Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau, mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol yn mynd i mewn i gam 2 y broses ymchwilio a chasglu tystiolaeth. Yr allwedd i’r cam newydd o weithgaredd yw ffurfio grŵp cyd-greu, yn cynnwys ysgolion ledled Cymru a phartneriaid y sector addysg ehangach, gyda chefnogaeth ymchwilwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow.

Bydd y grŵp yn tynnu ar brofiad yr ysgolion a’r partneriaid i ddatblygu ar y cyd ddulliau ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwella dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr o fewn cyd-destun y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn cynnwys llywio Sgyrsiau y Rhwydwaith Cenedlaethol i’r dyfodol ar gynnydd ac asesu.
Rydym yn edrych am tua 30 ysgol, a fydd yn cynrychioli’r sector yma yng Nghymru, i gymryd rhan yn y grŵp. Mae croeso i bob ysgol wneud cais.
Gweler manylion llawn am y grŵp, ei weithgareddau a’r manteision o ymuno yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod. Os hoffai eich ysgol gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen electronig hon.
Bydd y cyfnod recriwtio ar gyfer y grŵp cyd-greu yn cau ar 30 Medi.
Y Grŵp Cyd-greu – Cwestiynau Cyffredin
Beth yw’r prosiect Camau i’r Dyfodol?
Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol yn brosiect 3 blynedd ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i ddatblygu gwybodaeth newydd ac i helpu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru trwy weithio gydag athrawon a phartneriaid addysgol ledled y system er mwyn cyd-greu allbynnau ar gyfer y prosiect a fydd yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgwyr. Newid a arweinir gan y rhai sydd wrth wraidd y system sy’n darparu’r cyfle gorau ar gyfer rhannu arbenigedd, magu hyder, meithrin cydlyniad ar draws y system, a chefnogi gwahanol bobl a sefydliadau sy’n bwysig ym myd addysg yng Nghymru.
Mae Camau i’r Dyfodol yn brosiect ymchwil a fydd yn ceisio datblygu dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr er mwyn bwydo hynny yn ôl i system addysg Cymru a chyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol.
Fel rhan o hyn, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil fel rhan o’ch cyfraniad yn y Grŵp Cyd-greu. Eich penderfyniad chi fydd p’un ai i fod yn rhan o’r gweithgarwch ymchwil ai peidio, ac ni fydd eich penderfyniad yn dylanwadu ar eich cyfranogiad yn y grŵp Cyd-greu.
Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol wedi’i gynllunio i ddigwydd trwy bedwar cam. Bydd y grŵp cyd-greu yn dechrau gwaith Cam 2 yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23.
Beth yw diben y grŵp cyd-greu?
Rhan hanfodol o wireddu cwricwlwm ar gyfer Cymru yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a chapasiti o ran cynnydd dysgwyr. I gefnogi hyn, bydd Camau i’r Dyfodol yn tynnu ynghyd athrawon, partneriaid addysgol ac ymchwilwyr fel ‘Grŵp Cyd-greu Proffesiynol’. Bydd y grŵp hwn yn nodi’r meysydd blaenoriaeth a’r cyfleoedd a fydd yn helpu’r rhai sy’n rhan o wireddu’r cwricwlwm newydd i ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgwyr. Bydd yn gweithio drwy’r rhain trwy ddefnyddio tystiolaeth o ymchwil, polisi ac arferion er mwyn datblygu dulliau ac adnoddau ar y cyd sydd yn ddefnyddiol a gwerthfawr i waith ysgolion a sefydliadau partner ledled Cymru. Mae arbenigedd a phrofiad y rhai sydd â rolau gwahanol yn y system addysg yn hanfodol i hyn. Mae’r cyfranogiad gweithredol, tegwch, a bod yn agored i bersbectifau gwahanol yn ganolog i waith y grŵp hwn.
Beth fydd y grŵp cyd-greu yn ei wneud?
