Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru anelu at gael ei wireddu’n llawn, bydd y Blog hwn yn datblygu i gynnwys datblygiadau ehangach ym maes addysg yng Nghymru.
Bydd yn dal i gynnwys eitemau ar y cwricwlwm a diwygiadau ategol wrth gwrs, ond bydd hefyd yn ymwneud â materion ehangach ysgolion, Addysg Bellach ac Addysg Uwch, yr amrediad llawn.
Bydd ei deitl hefyd yn newid i ‘Blog Addysg Cymru’.
Fel sy’n arferol, os oes gennych chi syniadau neu geisiadau am eitemau a fyddai’n ddefnyddiol i chi a’ch cydymarferwyr, rhowch wybod i ni.
Roedd cynhadledd 90 munud wedi’i grynhoi’n dynn yn archwilio gweithredu’r cwricwlwm a’r dull datblygu o wella ysgolion ar 23ain Mawrth.
Cafwyd anerchiadau agoriadol gan Jeremy Miles, y Gweinidog ac Owen Evans o Estyn gyda thrafodaeth panel bywiog gan gynnwys tri phennaeth: Owain Gethin Davies o Ysgol Dyffryn Conwy, Edward Jones o Ysgol Gyfun Pencoed, a Michelle Jones MBE o Ysgol Gynradd Lansdowne; Yr Athro Graham Donaldson a’r Athro Fonesig Alison Peacock.
Unwaith y bydd ysgol wedi datblygu ei chwricwlwm, yn ôl y gyfraith rhaid iddi gyhoeddi crynodeb er mwyn i bartïon sydd â diddordeb ei weld.
Mae cyd-destun pob ysgol a lleoliad yn wahanol ac felly nid oes templedi sefydlog na rheolau pendant ynghylch sut y dylid cyflwyno’r crynodebau. O ran cynnwys, yr argymhelliad ar hyn o bryd yw eu bod yn dangos:
gwybodaeth am y ffordd y mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu’r cwricwlwm
sut mae’r cwricwlwm yn bodloni’r elfennau gofynnol a nodir yn y fframwaith cenedlaethol, gan ddechrau gyda’r pedwar diben
gwybodaeth am sut mae’r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a’i threfniadau ar gyfer asesu
sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu’n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a diwygio’r cwricwlwm yn barhaus.
Gan eu bod wastad yn ddyfeisgar, ac yn ymateb i gyd-destunau gwahanol, mae cydweithwyr wedi defnyddio gwahanol ffyrdd o gyflwyno cwricwla. Rydym yn diolch iddyn nhw a’r partneriaid addysg am anfon eu henghreifftiau atom, ac rydym yn falch o’u rhannu isod.
Ysgol Gymraeg Gwenllian (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) – yn cyfuno cyd-destun Llywodraeth Cymru â stori fideo ddifyr o’r pedwar diben a wnaed yn fyw drwy stori Gwenllian, ac yn annog adborth.
Ysgol Pen Rhos (Ysgol gynradd dwy iaith) – enghraifft gytbwys sy’n dangos sut mae’r cwricwlwm yn cael ei roi at ei gilydd, ac yn disgrifio asesu ac adolygu parhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y cwricwlwm yn gweithio.
Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg) – mae’r strwythur clir yn dangos fesul adran sut mae’r cwricwlwm yn cyfuno gweledigaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion â gofynion gorfodol, gan gynnwys asesu.
Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) Trylwyr a chlir, gydag opsiynau i glicio arnynt i edrych yn ddyfnach, gan ddangos y pedwar diben yn llawn.
Heronsbridge School – Pen-y-bont (ysgol arbennig) – cyflwyniad trylwyr i’r cwricwlwm mewn ysgol sydd â dysgwyr ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys canolfan ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth. Rhagor o fanylion ar gael y tu ôl i sleidiau hygyrch.
Ysgol Gynradd Coety – Pen-y-bont(ysgol gynradd cyfrwng Saesneg) – mae cyflwyniad clir byr yn cynnig yr opsiwn o ddogfen PDF gyda trosolwg manwl ond hygyrch o ddull yr ysgol ar draws pob agwedd o’r cwricwlwm.
Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Caerdydd(ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg) – nid yw Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru tan fis Medi 2023, ond maen nhw eisoes yn rhannu gwybodaeth wrth iddyn nhw gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Ysgol Iolo Morgannwg, Bro Morgannwg(ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) – mae’r crynodeb clir hwn yn dangos sut mae rhanddeiliaid wedi bod yn rhan o lunio’r cwricwlwm, a sut mae dyheadau lleol wedi’u cyfuno â’r fframwaith cenedlaethol.
Ysgol Nantgwyn (English medium all-through school) – Yn glir a hawdd ei ddeall, o ymgysylltu a blaenoriaethau hyd at y cwricwlwm, mae hyn hefyd yn disgrifio cwricwlwm 3-16 lle mae rhai disgyblion yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru tra bod rhai disgyblion hŷn yn parhau i fod ar y cwricwlwm blaenorol.
Ysgol Cas-gwent(ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg) – Mae Ysgol Cas-gwent wedi dewis fideo chwe munud sy’n cynnwys athrawon a disgyblion i ddisgrifio eu cwricwlwm. Mae’n cysylltu elfennau gorfodol â chyd-destun yr ysgol ac yn dangos dysgu enghreifftiol ym Meysydd y cwricwlwm.
A chamau breision yn parhau i gael eu cymryd yn y gwaith o adolygu adnoddau’r cwricwlwm – gweler y blog blaenorol – mae deunydd newydd gwych yn cael ei ychwanegu.
Isod, mae Ysgol y Wern yn disgrifio sut maen nhw’n mynd ati i bontio i’r trefniadau newydd, ac mae Ysgol Llanhari yn disgrifio sut maen nhw’n datblygu eu cwricwlwm, gan roi safbwyntiau arweinwyr ac unigolion eraill sy’n cyfrannu at fywyd yr ysgol.
Diweddarwyd Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Ychwanegiadau neu ddiwygiadau i’r adrannau presennol yw’r newidiadau yn bennaf.
Bydd diweddariadau yn y dyfodol ym mis Ionawr, fel y gall ymarferwyr fod yn sicr eu bod yn hollol gyfredol drwy’r flwyddyn. Dewiswyd mis Ionawr i gyd-fynd orau â chylchoedd cynllunio’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau.
Mae diweddariadau mis Ionawr eleni yn cynnwys:
Adran ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm’ ddiwygiedig i adlewyrchu bod y cwricwlwm bellach yn cael ei weithredu
Rhoi eglurder i’r naratif ar hanes Cymru yn y Maes Dyniaethau
Cywiriadau i rai diffiniadau a hyperddolenni
Mwy o eglurder drwy fân ddiwygiadau i’r naratif – mewn ymateb i adborth
Bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod pob tudalen yn datgelu a oes newid wedi’i wneud.
Ochr yn ochr â hyn, mae tudalen Adnoddau a Deunyddiau AtegolHwbnewydd wedi cael ei chyhoeddi i’w gwneud yn haws canfod adnoddau sy’n benodol i’r Cwricwlwm i Gymru. Mae prosiect i adolygu’r holl adnoddau Hwb er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r cwricwlwm a nodi bylchau o ran adnoddau hefyd ar y gweill fel sy’n ymddangos yn y neges blog blaenorol hwn. Gwahoddir ymarferwyr i gymryd rhan yn y gwaith adolygu adnoddau, gyda hyfforddiant, cefnogaeth ac iawndal yn cael eu darparu i ysgolion y rhai sy’n gwneud hynny. Cysylltwch â’r tîm ar: cwricwlwmigymru@llyw.cymru
Mae un deg chwech o astudiaethau achos newydd a ddatblygwyd gan ysgolion a helpodd i greu’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella bellach wedi’u cyhoeddi ar Hwb.
Maen nhw yno i ddangos sut y gellir defnyddio’r cwestiynau trafod yn yr Adnodd wrth hunanwerthuso a gwella, gydag enghreifftiau ymarferol o ddulliau a chanlyniadau.
Mae’r holl astudiaethau achos blaenorol hefyd wedi’u diweddaru, gan ddangos pa ganlyniad mae’r dulliau a ddefnyddir wedi’u cael ar wella ysgolion.
