Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau ac yn orfodol i bob disgybl 3-16 oed. Mae’r elfen hon wedi’i datblygu i adlewyrchu dyheadau a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Dyma’r pwyntiau pwysicaf ynghylch cynllunio ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac addysgu’r elfen hon:
- Wrth gynllunio ar gyfer y ffordd newydd hon o ymdrin â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg dylid dilyn gofynion dylunio cwricwlwm Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb
- Wrth ddylunio eu cwricwlwm, rhaid i ysgolion ystyried y maes llafur y cytunwyd arno yn lleol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
- Rhaid i’r elfen hon fod yn blwraliaethol, gan adlewyrchu’r ffaith bod traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf yn rhai Cristnogol ond gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
- Rhaid hefyd adlewyrchu’r ffaith bod nifer o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol hefyd yn cael eu dal yng Nghymru
- Rhaid i’r gwersi gael eu darparu mewn ffordd wrthrychol a beirniadol. Pan fyddant yn rhoi gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, rhaid i’r athrawon ddefnyddio dull diduedd nad yw’n annog plant na’i gwneud yn ofynnol iddynt fod yn grefyddol neu’n anghrefyddol nac i dderbyn safbwynt penodol
- Ni all rhieni a gofalwyr ofyn am gael tynnu eu plant o’r gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg