Neidio i'r prif gynnwy

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol: Cwestiynau cyffredin

Read this page in English

dcf-pupils

Rydych wedi gofyn mwy o gwestiynau, a dyma’r atebion.

Beth ddylai athrawon ac ymarferwyr fod yn ei wneud ar hyn o bryd? A ddylem ni fod yn defnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gyda’r Cwricwlwm cyfredol?

Wrth ichi ddechrau ymgyfarwyddo â’r Fframwaith, gallwch edrych am gyfleoedd naturiol i’w ddefnyddio wrth ddysgu’r cwricwlwm cyfredol. Gall y syniadau sydd yn y DCF eich helpu i wneud hyn. Ystyriwch yw hyn yr ydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd a sut gall y Fframwaith helpu gyda hynny.

Bydd unrhyw waith a wnewch yn awr i gynnwys y Fframwaith yn eich dysgu yn eich helpi i’w ddefnyddio mewn dysgu ac addysgu mewn meysydd dysgu a phrofiad yn y dyfodol wrth i’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru gael ei roi ar waith.

Mae rhai’n dweud mai dim ond y fersiwn cyntaf o’r Fframwaith yw hwn. Ydych chi felly’n disgwyl iddo newid ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf?

Dros amser, efallai y byddwn yn mireinio ac yn gwella’r Fframwaith wrth i ysgolion, lleoliadau eraill, athrawon/ymarferwyr a rhanddeiliaid ehangach roi adborth arno. Fodd bynnag ni fydd y newidiadau hyn yn rhai sylweddol – bydd yn fwy o esblygiad na thrawsnewidiad – a’r nod yw gwneud gwelliannau ar sail y pethau a bennir gan ddefnyddwyr ac er mwyn cyd-fynd â newidiadau technolegol.

Yn benodol, mae’r syniadau am dasgau sydd yn y Fframwaith yn debygol o newid i gyd-fynd â newidiadau technolegol, newidiadau o ran arbenigedd a newidiadau o ran arferion digidol. Bydd mwy o’r syniadau hyn nhw wrth i amser fynd yn ei flaen hefyd; er enghraifft, byddwn yn ychwanegu mwy’r mis hwn ac yna mwy eto yn nhymor yr Haf.

Pryd fydd yr adnodd archwilio sgiliau newydd ar gael? A beth fydd hwnnw’n ei wneud yn union?

Yn dilyn adborth gan athrawon a rhanddeiliaid eraill, caiff yr adnodd archwilio sgiliau ei gynnwys yn yr adnodd hunanasesu ar Hwb. Mae’r Arloeswyr a Llywodraeth Cymru wrthi’n ei ddatblygu er mwyn iddo ddiwallu anghenion defnyddwyr fel y’u pennwyd mewn trafodaethau ac mewn adborth gan athrawon ac ymarferwyr. Caiff pethau newydd eu hychwanegu yn ystod tymor y gwanwyn. Bydd yr adnodd yn caniatáu’r canlynol:

  • Bydd athrawon yn gallu asesu eu sgiliau a’u hyder o ran dysgu elfennau o’r Fframwaith;
  • Bydd athrawon yn gallu pennu eu hanghenion datblygu;
  • Bydd ysgolion/lleoliadau yn gallu ei ddefnyddio fel sail i’w cynllunio.

Wrth wella ac ehangu’r hyn y gall yr adnodd ei wneud, bydd yn galluogi athrawon i dracio eu datblygiad dros amser a chynllunio’r datblygiad i gyd-fynd â’r anghenion a bennir.

Beth mae’r arloeswyr digidol yn ei wneud ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd, mae’r arloeswyr digidol yn cydweithio â’r consortia i fod yn genhadon ar ran y Fframwaith ac i helpu’r rhwydwaith ehangach o ysgolion i’w ddefnyddio.

Hefyd, mae’r arloeswyr yn gwneud y canlynol:

  • datblygu ac ychwanegu syniadau am dasgau i gynorthwyo â dysgu’r Fframwaith
  • ystyried sut fydd y Fframwaith yn ffitio yn y cwricwlwm newydd
  • datblygu adnoddau i gynorthwyo athrawon ac ysgolion
  • datblygu fframwaith i gefnogi dysgu proffesiynol erbyn mis Medi 2017.

Oes yna restr o arloeswyr digidol y gallaf gysylltu â nhw i gael cymorth gyda’r Fframwaith?

Mae yna restr o Ysgolion Arloesi, gan gynnwys Ysgolion Arloesi Digidol, ar gael yma:

Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, cysylltwch â’ch Consortiwm Rhanbarthol lleol am gyngor o ran pa ysgol all eich helpu.

A oes gennych unrhyw syniadau am dasgau i fy helpu i gyda’r Fframwaith?

Mae nifer o syniadau am dasgau yn y Fframwaith eisoes, a chaiff eraill eu hychwanegu’r mis hwn ac yn ystod y tymor nesaf. Byddant yn cael eu diweddaru’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn dasgau perthnasol a chyfredol.

 A oes unrhyw adnoddau’n cael eu datblygu i gynorthwyo â’r Fframwaith?

Mae arloeswyr wedi datblygu Adnodd Mapio’r Cwricwlwm y gall ysgolion ei ddefnyddio i groesgyfeirio elfennau o’r Fframwaith â gweithgareddau cyfredol ar gyfer pynciau a blynyddoedd. Bydd hyn yn dangos y bylchau rhwng dysgu cyfredol a gofynion y fframwaith.

Bydd yr adnodd ar gael yn nes ymlaen y mis hwn.

Beth ddylai arweinwyr fod yn ei wneud nawr?

Dylai arweinwyr ymdrechu i annog a chefnogi athrawon ac ymarferwyr i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio’r Fframwaith wrth ddysgu. Yn ogystal, wrth i athrawon/ymarferwyr ymgyfarwyddo â’r Fframwaith, dylent geisio magu dealltwriaeth o’u hyder a’u cymhwysedd a chynllunio ar gyfer datblygu parhaus at y dyfodol. Bydd yr adnoddau sy’n cael eu datblygu yn gymorth yn hyn o beth.

Wrth i athrawon ymgyfarwyddo â’r Fframwaith a dechrau ei gynnwys yn eu dysgu, dylai arweinwyr ddechrau datblygu gweledigaeth ar gyfer sut y dylid defnyddio’r Fframwaith wrth i’r cwricwlwm ddatblygu.

Pa adnoddau digidol sydd ar gael i gynorthwyo ymarferwyr i roi’r Fframwaith ar waith?

Mae platfform Hwb yn rhoi mynediad i’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru at ystod o adnoddau digidol a ariennir yn ganolog. Gall yr adnoddau hyn gynorthwyo â’r broses o roi’r fframwaith ar waith.

Gall athrawon ac ymarferwyr gydweithio a rhannu eu deunyddiau dysgu drwy ardal gymunedol Hwb, ac mae hefyd yn cynnig yr adnoddau canlynol:

  • Rhwydweithiau (llefydd ar-lein i gydweithio, trafod a rhannu arfer da)
  • Rhestrau chwarae (adnodd curadu cynnwys sy’n galluogi athrawon a disgyblion i gyflwyno a threfnu cynnwys o ystod o ffynonellau ar y we, ynghyd â’u deunyddiau eu hunain a chwestiynau cwis – a hynny oll mewn un adnodd y gellir ei rannu â defnyddwyr eraill)
  • Aseiniadau (adnodd sy’n galluogi athrawon i greu a rhannu aseiniadau ar-lein â’u disgyblion ac yna chynnig adborth ar unwaith. Hefyd, gellir tracio cyrhaeddiad disgyblion wrth iddynt wneud yr aseiniad. Gall athrawon hefyd dderbyn data ar gyrhaeddiad unigolion, grwpiau a dosbarthiadau.)
  • Ystod o adnoddau addysgol sy’n drwyddedig yn genedlaethol gan drydedd partïon, gan gynnwys, ar hyn o bryd, Encyclopaedia Britannica a Just2easy.

Rhoddir mynediad i holl ddefnyddwyr Hwb at Microsoft Office 365 (sy’n cynnwys Outlook, cyfleusterau fideo-gynadledda (nad ydynt i ddisgyblion), adnodd llyfr nodiadau dosbarth OneNote, a rhaglenni megis Word, Excel a PowerPoint).

Mae Office 365 yn caniatáu i ddefnyddwyr:

  • gael mynediad at ffeiliau a rhaglenni o unrhyw le
  • i weithio gyda rhaglenni y maen nhw’n gyfarwydd â nhw – Office ydyw, ond ar y we
  • sicrhau bod gan bawb y fersiwn diweddaraf– adnodd unedig a chyson i holl ysgolion Cymru
  • mae’n ddiogel a dibynadwy – mae gan Hwb opsiynau diogelwch datblygedig i ddelio â gwybodaeth sensitif
  • cydweithio a chyd-greu ag athrawon o bob cwr o Gymru – rhannwch y baich!
  • gweithio ar wahanol ddyfeisiau gyda phorwyr a rhaglenni priodol
  • storio ffeiliau’n ddiogel – heb orfod poeni am gofau bach USB
  • paratoi disgyblion gyda’r feddalwedd orau

cael mynediad at gymorth a help, tîm cynorthwyo a chymuned enfawr o addysgwyr Microsoft ar-lein.

Mae rhagor o gwestiynau cyffredin yn ymwneud â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael ar wefan Dysgu Cymru.

Gadael ymateb