Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae diwedd y flwyddyn addysgol mewn prifysgol yn debyg iawn i ddiwedd tymor yr haf mewn ysgol: adeg o ffarwelio ac o deimlo balchder. Boed mewn meithrinfa neu addysg uwch, mae cael edrych yn ôl dros ddatblygiad eich dysgwyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio yn un o bleserau addysgu. Eleni, fel addysgwr addysg gychwynnol athrawon, mae fy myfyrdodau ddiwedd tymor yr haf wedi arwain at ymdeimlad o ryfeddod. Heb os, mae addysg yng Nghymru wedi datblygu llawer ers i mi hyfforddi i fod yn athrawes, ac mae’n gyfnod hynod gyffrous i’r garfan newydd hon o athrawon ymuno â’r proffesiwn.

Ledled Cymru, mae ein darpar athrawon wedi cwblhau eu cwrs TAR neu BA Addysg gyda SAC ar adeg neilltuol. Ers nifer o flynyddoedd bellach, bu Cwricwlwm i Gymru ar waith mewn gwahanol gamau, ond o’r mis yma bydd y cwricwlwm newydd yn ‘swyddogol’ ar yr union adeg y daw’r myfyrwyr hyn yn athrawon ‘swyddogol’, fel petai.
I’r darpar athrawon hyn, mae ymdeimlad fod Cwricwlwm i Gymru yn rhywbeth cyfarwydd. Wedi’r cyfan, seliwyd eu haddysg athrawon ar bileri’r cwricwlwm fel ‘y Pedwar Diben’, ‘Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ a ‘Disgrifiadau dysgu’. I bob pwrpas, mae Cwricwlwm i Gymru yn rhan o bopeth maent yn ei wneud a’i feddwl ac, yn ddiau, gall addysg yng Nghymru elwa o’u safbwyntiau.
Fel tiwtor prifysgol fu’n cefnogi’r garfan ddiweddaraf hon o ddarpar athrawon, roedd yn hynod ddiddorol eu clywed yn trafod sut mae ysgolion yn mynd ati i weithredu Cwricwlwm i Gymru. Yn naturiol, mae gwahanol ysgolion mewn gwahanol fannau ar hyd y daith o ymgorffori Cwricwlwm i Gymru o fewn eu cynllunio a’u haddysgu. Mae ysgolion hefyd yn cymryd gwahanol lwybrau ar hyd y daith honno. Canlyniad hyn yw trafodaethau cyfoethog yn y seminarau prifysgol, gyda’r myfyrwyr yn rhannu profiadau a syniadau ac, wrth ddilyn llwybrau TAR y Brifysgol Agored, ceir cipolwg o arferion addysg o bob cwr o Gymru.
Yn ogystal, yn ysbryd cylchred ddysgu Kolb (1984) (Ffigur 1), roedd yn wych gweld myfyrwyr yn adfyfyrio ar syniadau cyn arbrofi ac addasu yn eu lleoliadau ymarfer dysgu: syniadau megis sut mae ysgolion ymgorffori’r pedwar diben neu’n defnyddio eu cynefin fel ysbrydoliaeth wrth ddylunio’r cwricwlwm.

Mewnwelediad diddorol arall a gaf yn rôl y tiwtor prifysgol yw ystyried sut mae’r darpar athrawon a’u hysgolion ymarfer dysgu yn cysylltu theori ac ymarfer addysgol. Un o’r newidiadau mawr fu ym maes addysg yng Nghymru yw gwerthfawrogi rôl ymchwil o fewn ein gwaith addysgu, a dod i ddeall sut mae Cwricwlwm i Gymru, megis y Cyfnod Sylfaen o’i flaen, yn seiliedig ar ymchwil ryngwladol. Mewn cyferbyniad llwyr, ychydig iawn o ymchwil addysgol neu gynnwys academaidd oedd o fewn fy nghwrs hyfforddi athrawon i. Bum mlynedd ar hugain yn ôl roedd addysg gychwynnol athrawon yn canolbwyntio’n bennaf ar bynciau ac addysgeg. Rhywbeth ar y cyrion oedd defnyddio canfyddiadau gwaith ymchwil er mwyn gwerthuso’n feirniadol. Mae’r diffyg sylw i waith ymchwil yn peri syndod erbyn heddiw. Heb os, bu yna gryn ddatblygiad!
Hyd yn oed wedi gorffen hyfforddi a threulio rhai blynyddoedd yn yr ystafell ddosbarth, roedd ystyried sut gallai ymchwil helpu i ddatblygu fy ymarfer yn yr ystafell ddosbarth yn parhau’n arfer estron. Fe gofiaf un pennaeth newydd a blaengar yn ceisio cyflwyno ei staff addysgu (gan fy nghynnwys i) i lyfrau ar ddatblygu addysg. Mae’n deg dweud, yn gyffredinol, ein meddyliau ni’r staff oedd “beth yn y byd sydd â hyn i’w wneud gyda’m dosbarth i?”. Yn raddol, gyda chymorth grantiau datblygiad proffesiynol a chyfleoedd datblygu gyrfa yn gysylltiedig ag ymchwil gweithredol, deuthum i ddeall sut roedd fy ymgysylltiad â phrosiectau ymchwil o fudd i’m disgyblion ac yn cefnogi eu datblygiad. Erbyn heddiw, cyflwynir ein hathrawon dan hyfforddiant i bwysigrwydd a pherthnasedd ymchwil addysgol o’r cychwyn cyntaf. Ar ben derbyn profiadau ymchwilio yn yr ystafell ddosbarth, fel rhan o’u hyfforddiant maent hefyd yn elwa o wybodaeth a dealltwriaeth eu mentoriaid o ddefnyddio ymchwil, a hynny yn sgil arferion Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (YSD) (Ffigur 2).

