’r cwricwlwm a’u trefniadau asesu. Mae’r egwyddorion hyn wedi cynnig iaith gyffredin a chyson iddynt wrth drafod cynnydd ar draws y cwricwlwm.

Gwelwyd un enghraifft o hyn yn ystod eu gwersi Gydol Oes (gwersi newydd i ddysgwyr bl.7 yr ysgol fel rhan o ddarpariaeth y MDaPh Iechyd a Lles.) Prif ddiben y gwersi dan sylw yw i ddatblygu sgiliau bywyd y dysgwyr, gan gynnwys eu sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol. Dechreuodd arweinwyr perthnasol yr ysgol ar y gwaith drwy drafod y sgiliau hanfodol a allai gefnogi’r garfan hon o ddysgwyr yn gynnar yn eu haddysg uwchradd; rhoddwyd cyfle i’r dysgwyr gynnig eu barn hefyd ynghylch pa sgiliau yr oeddent yn teimlo bod angen eu datblygu. O ganlyniad, dechreuodd y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Gydol Oes trwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu y dysgwyr, ar lafar yn bennaf, er mwyn gwella eu hyder wrth siarad o flaen cynulleidfa.

Josh Williams – Cydlynydd Dysgu Gydol Oes
Mae disgyblion yn gwneud cysylltiadau naturiol ar draws meysydd dysgu ac yn magu hyder

Yn hwyrach yn y flwyddyn, wrth i’r ysgol fynd ati i gynnal eu gweithgareddau gwerthuso a gwella, daeth i’r amlwg bod y dysgwyr nid yn unig yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu hyder, ond eu bod hefyd yn gwneud cysylltiadau naturiol rhwng eu profiadau dysgu o fewn eu gwersi Gydol Oes ac ar draws eu gwersi Cymraeg a Saesneg (lle gofynnwyd iddynt baratoi cyflwyniadau a chyflawni tasgau rhyngweithio fesul grŵp). Yn ystod trafodaethau gyda’r dysgwyr, mynegodd y dysgwyr sut yr oeddent yn teimlo bod eu hyder yn datblygu, a bod hyn wedi caniatáu iddynt wneud cynnydd yn eu gwersi iaith. Amlygodd y sylwadau yma eu bod yn datblygu eu heffeithiolrwydd cynyddol fel dysgwyr. Yn ogystal, nododd athrawon o fewn y MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu eu bod nhw wedi gallu canolbwyntio ar fireinio sgiliau iaith y dysgwyr gan eu bod bellach yn llawer mwy parod i gyflawni’r tasgau dan sylw.

Mae’r ysgol yn teimlo bod hyn wedi rhoi cyfle iddynt ystyried cyfleoedd eraill i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd newydd ar draws eu cwricwlwm. 

Dyma astudiaeth achos o Ysgol y Strade:

Mae’r astudiaeth achos hon wedi’i hychwanegu at gasgliad newydd a chynyddol o ddeunyddiau ategol ar Hwb, a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd.

Alun Jones,

Pennaeth cynorthwyol  sydd ar hyn o bryd ar secondiad fel cynghorydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru.

Y Newyddion diweddaraf ar Hunanwerthuso Ysgolion, Atebolrwydd a Chynnydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae hon wedi bod yn flwyddyn ysgol galed, ond hefyd yn flwyddyn o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru wrth i’r Cwricwlwm a’r newidiadau ategol fagu sail gyfreithiol a’r adnoddau yn rhoi mwy o gig ar yr asgwrn. Mae hynny’n parhau yr wythnos hon, felly dyma grynodeb byr o’r hyn sy’n cael ei gyhoeddi, a beth y mae’n ei olygu i chi.

Y Fframwaith newydd ar gyfer Gwella Ysgolion a Chanllawiau

Mae’r Fframwaith hwn yn gwahanu hunanasesu a gwella oddi wrth atebolrwydd.

Mae’n cyflwyno system hunanwerthuso gadarn lle gall ysgolion nodi cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Cefnogir yr hunanwerthusiad hwnnw gan yr ‘Adnodd Cenedlaethol: gwerthuso a gwella’ a phartneriaid gwella. Mae’r dull newydd yn annog adolygu gan gymheiriaid, ac mae dilyniant a lles dysgwyr yn ganolog iddo.

Bydd ysgolion yn cyhoeddi crynodebau o’u canfyddiadau hunanwerthuso a’u cynlluniau gwella ar eu gwefannau ar gyfer rhieni a gofalwyr. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phob ysgol i gytuno ar lefel y cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn cadarnhau’r cymorth y byddant yn ei roi i Lywodraethwyr.

Dylai ysgolion eisoes fod yn cynnal proses hunanwerthuso fel rhan o’u prosesau rheolaidd i wella’r ysgol.

Atebolrwydd ac arolygiadau

Mae Categoreiddio Cenedlaethol wedi dod i ben, a bydd atebolrwydd yn cael ei gynnal drwy lywodraethu ysgolion ac arolygiadau mwy rheolaidd gan Estyn. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd sy’n cefnogi’r Cwricwlwm newydd, gyda chynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024. 

Mae Estyn wedi gwneud newidiadau i’w ddull arolygu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu a fydd yn arwain at ddileu graddau crynodol. ac ychwanegu trosolwg allweddol o’r canfyddiadau sy’n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i’w datblygu.

