Gan gydnabod mai achosion o ganser y colon a’r rhefr yn ardal ein hawdurdod lleol (Rhondda Cynon Taf) yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin, a bod nifer yr achosion yn uwch na’r cyfartaledd ledled Cymru, ffurfiwyd partneriaeth gychwynnol rhwng Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Elusen Ganser Moondance yn 2019. Gweithiodd Ysgol Uwchradd Pontypridd mewn partneriaeth ag ystod o weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y nod oedd cyflwyno rhaglen addysg a allai gefnogi gwaith cydweithwyr iechyd mewn perthynas â’r mater iechyd critigol hwn, ond un y gellir ei drin. Byddai’r rhaglen yn ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol i’n disgyblion ac i oedolion yn y gymuned leol.
Mae gwella dealltwriaeth disgyblion o ganser ac yn benodol canser y coluddyn – o’r achosion i’r sgrinio a’r cyfraddau gwella – wedi bod yn ganolbwynt i’r rhaglen ddysgu. Mae pwysigrwydd sgrinio fel rhan o’r dysgu hwn yn hanfodol, gan fod diagnosis a thriniaeth gynnar yn arwain at gyfraddau goroesi llawer uwch. Mewn rhai ardaloedd yn nalgylch yr ysgol mae data sgrinio’n dangos bod y gyfradd ar gyfer yr oedolion cymwys hynny sy’n manteisio ar brofion sgrinio yn is na 50%, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol sy’n uwch na 60%.

Wrth ymateb i’r ystadegyn difrifol hwnnw, mae disgyblion wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd i helpu i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned, gan weithio drwy’r rhaglen ddysgu i gyfleu’r neges bwysig hon i rieni, gofalwyr ac aelodau eraill o’r teulu.
Gan adeiladu ar y gwaith peilot llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, tyfodd y prosiect yn 2021/22 i gynnwys chwe ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Taf a hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r bartneriaeth a’r cydweithio rhwng gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol wedi bod yn hanfodol i ansawdd yr adnoddau a’r dysgu sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen hon ac mae pob ysgol wedi gallu datblygu model cyflwyno newydd – yn ei ffordd ei hun – o fewn ei hardal.
Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg werthusiadau ei hun o waith y chwe ysgol, a daeth i’r casgliad bod 115% o gynnydd wedi bod yn y galw am becynnau sgrinio’r coluddyn yn ardal leol Rhondda Cynon Taf lle’r oedd y chwe ysgol wedi cyflwyno’r rhaglen. Roedd hyn o’i gymharu â chynnydd o 22% mewn ardal gyfagos yn yr awdurdod lleol. Yn ogystal â hynny, adroddwyd bod cynnydd o 72% wedi bod yn nifer y profion sgrinio a gafodd eu dychwelyd yn ein hardal – sy’n arwyddocaol – ac fe gadarnhaodd y bwrdd iechyd fod y gwaith mewn ysgolion wedi cyfrannu’n fawr at y gwelliant hwn.

Mae’r effaith o ran ennyn diddordeb disgyblion hefyd wedi bod yn glir, ac mae pob ysgol wedi bod yn datblygu’r prosiect wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 7 ac 8. Mae’r gwersi wedi meithrin sgiliau trawsbynciol ac wedi cwmpasu Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; ac Iechyd a Lles, ac mae’r cyd-destun yn dod â realiti bywyd go iawn i’r dosbarth.
Dywedodd y cydlynydd, Marie Sidoli, “Mae’r disgyblion yn gweld ‘pam’ mae angen dysgu wrth weithio gydag ystadegau iechyd gwirioneddol fel y rhai ar gyfer canser y coluddyn ac mae’n ennyn diddordeb mawr ynddyn nhw. Ac wrth gwrs, mae’r prosiect cyfan yn cyd-fynd yn naturiol â’r pedwar diben.”
I’r disgyblion, un o’r uchafbwyntiau diweddar oedd datblygu cynhadledd ddigidol lle’r oedd cannoedd o ddisgyblion yn gallu gwrando ar weithwyr addysg ac iechyd proffesiynol yn ogystal ag archwilio’r llu o wahanol gyfleoedd gyrfa y mae’r ddau sector yn eu cynnig. Mae hyn wedi ennyn diddordeb y disgyblion mwyaf heriol hyd yn oed.
Mae’r staff hefyd yn mwynhau cyflwyno’r rhaglen ddysgu. Maen nhw wedi bod yn siarad am y ffordd y mae’n ehangu eu profiad a’u hannog i gyflwyno mwy o faterion iechyd lleol, go iawn i’w gwersi oherwydd yr ymateb maen nhw wedi’i gael gan ddisgyblion a chan rieni a gofalwyr.
Mae’r cysylltiad cymunedol wedi bod yn gryf iawn, a phob ysgol yn gallu cysylltu â phartner yn y bwrdd iechyd. Mae cydweithio agos yn golygu cynnal cyfarfodydd cynllunio ar y cyd, gyda phynciau newydd fel diabetes a llythrennedd iechyd yn debygol o gael eu hychwanegu at yr agenda. Fel cysyniad, mae potensial clir i gyflwyno hyn mewn ardaloedd eraill lle gallai blaenoriaethau iechyd fod yn wahanol.
Ar gyfer 2022/23, y nod fu rhannu’r profiadau gydag ysgolion ac ardaloedd byrddau iechyd eraill ledled Cymru er mwyn cyflwyno’r rhaglen ddysgu hon mewn cyd-destunau newydd a’i haddasu i’r cyd-destunau hynny. Dyna pam y mae 24 ysgol uwchradd arall o bum ardal awdurdod lleol wahanol sy’n cynrychioli pedair ardal bwrdd iechyd wahanol wedi ymrwymo i’r rhaglen. Yn ogystal â hyn, mae pob un o saith ysgol gynradd clwstwr Ysgol Uwchradd Pontypridd wedi’u cynnwys.

Mae’r rhaglen ddysgu hon yn fuddsoddiad i ddylanwadu ar newid ymddygiad hirdymor cenedlaethau iau drwy eu haddysgu am ganser, triniaethau canser, a’r cysylltiad ag ymddygiadau iach. Mae’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac yn cyfrannu at y nod cenedlaethol o ddatblygu dinasyddion iach, hyderus a gwybodus. Mae hefyd yn archwilio dysgu rhwng cenedlaethau, drwy godi ymwybyddiaeth o sgrinio’r coluddyn, arwyddion a symptomau ymhlith cymuned ehangach yr ysgol ochr yn ochr ag addysgu’r modiwl canser pwrpasol.
Un o gryfderau sylfaenol y partneriaethau sydd wedi’u sefydlu yw’r gallu i ddylanwadu, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi pobl Cymru. Gwneir hynny, wrth newid canlyniadau canser a chanser y coluddyn, ac wrth ddarparu templed y gellir ei ddefnyddio i gyfathrebu negeseuon iechyd allweddol i blant ac i gymuned ehangach yr ysgol hefyd.
Mae llawer mwy o botensial yn y dull yma o ddysgu mewn ysgolion, sy’n cael ei gydnabod gan nifer o ysgolion eraill yng Nghymru ac mewn ardaloedd byrddau iechyd gwahanol. Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn ac o’r farn bod y model a ddatblygwyd gennym yn “brosiect hynod ddiddorol a phwysig sydd wir yn cysylltu’r ysgolion ag ysgolion eraill a’r gymuned, gyda gwerthoedd Cwricwlwm i Gymru wrth ei wraidd”.

Mae addysg pobl ifanc yn hanfodol i welliannau yn y dyfodol. Drwy gyfrwng y gwaith a gychwynnwyd yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, rydyn ni’n awr yn dangos sut y gall cenhedlaeth newydd newid pethau, dylanwadu ar ddewisiadau, ac o ran canser a chanser y coluddyn helpu pobl i fyw’n fwy iach ac am gyfnod hwy.
Mwynhewch y fideo o’r prosiect isod: