Neidio i'r prif gynnwy

Wedi’i lansio ac ar gael i chi: Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella

Gweler neges debyg yn Saesneg

Ar 11 Mai, lansiwyd adnodd i helpu ysgolion i hunanwerthuso a gwella. Byddai at ddefnydd pawb, ac roedd pawb wrth eu bodd.

Cyfrannodd sawl ysgol i’r gwaith o’i lansio ynghyd â chonsortiwm gwella ysgolion rhanbarthol GwE, partneriaeth gwella ysgolion y Gorllewin, ac Estyn.

Caiff digwyddiadau briffio rhanbarthol eu cynnal, ac mae hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer Partneriaid Gwella Ysgolion rhanbarthol hefyd i’w helpu i ddefnyddio’r Adnodd.

Ceir enghreifftiau isod o fideos cymorth a ddefnyddiwyd i lansio’r adnodd. Gallwch wylio’r digwyddiad lansio 40 munud yn llawn yma.

Mae Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn yn annog ysgolion i ddefnyddio’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella ac yn disgrifio sut roedd Estyn yn cefnogi ei ddatblygiad:

Mae Owain Gethin Davies yn disgrifio sut mae Ysgol Dyffryn Conwy wedi defnyddio’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella i werthuso ei dysgu proffesiynol wrth iddi ddatblygu ei chwricwlwm newydd:

Mae manylion yr adnodd, gan gynnwys ei strwythur, astudiaethau achos o’i ddefnyddio, Cwestiynau Cyffredin a mwy, ar y dudalen hon: Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella – Hwb (llyw.cymru)

Gadael ymateb