Aeth 25 o Ysgolion Arloesi newydd i Landudno’r mis hwn i gael gwybod sut mae’r gwaith cynllunio strategol yn mynd rhagddo ar y cwricwlwm newydd ac i ddechrau paratoi’r ‘Meysydd Dysgu a Phrofiad’. Dewch i glywed am eu profiadau.
Ionawr 2017
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol: Cwestiynau cyffredin
Rydych wedi gofyn mwy o gwestiynau, a dyma’r atebion.
Beth ddylai athrawon ac ymarferwyr fod yn ei wneud ar hyn o bryd? A ddylem ni fod yn defnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gyda’r Cwricwlwm cyfredol?
2017 – Amdani!
Wrth i’r cyfryngau edrych yn ôl ar 2016, mae llawer o’r sylwadau rydyn ni wedi’u clywed braidd yn ddiflas. Maen nhw wedi bod yn sôn am anfanteision posibl cyfres o ddigwyddiadau mawr a welwyd yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, dw i o’r farn y gallwn gofio 2016 fel sbringfwrdd ar gyfer dyfodol newydd cyffrous ym maes addysg yng Nghymru.
Blwyddyn newydd dda ichi i gyd
Read this page in English
P’un a ydych yn athro/athrawes, yn rhiant, p’un a oes gennych rôl gefnogi neu unrhyw rôl arall yn ymwneud ag addysg, rwyf am ddymuno pob llwyddiant ichi yn 2017.
Wrth i’r flwyddyn ddechrau, rydym am fwrw ati ar unwaith i ddiwygio ym maes addysg; rydym am gymryd camau dewr a fydd yn gosod Cymru ymhlith y perfformwyr uchaf o ran rhoi’r addysg orau i’n plant mewn byd sy’n newid. Rwyf am gydweithio â chi i symud yr agenda hon yn ei blaen eleni.