Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae adnoddau ar wefan Hwb yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n Cwricwlwm newydd – ac er mwyn eu gwneud yn haws dod o hyd iddyn nhw. Mae’n dasg enfawr a fydd yn parhau hyd nes bod pob un o’r 5,000 a mwy o adnoddau wedi’u hadolygu. Felly, dyma alwad i ymarferwyr helpu.
Mae tudalen lanio newydd ar gyfer yr Adnoddau wedi’i chynllunio i gynnwys yr adnoddau a’r deunyddiau ategol – ac mae’r rheini’n cael eu trefnu i gyd-fynd â phob Maes yn y Cwricwlwm
Mae ymarferwyr a staff Llywodraeth Cymru wedi hen ddechrau ar y gwaith adolygu hwn, gan ddefnyddio’r canllaw ar adnoddau fel eu maen prawf – ond estynnir gwahoddiad i ragor o ymarferwyr gymryd rhan. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a’ch arbenigedd i asesu adnoddau, ac ar yr un pryd cewch gyfle i gael syniad go iawn o’r hyn sydd ar gael.
Caiff sesiynau hyfforddi eu darparu a fydd yn cyflwyno’r broses a’r ffordd o fynd ati, gan ddefnyddio adnoddau a deunyddiau ategol go iawn.
Bydd cyllid ar gyfer athrawon cyflenwi gwerth £250 pro rata y dydd yn cael ei roi i’ch ysgol neu i’ch lleoliad os gallwch chi helpu gyda’r gwaith pwysig hwn.
Yn amodol ar gytundeb gan eich pennaeth, anfonwch e-bost i’r tîm adolygu drwy CurriculumforWales@llyw.cymru, gan gynnwys eich manylion o dan y penawdau a restrir isod.
Enw
E-bost
Ysgol/lleoliad
Cynradd/ Uwchradd/ Arbennig
Cyfrwng Cymraeg /Saesneg
Y maes/meysydd o ddiddordeb ichi – Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Llesiant, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dysgu Sylfaen [cofiwch gynnwys manylion am agweddau penodol eraill ar y cwricwlwm y gallech fod ag arbenigedd ynddynt – ee Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, llythrennedd, rhifedd, gwybodaeth ddigidol, dysgu yn yr awyr agored, ac ati]
Ym mis Ebrill eleni, bydd ‘Adnodd’, sef cwmni adnoddau addysgol newydd, yn cael ei ffurfio i alluogi dysgwyr, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at adnoddau addysgol o’r radd flaenaf a deunyddiau ategol yn Gymraeg ac yn Saesneg, i gefnogi addysgu’r Cwricwlwm a’i gymwysterau. Ni fydd Adnodd yn cyhoeddi adnoddau ei hun, ei nod yw galluogi’r cynhyrchu o adnoddau mewn ffordd fwy strategol a chydgysylltiedig, gan weithio gydag ymarferwyr, cyhoeddwyr, datblygwyr a sefydliadau eraill i greu adnoddau o ansawdd uchel i ysgolion, lleoliadau a dysgwyr.