Nod y grŵp cyd-greu fydd datblygu’r canlynol gyda’i gilydd: 1) dulliau ac adnoddau a fydd yn gwella dealltwriaeth ymarferol o gynnydd dysgwyr, a 2) ffyrdd o sicrhau y gall y rhain gael eu defnyddio gan ysgolion a phartneriaid addysgol ledled Cymru fel rhan o’u syniadau a’u harferion eu hunain.
Yn benodol, bydd y grŵp yn:
- Nodi’r meysydd blaenoriaeth neu’r cyfleodd sydd fwyaf gwerthfawr i weithio arnynt.
- Datblygu ffyrdd o weithio o fewn y grŵp a gydag ysgolion a sefydliadau sy’n cymryd rhan.
- Ymgysylltu’n feirniadol ag ymchwil, polisi ac arferion i feithrin gwybodaeth a datblygu syniadau ac arferion a fydd yn gwella’r meysydd blaenoriaeth a’r cyfleoedd.
- Datblygu ac arwain Sgyrsiau y Rhwydwaith Cenedlaethol i rannu a llywio gwaith y grŵp.
- Creu adnoddau sy’n caniatáu i’r wybodaeth a’r dulliau a ddatblygir gan y grŵp gael eu defnyddio, fel rhan o’r gwaith o wireddu’r Cwricwlwm, gan athrawon, ysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol a sefydliadau partner ledled Cymru.
Bydd gwaith y grŵp yn hwylus ac yn ystyrlon i ysgolion a bydd yn cysylltu â gwaith ehangach o ran gwireddu’r cwricwlwm. Bydd yn bwydo i mewn i’r gweithgareddau parhaus y mae ysgolion a sefydliadau eisoes yn cymryd rhan ynddynt i wireddu’r cwricwlwm newydd, tra’n datblygu dulliau ac adnoddau y gellir eu defnyddio’n ehangach ar draws y system ar yr un pryd. Dylai’r meysydd blaenoriaeth a’r cyfleoedd a nodir gan y grŵp wella gwybodaeth a dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr, cefnogi pobl i wireddu’r system newydd, a dylent ddeillio o system ddysg Cymru. Gallant godi o gwestiynau sydd gan bobl ynghylch agweddau ar asesu, addysgeg, datblygu cwricwlwm, agallant fod yn drawsbynciol neu lywio gwahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Gallant fod yn heriau neu’n bethau sydd yn bwysig oherwydd eu bod yn gyffredin i ysgolion, partneriaid a sefydliadau.
Caiff gwaith y grŵp cyd-greu ei gefnogi ar bob cam gan dîm y prosiect Camau i’r Dyfodol. Bydd gwybodaeth a chymorth ychwanegol yn cael eu rhoi cyn cyfarfod cychwynnol y grŵp.
Pwy all gymryd rhan a sut mae’n cael ei drefnu?
Bwriad y grŵp cyd-greu yw cynnwys amrywiaeth o bobl o bob rhanbarth daearyddol yn system addysg Cymru gan gynnwys gweithwyr ysgol proffesiynol, partneriaid rhanbarthol, Estyn a Chymwysterau Cymru, yn ogystal ag aelodau o dîm y prosiect Camau i’r Dyfodol. Lluniwyd y grŵp cyd-greu gyda’r bwriad o gynnwys amrywiaeth o bersbectifau, rolau ac arbenigedd trwy gynnwys amrywiaeth o bartneriaid addysgol ac ysgolion o bob sector y system addysg (leoliadau nas cynhelir, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig). Yn ddelfrydol, bydd y grŵp cyd-greu yn cynnwys y rhai sydd wedi bod yn rhan o’r model blaenorol o arloesi a datblygu Meysydd Dysgu a Phrofiad yn ogystal â rhai sydd heb fod yn rhan ohono.
