Read this page in English
P’un a ydych yn athro/athrawes, yn rhiant, p’un a oes gennych rôl gefnogi neu unrhyw rôl arall yn ymwneud ag addysg, rwyf am ddymuno pob llwyddiant ichi yn 2017.
Wrth i’r flwyddyn ddechrau, rydym am fwrw ati ar unwaith i ddiwygio ym maes addysg; rydym am gymryd camau dewr a fydd yn gosod Cymru ymhlith y perfformwyr uchaf o ran rhoi’r addysg orau i’n plant mewn byd sy’n newid. Rwyf am gydweithio â chi i symud yr agenda hon yn ei blaen eleni.
Mae athrawon yn ganolog i hyn. Fel rwyf wedi’i ddweud ac am barhau i ddweud, rwy’n credu bod cefnogi, datblygu a herio ein hathrawon i fod cystal ag y gallant fod yn sylfaenol i addysg dda. Wrth i’r cwricwlwm newydd i Gymru gael ei ddatblygu, cânt ryddid newydd i addysgu yn y ffordd sy’n gweithio orau i’w disgyblion.
Wrth gwrs, mae diwygio yn codi cwestiynau ym meddyliau pob un ohonom, ac rwyf am i fwy o’r atebion fod ar gael, a hynny drwy gydol 2017.
Er mwyn dechrau’r broses, mae yna atebion i gwestiynau am ddiwygio’r cwricwlwm isod. Fe welwch gwestiynau a godwyd gan undebau addysgu, ond cânt eu diweddaru drwy gydol y flwyddyn wrth i eraill ofyn cwestiynau o safbwyntiau gwahanol.
Gweithredu’r-cwricwlwm-newydd-atebion-i’ch-cwestiynau
Mae rhai o’r cwestiynau yn rhai anodd iawn, ac nid yw’r atebion i gyd ar gael ar hyn o bryd, ond mae yna atebion gonest ichi eu gweld.
Mae yna gysylltiad naturiol rhwng hyn a datblygiadau o ran safonau addysgu, dysgu proffesiynol ymhlith addysgwyr ac arweinyddiaeth. Bydd y diwygiadau hyn sydd mor gysylltiedig yn cyfrannu i greu dyfodol cyffrous i’r rheini sy’n dylanwadu ar addysg yn ogystal ag ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sy’n elwa arni.
Awn ymlaen gyda’n gilydd.
Os oes gyda chi gwestiwn, anfonwch ef at
YmholiadauDiwygiorCwricwlwm@cymru.gsi.gov.uk
– Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Hysbysiad: A happy New Year to All | Curriculum for Wales Blog