Mae adnoddau ar wefan Hwb yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n Cwricwlwm newydd – ac er mwyn eu gwneud yn haws dod o hyd iddyn nhw. Mae’n dasg enfawr a fydd yn parhau hyd nes bod pob un o’r 5,000 a mwy o adnoddau wedi’u hadolygu. Felly, dyma alwad i ymarferwyr helpu.
Mae tudalen lanio newydd ar gyfer yr Adnoddau wedi’i chynllunio i gynnwys yr adnoddau a’r deunyddiau ategol – ac mae’r rheini’n cael eu trefnu i gyd-fynd â phob Maes yn y Cwricwlwm
Mae ymarferwyr a staff Llywodraeth Cymru wedi hen ddechrau ar y gwaith adolygu hwn, gan ddefnyddio’r canllaw ar adnoddau fel eu maen prawf – ond estynnir gwahoddiad i ragor o ymarferwyr gymryd rhan. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i asesu adnoddau, ac ar yr un pryd cewch gyfle i gael syniad go iawn o’r hyn sydd ar gael.
Caiff sesiynau hyfforddi eu darparu a fydd yn cyflwyno’r broses a’r ffordd o fynd ati, gan ddefnyddio adnoddau a deunyddiau ategol go iawn.
Bydd cyllid ar gyfer athrawon cyflenwi gwerth £250 pro rata y dydd yn cael ei roi i’ch ysgol neu i’ch lleoliad os gallwch chi helpu gyda’r gwaith pwysig hwn.
Yn amodol ar gytundeb gan eich pennaeth, anfonwch e-bost i’r tîm adolygu drwy CurriculumforWales@llyw.cymru, gan gynnwys eich manylion o dan y penawdau a restrir isod.
Enw
E-bost
Ysgol/lleoliad
Cynradd/ Uwchradd/ Arbennig
Cyfrwng Cymraeg /Saesneg
Y maes/meysydd o ddiddordeb ichi – Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Llesiant, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dysgu Sylfaen [cofiwch gynnwys manylion am agweddau penodol eraill ar y cwricwlwm y gallech fod ag arbenigedd ynddynt – ee Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, llythrennedd, rhifedd, gwybodaeth ddigidol, dysgu yn yr awyr agored, ac ati]
Ym mis Ebrill eleni, bydd ‘Adnodd’, sef cwmni adnoddau addysgol newydd, yn cael ei ffurfio i alluogi dysgwyr, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at adnoddau addysgol o’r radd flaenaf a deunyddiau ategol yn Gymraeg ac yn Saesneg, i gefnogi addysgu’r Cwricwlwm a’i gymwysterau. Ni fydd Adnodd yn cyhoeddi adnoddau ei hun, ei nod yw galluogi’r cynhyrchu o adnoddau mewn ffordd fwy strategol a chydgysylltiedig, gan weithio gydag ymarferwyr, cyhoeddwyr, datblygwyr a sefydliadau eraill i greu adnoddau o ansawdd uchel i ysgolion, lleoliadau a dysgwyr.
Gan gydnabod mai achosion o ganser y colon a’r rhefr yn ardal ein hawdurdod lleol (Rhondda Cynon Taf) yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin, a bod nifer yr achosion yn uwch na’r cyfartaledd ledled Cymru, ffurfiwyd partneriaeth gychwynnol rhwng Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Elusen Ganser Moondance yn 2019. Gweithiodd Ysgol Uwchradd Pontypridd mewn partneriaeth ag ystod o weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y nod oedd cyflwyno rhaglen addysg a allai gefnogi gwaith cydweithwyr iechyd mewn perthynas â’r mater iechyd critigol hwn, ond un y gellir ei drin. Byddai’r rhaglen yn ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol i’n disgyblion ac i oedolion yn y gymuned leol.
Mae gwella dealltwriaeth disgyblion o ganser ac yn benodol canser y coluddyn – o’r achosion i’r sgrinio a’r cyfraddau gwella – wedi bod yn ganolbwynt i’r rhaglen ddysgu. Mae pwysigrwydd sgrinio fel rhan o’r dysgu hwn yn hanfodol, gan fod diagnosis a thriniaeth gynnar yn arwain at gyfraddau goroesi llawer uwch. Mewn rhai ardaloedd yn nalgylch yr ysgol mae data sgrinio’n dangos bod y gyfradd ar gyfer yr oedolion cymwys hynny sy’n manteisio ar brofion sgrinio yn is na 50%, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol sy’n uwch na 60%.