Trefniadau Asesu – canllawiau diweddaraf sy’n adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth

Yn unol â’r cwricwlwm newydd, mae’r ddeddfwriaeth a ddaw i rym ym mis Medi 2022 yn nodi sut y mae’n rhaid cynllunio trefniadau i asesu cynnydd ochr yn ochr â’r cwricwlwm, gyda gofynion ar ysgolion sy’n cynnwys: asesiad parhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol i asesu cynnydd; nodi’r camau nesaf sydd ar y gweill; ac asesu’r dysgu a’r addysgu sydd eu hangen i helpu i sicrhau’r cynnydd hwnnw ar gyfer pob dysgwr.

Mae gofynion sy’n ymwneud ag asesu ar y dechrau, datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, a rhannu gwybodaeth â rhieni, i gyd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth newydd.

Mae’r Canllawiau Asesu sy’n Cefnogi Cynnydd Dysgwyr a’r Crynodeb o’r Ddeddfwriaeth ar Hwb wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol.

Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr

Mae deunyddiau ategol newydd wedi’u cyhoeddi i gefnogi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesiadau mewn ysgolion a lleoliadau. Maent yn ychwanegu at ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru a chanllawiau newydd ar wella ysgolion, ac yn nodi cymorth ymarferol ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd a hunanasesu.

Prosiect newydd i ddod â chymorth hirdymor ar gyfer Asesu a Chynnydd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, bydd angen dealltwriaeth ddofn o gynnydd ac asesu ar bob ymarferydd.

Bydd prosiect tair blynedd newydd, Camau i’r Dyfodol, nawr yn helpu ymarferwyr i feithrin y ddealltwriaeth ystyrlon honno, gan ei helpu i ddatblygu wrth i’r cwricwlwm datblygu. Lansiwyd y prosiect gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y mis hwn, ac mae’n cyflawni ymrwymiad i sicrhau bod cefnogaeth genedlaethol barhaus ar gael er mwyn datblygu cynnydd ac asesu.

Jeremy Miles AS

Bydd y prosiect Camau i’r Dyfodol – Steps to the Future, sy’n cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn tynnu ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd fel un ystyrlon, realistig a chynaliadwy ar gyfer pob dysgwr.

Mae sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn creu lle i ymarferwyr a phartneriaid  fyfyrio ar gynnydd ac asesu yng nghyd-destun eu harfer eu hunain, gan rannu eu profiadau a’r dulliau gweithredu, ac mae hyn yn rhan allweddol o waith y prosiect. Dechreuodd y gyfres gyntaf o sgyrsiau fis diwethaf, a bydd y rhain yn parhau yn y flwyddyn academaidd newydd.

Bydd y prosiect yn:

  • Tynnu ynghyd yr holl bartneriaid addysgol, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, er mwyn iddynt rannau eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth iddynt ennill dealltwriaeth o gynnydd.
Read more

Profi dulliau newydd o asesu a chynnydd – Ysgol Bontnewydd

Gweler neges debyg yn Saesneg

Bydd Asesu a Chynnydd yn edrych yn wahanol iawn dan y cwricwlwm newydd. Wrth wneud i ffwrdd â chyfnodau allweddol a phrofi yn eu herbyn, bydd y byd newydd yn gweld amrywiaeth o ddulliau asesu’n cael eu defnyddio.

Mae’n fater o newid diwylliant i lawer o ysgolion, taith o arbrofi a datblygu.

Mae Ysgol Bontnewydd wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser, ac mae newid mewn sawl ffordd wedi cael ei groesawu!

Dysgwch am eu taith hyd yn hyn yn ein hastudiaeth achos fer:

Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn cael ei hychwanegu at faes adnoddau newydd ar Hwb ddiwedd mis Mehefin, a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd.

Wedi’i lansio ac ar gael i chi: Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Gweler neges debyg yn Saesneg

Ar 11 Mai, lansiwyd adnodd i helpu ysgolion i hunanwerthuso a gwella. Byddai at ddefnydd pawb, ac roedd pawb wrth eu bodd.

Cyfrannodd sawl ysgol i’r gwaith o’i lansio ynghyd â chonsortiwm gwella ysgolion rhanbarthol GwE, partneriaeth gwella ysgolion y Gorllewin, ac Estyn.

Caiff digwyddiadau briffio rhanbarthol eu cynnal, ac mae hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer Partneriaid Gwella Ysgolion rhanbarthol hefyd i’w helpu i ddefnyddio’r Adnodd.

Ceir enghreifftiau isod o fideos cymorth a ddefnyddiwyd i lansio’r adnodd. Gallwch wylio’r digwyddiad lansio 40 munud yn llawn yma.

Mae Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn yn annog ysgolion i ddefnyddio’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella ac yn disgrifio sut roedd Estyn yn cefnogi ei ddatblygiad:

Read more

Rôl hanfodol Llywodraethwyr yn cefnogi datblygiad y cwricwlwm

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae gan Lywodraethwyr Ysgolion rôl hanfodol yn cefnogi eu hysgol i ddatblygu cwricwlwm newydd.

Gan graffu, cyfrannu ac annog, maent yn cynnig safbwynt allanol wedi’i saernïo ar ddealltwriaeth o sut y mae eu hysgol yn gweithredu.

Yn y ffilm hon, mae’r rhiant-lywodraethwr Meilys yn rhoi ei safbwynt hi ar ddatblygu cwricwlwm yn Ysgol Bontnewydd, gyda chyfraniadau gan y Pennaeth a’r disgyblion.