Er bod creu amgylchedd ysgol sy’n gyfoethog o ran ymchwil yn cael ei bwysleisio ledled y DU (Adroddiad BERA-RSA, 2014), byddai’n naïf awgrymu nad oes unrhyw rwystrau yn wynebu athrawon ar eu taith ddysgu broffesiynol, gydag effaith a phwysau dilynol Covid-19 ar staff ysgol yn enghraifft o hyn. Fodd bynnag, ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio’n ffurfiol yr angen am ddysgu proffesiynol ystyriol drwy lansiad y cynllun YSD – rhywbeth sydd hefyd yn cysylltu â’r cyntaf o bedwar amcan y cynllun gweithredu addysg Cenhadaeth ein Cenedl.
Wrth i Gwricwlwm i Gymru ddod yn statudol, rhan o’r weledigaeth yw bod dysgu proffesiynol yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu ein system addysg. Fel y noda’r OECD “Gall YSD newid ac addasu’n gyson i amgylcheddau ac amgylchiadau newydd wrth i’w haelodau, yn unigol a chyda’i gilydd, ddysgu sut i wireddu eu gweledigaeth” (OECD, 2018, t. 2).
Gellid dadlau bod rhaid i bob un sefydliad neu randdeiliad o fewn addysg yng Nghymru sicrhau ei fod yn ‘sefydliad sy’n dysgu’ os yw cyflwyniad Cwricwlwm i Gymru yn mynd i lwyddo. Boed oherwydd sgorau PISA, newidiadau cymdeithasol neu gwricwlwm hen ffasiwn, roedd angen i addysg yng Nghymru newid. Er mwyn sicrhau llwyddiant Cwricwlwm i Gymru, dylai pob un ohonom ystyried y newid addysgol hwnnw fel taith, ac un garreg filltir yn unig ar hyd y daith honno yw’r mis Medi hwn.
Wrth i mi fyfyrio gyda rhyfeddod ar ddatblygiad addysg yng Nghymru hyd yn hyn, rwyf hefyd yn cydnabod fod mwy i’w wneud. Mae ein dysgu proffesiynol yn parhau: boed yn fyfyriwr, yn athro newydd neu’n athro profiadol; boed yn diwtor prifysgol, yn ymgynghorydd neu’n arolygydd.
Bydd y dysgu proffesiynol hwn yn allweddol i sicrhau dyfodol llwyddiannus Cwricwlwm i Gymru. Ymlaen!
Cyfeirnodau:
Kolb, D. (1984) Experiential learning: experience as the source of learning and development. Englewood Cliffs, NJ: Prentice-Hall.
OECD (2018) Datblygu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru. Paris: Gweithredu Polisïau Addysg, Cyhoeddi OECD. Ar gael yn: https://hwb.gov.wales/api/storage/3d31eeb5-eab1-43bf-9ad1-60ddc59966c1/developing-schools-as-learning-organisations-in-wales-highlights_0-cy.pdf (Cyrchwyd 8fed Gorffennaf 2022).
__________________________________________________________________________________
Nerys Defis
Mae Nerys yn diwtor cwricwlwm ar raglen TAR Partneriaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gyda chefndir mewn addysg gynradd, mae’n cefnogi myfyrwyr ar draws Cymru i hyfforddi fel athrawon a hefyd yn ymchwilio i ganfyddiadau o sut mae defnydd plant o dechnoleg yn effeithio ar iechyd a lles.