Wrth ymateb i’r ystadegyn difrifol hwnnw, mae disgyblion wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd i helpu i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned, gan weithio drwy’r rhaglen ddysgu i gyfleu’r neges bwysig hon i rieni, gofalwyr ac aelodau eraill o’r teulu.
Gan adeiladu ar y gwaith peilot llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, tyfodd y prosiect yn 2021/22 i gynnwys chwe ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Taf a hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r bartneriaeth a’r cydweithio rhwng gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol wedi bod yn hanfodol i ansawdd yr adnoddau a’r dysgu sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen hon ac mae pob ysgol wedi gallu datblygu model cyflwyno newydd – yn ei ffordd ei hun – o fewn ei hardal.
Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg werthusiadau ei hun o waith y chwe ysgol, a daeth i’r casgliad bod 115% o gynnydd wedi bod yn y galw am becynnau sgrinio’r coluddyn yn ardal leol Rhondda Cynon Taf lle’r oedd y chwe ysgol wedi cyflwyno’r rhaglen. Roedd hyn o’i gymharu â chynnydd o 22% mewn ardal gyfagos yn yr awdurdod lleol. Yn ogystal â hynny, adroddwyd bod cynnydd o 72% wedi bod yn nifer y profion sgrinio a gafodd eu dychwelyd yn ein hardal – sy’n arwyddocaol – ac fe gadarnhaodd y bwrdd iechyd fod y gwaith mewn ysgolion wedi cyfrannu’n fawr at y gwelliant hwn.
Mae’r effaith o ran ennyn diddordeb disgyblion hefyd wedi bod yn glir, ac mae pob ysgol wedi bod yn datblygu’r prosiect wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 7 ac 8. Mae’r gwersi wedi meithrin sgiliau trawsbynciol ac wedi cwmpasu Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; ac Iechyd a Lles, ac mae’r cyd-destun yn dod â realiti bywyd go iawn i’r dosbarth.
Dywedodd y cydlynydd, Marie Sidoli, “Mae’r disgyblion yn gweld ‘pam’ mae angen dysgu wrth weithio gydag ystadegau iechyd gwirioneddol fel y rhai ar gyfer canser y coluddyn ac mae’n ennyn diddordeb mawr ynddyn nhw. Ac wrth gwrs, mae’r prosiect cyfan yn cyd-fynd yn naturiol â’r pedwar diben.”
Mae’r Cwricwlwm i Gymru ar waith bellach ym mhob un o’n hysgolion cynradd ac yn nifer o’n hysgolion uwchradd. Diolch ichi athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, arweinwyr ysgolion a holl staff yr ysgolion am eich cymorth wrth sicrhau hyn ar gyfer eich disgyblion.
Bydd y gyfres o adnoddau i’ch cefnogi yn parhau i dyfu yn 2023 diolch i garedigrwydd ysgolion sy’n darparu rhestr chwarae neu yn croesawu ein criw ffilmio i’w dal nhw wrth eu gwaith. Ceir rhai o uchafbwyntiau 2022 isod, ond os ydych yn credu bod gennych bersbectif diddorol i’w rannu, gadewch inni wybod ar bob cyfri!
Mewn ymateb i alw, mae grŵp gwych o adnoddau a ddatblygwyd gan ysgolion, ar gyfer ysgolion, wedi’u cyfuno mewn PDF sy’n hawdd ei chwilio.
Mae 48 o restrau chwarae/cyflwyniadau wedi’u cynnwys, sy’n cwmpasu dysgu proffesiynol staff, datblygu gweledigaeth ysgol gyfan, gweithredu’r cwricwlwm, modelu arweinyddiaeth dysgu, a sefydlu diwylliant o newid.
Mae’r adnoddau i gyd yn ymddangos ar Hwb, ond mae’r rhestr gyfeirio gyflym hon yn ei gwneud yn haws chwilio amdanynt.