Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Diweddarwyd Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Ychwanegiadau neu ddiwygiadau i’r adrannau presennol yw’r newidiadau yn bennaf.
Bydd diweddariadau yn y dyfodol ym mis Ionawr, fel y gall ymarferwyr fod yn sicr eu bod yn hollol gyfredol drwy’r flwyddyn. Dewiswyd mis Ionawr i gyd-fynd orau â chylchoedd cynllunio’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau.

Mae diweddariadau mis Ionawr eleni yn cynnwys:
- Adran ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm’ ddiwygiedig i adlewyrchu bod y cwricwlwm bellach yn cael ei weithredu
- Rhoi eglurder i’r naratif ar hanes Cymru yn y Maes Dyniaethau
- Cywiriadau i rai diffiniadau a hyperddolenni
- Mwy o eglurder drwy fân ddiwygiadau i’r naratif – mewn ymateb i adborth
Bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod pob tudalen yn datgelu a oes newid wedi’i wneud.
Ochr yn ochr â hyn, mae tudalen Adnoddau a Deunyddiau AtegolHwb newydd wedi cael ei chyhoeddi i’w gwneud yn haws canfod adnoddau sy’n benodol i’r Cwricwlwm i Gymru. Mae prosiect i adolygu’r holl adnoddau Hwb er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r cwricwlwm a nodi bylchau o ran adnoddau hefyd ar y gweill fel sy’n ymddangos yn y neges blog blaenorol hwn. Gwahoddir ymarferwyr i gymryd rhan yn y gwaith adolygu adnoddau, gyda hyfforddiant, cefnogaeth ac iawndal yn cael eu darparu i ysgolion y rhai sy’n gwneud hynny. Cysylltwch â’r tîm ar: cwricwlwmigymru@llyw.cymru