Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi crynodeb o’r cwricwlwm – enghreifftiau defnyddiol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Unwaith y bydd ysgol wedi datblygu ei chwricwlwm, yn ôl y gyfraith rhaid iddi gyhoeddi crynodeb er mwyn i bartïon sydd â diddordeb ei weld.

Mae cyd-destun pob ysgol a lleoliad yn wahanol ac felly nid oes templedi sefydlog na rheolau pendant ynghylch sut y dylid cyflwyno’r crynodebau. O ran cynnwys, yr argymhelliad ar hyn o bryd yw eu bod yn dangos:

  • gwybodaeth am y ffordd y mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu’r cwricwlwm
  • sut mae’r cwricwlwm yn bodloni’r elfennau gofynnol a nodir yn y fframwaith cenedlaethol, gan ddechrau gyda’r pedwar diben
  • gwybodaeth am sut mae’r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a’i threfniadau ar gyfer asesu
  • sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu’n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a diwygio’r cwricwlwm yn barhaus.

Gan eu bod wastad yn ddyfeisgar, ac yn ymateb i gyd-destunau gwahanol, mae cydweithwyr wedi defnyddio gwahanol ffyrdd o gyflwyno cwricwla. Rydym yn diolch iddyn nhw a’r partneriaid addysg am anfon eu henghreifftiau atom, ac rydym yn falch o’u rhannu isod.

Ysgol Gymraeg Gwenllian (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) – yn cyfuno cyd-destun Llywodraeth Cymru â stori fideo ddifyr o’r pedwar diben a wnaed yn fyw drwy stori Gwenllian, ac yn annog adborth.

Ysgol Pen Rhos (Ysgol gynradd dwy iaith) – enghraifft gytbwys sy’n dangos sut mae’r cwricwlwm yn cael ei roi at ei gilydd, ac yn disgrifio asesu ac adolygu parhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y cwricwlwm yn gweithio.

Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg) – mae’r strwythur clir yn dangos fesul adran sut mae’r cwricwlwm yn cyfuno gweledigaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion â gofynion gorfodol, gan gynnwys asesu.

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) Trylwyr a chlir, gydag opsiynau i glicio arnynt i edrych yn ddyfnach, gan ddangos y pedwar diben yn llawn.

Heronsbridge School – Pen-y-bont (ysgol arbennig) – cyflwyniad trylwyr i’r cwricwlwm mewn ysgol sydd â dysgwyr ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys canolfan ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth. Rhagor o fanylion ar gael y tu ôl i sleidiau hygyrch.

Ysgol Gynradd Coety – Pen-y-bont  (ysgol gynradd cyfrwng Saesneg) – mae cyflwyniad clir byr yn cynnig yr opsiwn o ddogfen PDF gyda trosolwg manwl ond hygyrch o ddull yr ysgol ar draws pob agwedd o’r cwricwlwm.

Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Caerdydd (ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg) – nid yw Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru tan fis Medi 2023, ond maen nhw eisoes yn rhannu gwybodaeth wrth iddyn nhw gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Ysgol Iolo Morgannwg, Bro Morgannwg (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) – mae’r crynodeb clir hwn yn dangos sut mae rhanddeiliaid wedi bod yn rhan o lunio’r cwricwlwm, a sut mae dyheadau lleol wedi’u cyfuno â’r fframwaith cenedlaethol.

Ysgol Nantgwyn (English medium all-through school) – Yn glir a hawdd ei ddeall, o ymgysylltu a blaenoriaethau hyd at y cwricwlwm, mae hyn hefyd yn disgrifio cwricwlwm 3-16 lle mae rhai disgyblion yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru tra bod rhai disgyblion hŷn yn parhau i fod ar y cwricwlwm blaenorol.

Ysgol Cas-gwent (ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg) – Mae Ysgol Cas-gwent wedi dewis fideo chwe munud sy’n cynnwys athrawon a disgyblion i ddisgrifio eu cwricwlwm. Mae’n cysylltu elfennau gorfodol â chyd-destun yr ysgol ac yn dangos dysgu enghreifftiol ym Meysydd y cwricwlwm.

Gadael ymateb