Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn ôl fframwaith Cwricwlwm i Gymru, mae’r egwyddorion cynnydd yn amlinellu’r gofynion gorfodol ar gyfer cynnydd i ddysgwyr. Maent yn disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a’r galluoedd a’r ymddygiadau y mae’n rhaid i ymarferwyr geisio eu cefnogi, waeth beth fo’r cam datblygu i’r dysgwyr.
Wrth i ysgolion archwilio’r ffyrdd y mae’r egwyddorion cynnydd yn berthnasol i’w dysgwyr ar draws y continwwm 3-16, gallent ddefnyddio’r egwyddorion hyn i’w helpu i gynllunio’r cwricwlwm, eu trefniadau asesu, ynghyd â’u helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Mae arweinwyr ac ymarferwyr Ysgol y Strade wedi bod yn archwilio sut mae’r egwyddorion cynnydd yn berthnasol i’w dysgwyr nhw. Wrth edrych ar gynnydd dysgwyr drwy gyfrwng yr egwyddorion cynnydd, heriwyd eu syniadau o safbwynt cynllunio’r cwricwlwm a’u trefniadau asesu. Mae’r egwyddorion hyn wedi cynnig iaith gyffredin a chyson iddynt wrth drafod cynnydd ar draws y cwricwlwm.
Gwelwyd un enghraifft o hyn yn ystod eu gwersi Gydol Oes (gwersi newydd i ddysgwyr bl.7 yr ysgol fel rhan o ddarpariaeth y MDaPh Iechyd a Lles.) Prif ddiben y gwersi dan sylw yw i ddatblygu sgiliau bywyd y dysgwyr, gan gynnwys eu sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol. Dechreuodd arweinwyr perthnasol yr ysgol ar y gwaith drwy drafod y sgiliau hanfodol a allai gefnogi’r garfan hon o ddysgwyr yn gynnar yn eu haddysg uwchradd; rhoddwyd cyfle i’r dysgwyr gynnig eu barn hefyd ynghylch pa sgiliau yr oeddent yn teimlo bod angen eu datblygu. O ganlyniad, dechreuodd y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Gydol Oes trwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu y dysgwyr, ar lafar yn bennaf, er mwyn gwella eu hyder wrth siarad o flaen cynulleidfa.


Yn hwyrach yn y flwyddyn, wrth i’r ysgol fynd ati i gynnal eu gweithgareddau gwerthuso a gwella, daeth i’r amlwg bod y dysgwyr nid yn unig yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu hyder, ond eu bod hefyd yn gwneud cysylltiadau naturiol rhwng eu profiadau dysgu o fewn eu gwersi Gydol Oes ac ar draws eu gwersi Cymraeg a Saesneg (lle gofynnwyd iddynt baratoi cyflwyniadau a chyflawni tasgau rhyngweithio fesul grŵp). Yn ystod trafodaethau gyda’r dysgwyr, mynegodd y dysgwyr sut yr oeddent yn teimlo bod eu hyder yn datblygu, a bod hyn wedi caniatáu iddynt wneud cynnydd yn eu gwersi iaith. Amlygodd y sylwadau yma eu bod yn datblygu eu heffeithiolrwydd cynyddol fel dysgwyr. Yn ogystal, nododd athrawon o fewn y MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu eu bod nhw wedi gallu canolbwyntio ar fireinio sgiliau iaith y dysgwyr gan eu bod bellach yn llawer mwy parod i gyflawni’r tasgau dan sylw.
Mae’r ysgol yn teimlo bod hyn wedi rhoi cyfle iddynt ystyried cyfleoedd eraill i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd newydd ar draws eu cwricwlwm.
Dyma astudiaeth achos o Ysgol y Strade:
Mae’r astudiaeth achos hon wedi’i hychwanegu at gasgliad newydd a chynyddol o ddeunyddiau ategol ar Hwb, a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd.
Alun Jones,
Pennaeth cynorthwyol sydd ar hyn o bryd ar secondiad fel cynghorydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru.