Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, bydd angen dealltwriaeth ddofn o gynnydd ac asesu ar bob ymarferydd.
Bydd prosiect tair blynedd newydd, Camau i’r Dyfodol, nawr yn helpu ymarferwyr i feithrin y ddealltwriaeth ystyrlon honno, gan ei helpu i ddatblygu wrth i’r cwricwlwm datblygu. Lansiwyd y prosiect gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y mis hwn, ac mae’n cyflawni ymrwymiad i sicrhau bod cefnogaeth genedlaethol barhaus ar gael er mwyn datblygu cynnydd ac asesu.

Bydd y prosiect Camau i’r Dyfodol – Steps to the Future, sy’n cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn tynnu ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd fel un ystyrlon, realistig a chynaliadwy ar gyfer pob dysgwr.

Mae sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn creu lle i ymarferwyr a phartneriaid fyfyrio ar gynnydd ac asesu yng nghyd-destun eu harfer eu hunain, gan rannu eu profiadau a’r dulliau gweithredu, ac mae hyn yn rhan allweddol o waith y prosiect. Dechreuodd y gyfres gyntaf o sgyrsiau fis diwethaf, a bydd y rhain yn parhau yn y flwyddyn academaidd newydd.
Bydd y prosiect yn:
- Tynnu ynghyd yr holl bartneriaid addysgol, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, er mwyn iddynt rannau eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth iddynt ennill dealltwriaeth o gynnydd.
- Cytuno sut y gall y ddealltwriaeth gyffredin hon weithio ar gyfer disgyblion Cymru, trwy gwricwlwm, asesu ac addysgeg.
- Sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn realistig ar gyfer ysgolion a lleoliadau, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd cynhwysol, seiliedig ar dystiolaeth gyda thegwch, uniondeb ac aliniad rhwng pob rhan o’r system.
- Darparu sylfaen dystiolaeth ddatblygol, a all darparu gwybodaeth newydd i’r ymarferwyr am gwricwla seiliedig ar gynnydd, ymarfer proffesiynol, a newid addysgol.
- Cefnogi datblygiad arferion a all gyflawni uchelgeisiau y Cwricwlwm i Gymru newydd, gan gynnwys datblygiad hirdymor y cwricwlwm.
Wrth i’r prosiect ddatblygu, caiff adnoddau eu creu i helpu ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, rhannu eu profiadau a chefnogi trafodaethau pellach o fewn eu hysgolion neu leoliadau. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu cyhoeddi ar Hwb.
Caiff grŵp gyd-lunio ei sefydlu yn fuan i arwain gweithgareddau, ffocws ac allbynnau’r prosiect, a sicrhau ei fod yn ymgysylltu â’r sector addysg gyfan yng Nghymru. Cadwch olwg ar flog y Cwricwlwm i Gymru am ragor o wybodaeth dros yr wythnosau i ddod, ac am yr wybodaeth ddiweddaraf ar waith Camau i’r Dyfodol, a fydd yn cynnwys newyddion ar ddigwyddiadau sydd i ddod a deunyddiau cyhoeddedig.
Gweler y fideo lansio isod: