Neidio i'r prif gynnwy

2017 – Amdani!

Read this page in English
graham

Wrth i’r cyfryngau edrych yn ôl ar 2016, mae llawer o’r sylwadau rydyn ni wedi’u clywed braidd yn ddiflas. Maen nhw wedi bod yn sôn am anfanteision posibl cyfres o ddigwyddiadau mawr a welwyd yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, dw i o’r farn y gallwn gofio 2016 fel sbringfwrdd ar gyfer dyfodol newydd cyffrous ym maes addysg yng Nghymru.

Mae fy ngwaith i’n mynd â fi i bedwar ban byd ac mae gwledydd yn eu holi eu hunain yn gynyddol beth yw’r ffordd orau i baratoi eu plant ar gyfer dyfodol nad oes modd ei ragweld. Yn rhy aml, mae gwleidyddiaeth yn arwain at ddiffyg hyblygrwydd sy’n cyfyngu ar ddychymyg ac sy’n cloi arferion addysgu yn y gorffennol.

Nid felly yng Nghymru. Rydych chi wedi bod yn ddigon dewr i edrych yn ofalus iawn ar yr hyn rydych chi’n ei wneud, edrych ar y byd a sut mae’n newid, a phennu cwys ar gyfer dyfodol gwahanol.

Mae’r cyswllt dw i wedi’i gael â chydweithwyr ledled y wlad yn awgrymu bod yna frwdfrydedd aruthrol o hyd dros greu cwricwlwm newydd a fydd wir yn ysgogi ac yn ymestyn plant a phobl ifanc Cymru. Am y tro cyntaf mewn dros chwarter canrif, mae gyda ni’r cyfle i greu rhywbeth y mae athrawon, rhieni a’r bobl ifanc eu hunain yn credu ynddo. Nid cyfres o argymhellion i’w cyflwyno neu eu gweithredu, ond cwricwlwm sy’n edrych i’r dyfodol ac yn seiliedig ar y feddylfryd a’r arferion diweddaraf gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Fydd hi ddim yn hawdd gwneud y cwricwlwm newydd hwnnw yn realiti. Bydd penderfyniadau allweddol am yr hyn y dylai pobl ifanc ei ddysgu a beth yw’r ffordd orau o gyflwyno’r ddysg honno yn her inni i gyd. Bydd y 4 diben sydd wedi cael eu croesawu yng Nghymru yn gwmpawd cadarn i arwain yn y penderfyniadau hyn. A thrwy roi’r lle canolog i ysgolion ac athrawon yn y broses ddatblygu, cawn y cyfle i dynnu damcaniaeth ac arfer ynghyd mewn ffordd o feddwl a gweithio sy’n gwbl newydd.

Beth am fynd ati, felly, i wneud 2017 yn flwyddyn lle mae Cymru ar flaen y gad wrth iddi baratoi ei phobl ifanc ar gyfer dyfodol llwyddiannus?

– Yr Athro Graham Donaldson

Gadael ymateb