Bydd y grŵp cyd-greu cyfan yn gweithio’n agos gyda sawl is-grŵp a ffurfiwyd mewn perthynas â’r meysydd blaenoriaeth a’r cyfleoedd a nodwyd. Cyn belled ag y bo’n bosibl, bydd yr is-grwpiau yn adlewyrchu amrywiaeth y grŵp cyfan ac ni fyddant yn gweithio ar wahân i’w gilydd. Bydd cyfleoedd parhaus yn cael eu datblygu i grwpiau weithredu fel cyfeillion beirniadol, i rannu a thynnu ar arbenigedd, i fyfyrio ac i gynnig, ac i wneud penderfyniadau ar y cyd am y dulliau a gymerir i sicrhau bod y grŵp cyd-greu cyfan yn parhau i fod yn effeithiol. Bydd aelodau o’r tîm Camau i’r Dyfodol yn gweithio gyda’r grwp cyd-greu i gefnogi gweithgaredd yr is-grwpiau, y defnydd o dystiolaeth a datblygu sgiliau ymchwil a chapasiti. Byddant hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu gwybodaeth newydd sy’n bwydo’n ôl i mewn i’r system ac yn cyfrannu i ddealltwriaeth ehangach o gynnydd a newid addysgol.
Sut beth fydd ymrwymiad aelodau’r grwp?
Mae’r grŵp cyd-greu yn darparu’r cymorth, y lle a’r amser angenrheidiol i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o gynnydd dysgwyr ac o ddulliau a all helpu i wireddu cwricwlwm i Gymru a fydd yn canolbwyntio ar gynnydd. Er mwyn cyflawni hyn, bydd yn bwysig sicrhau cyfranogiad rheolaidd a chyson aelodau mewn gwahanol fathau o weithgareddau trefnu, datblygu, myfyrio a dadansoddi. Fel rhan o Gam 2 y prosiect Camau i’r Dyfodol, bydd y grŵp cyd-greu yn gweithredu dros gyfnod 30 wythnos sesiwn academaidd 2022-23.
Mae gweithgaredd y grŵp wedi’i lunio mewn ffordd hyblyg er mwyn cyflawni’r rhan fwyaf o’r ymrwymiad amser o bell a thrwy waith sydd eisoes yn digwydd o fewn lleoliadau ysgolion a sefydliadau partner. Dim ond y prif weithgaredd cyd-greu na ellir ei wneud o bell fydd yn digwydd wyneb yn wyneb. Disgwylir y bydd gwaith y grŵp cyd-greu yn cael ei ddefnyddio’n weithredol i gefnogi, a chael ei ddatblygu drwy waith parhaus ar gynnydd dysgwyr yn yr ysgolion/y sefydliadau partner sy’n cyfranogi. Dylai’r ymrwymiad hwn yn yr ysgolion a’r sefydliadau adlewyrchu’r ymrwymiad uniongyrchol i’r gweithgareddau a ddisgrifir yn y tabl isod. Mae’r tabl yn manylu ar ymrwymiad amser disgwyliedig pob person ar y gweithgareddau cyd-greu dynodedig.
Gweithgaredd y Grŵp | Ymrwymiad amser | Lleoliad cyfranogwyr |
Cyfarfodydd y Prosiect Tua 1 awr y pythefnos. | 3 diwrnod | Rhithiol |
Gweithdai Cyd-greu gyda’r Tîm CAMAU Wedi’u trefnu ar draws sesiwn academaidd 2022-23. | 6 diwrnod (oddi ar y safle) | Wyneb yn wyneb yn Wrecsam a Chaerdydd ar yn ail |
Gweithdai Gyda’r Hwyr gyda’r Tîm CAMAU Tua 1.5 awr, ddwywaith bob hanner tymor. | 3 diwrnod | Rhithiol |
Sgyrsiau y Rhwydwaith Cenedlaethol | 1 diwrnod | Rhithiol |
Cyfanswm yr ymrwymiad ar draws y flwyddyn 2022-23 | 13 diwrnod ar gyfer pob person |
Ymrwymiad Amser Disgwyliedig gan Bob Person sy’n Mynychu’r Grŵp Cyd-greu
Beth yw manteision cyfranogi yn y Grŵp Cyd-greu?
Bydd y rhai sy’n cyfranogi yn y prosiect yn datblygu eu dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr, drwy edrych ar agweddau o’r cwricwlwm, o addysgeg ac o asesu. Byddant yn chwarae rôl yn llunio’r prosiect Camau i’r Dyfodol ac yn helpu i ddatblygu syniadau ac arferion ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae’n gyfle unigryw i rannu a datblygu syniadau gyda gwahanol bobl o bob rhan o’r system ac i ymgysylltu’n feirniadol â thystiolaeth o ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd ysgolion a sefydliadau partner sy’n cyfranogi yn gallu defnyddio tystiolaeth a gwersi a ddysgir gan y grŵp cyd-greu fel canolbwynt ar gyfer datblygu a dysgu proffesiynol i fireinio a datblygu eu dulliau eu hunain o ran cynnydd dysgwyr. Mae’n gyfle i’r ysgolion a’r sefydliadau partner rannu a myfyrio ar eu dysgu ar draws gwahanol feysydd o’r cwricwlwm a chysylltu ag eraill ledled Cymru.
P’un a ydych yn ysgol, yn sefydliad neu’n unigolyn, bydd cyfranogi yn y grŵp cyd-greu yn eich galluogi i gefnogi’r gwaith o greu gwybodaeth newydd a fydd yn bwydo’n ôl i mewn i’r system a gwella dealltwriaeth ehangach o gynnydd a newid addysgol.
Beth yw’r manteision i’r rhai nad ydynt yn cyfranogi’n uniongyrchol yn y Grŵp Cyd-greu?
Mae gwireddu cwricwlwm cenedlaethol newydd yn broses hirdymor o roi cynnig ar bethau dro ar ôl tro. Nid mater o ddatrys rhywbeth unwaith ac am byth ydyw neu o gynnal un digwyddiad. Mae’r prosiect Camau i’r Dyfodol wedi’i lunio yn benodol i fod o fantais i bawb ac nid yn unig i’r rhai sy’n rhan o’r grŵp cyd-greu. Bydd Sgyrsiau y Rhwydwaith Cenedlaethol yn darparu cyfle i ddysgu gan a bwydo i mewn i waith y grŵp cyd-greu. Bydd y dulliau a’r adnoddau a ddatblygir gan y grŵp ar gael i bob ysgol a phartner addysgol i’w defnyddio fel rhan o’u trafodaethau a’u gwaith datblygu parhaus.
A fydd modd gwneud cais am dâl costau staff er mwyn iddyn nhw fynychu cyfarfodydd y grŵp?
Gall y costau sy’n codi i’r ysgol ar gyfer cymryd rhan yn y grŵp cyd-greu gael eu talu drwy gyllid Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn cael ei ddyrannu i ysgolion drwy eich gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol / lleol ar gyfer datblygu’r Cwricwlwm i Gymru gan gynnwys cynnydd dysgwyr. Bydd ysgolion yr ymarferwyr sy’n cymryd rhan yn cael iawndal gan eu consortiwm neu bartneriaeth rhanbarthol am ymrwymiad amser gweithio’n uniongyrchol ar Camau I’r Dyfodol, a hynny ar gyfradd o £200 y dydd, pro rata ar gyfer sesiynau byrrach. Mae’r iawndal hwn yn berthnasol i’r ymrwymiadau amser a nodir yn y tabl uchod, nid yw’n cynnwys amser ychwanegol y gellir ei gymryd cyn neu ar ôl y sesiynau hyn ar gyfer paratoi ac ymgorffori dysgu yn yr ysgol.