Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae newidiadau wedi’u gwneud, bellach, i ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru, y soniwyd amdanynt mewn eitem ar flog blaenorol, a hynny un ai mewn ymateb i adborth i’r ymgynghoriad neu ddeddfwriaeth Seneddol.
Mae’r newidiadau yn bwysig ond nid ydynt yn rhai mawr, gan fod y rhan fwyaf o’r adborth i’r ymgynghoriad yn gadarnhaol. Dyma grynodeb byr:

Deddfwriaeth – crynodeb – Mae’r adran hon wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu’r Ddeddf newydd, ac mae rhannau o’r canllawiau ehangach wedi cael eu hamlygu er mwyn dangos yn gliriach beth sy’n orfodol, gan helpu ymarferwyr i ddeall gofynion cenedlaethol y fframwaith.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb – Fel y nodwyd yn amlwg iawn ym mlog Rhagfyr ’21, mae’r canllawiau terfynol wedi’u cyhoeddi bellach ar ôl i’r Senedd gymeradwyo’r Cod ar 14 Rhagfyr.
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – Mae’r adran newydd hon wedi’i hychwanegu i’r Maes Dyniaethau gan adlewyrchu’r gofynion newydd. Mae wedi’i chysoni ac yn fwy hwylus i’r defnyddiwr.
Iaith Arwyddion Prydain – mae yna fersiwn o’r pedwar diben a datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym Maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu wedi’u cynnwys yn Iaith Arwyddion Prydain bellach. Mae Iaith Arwyddion Prydain wedi’i hymgorffori yn y canllawiau erbyn hyn!
Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith – Canllawiau estynedig i gefnogi ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys hawliau gweithwyr, mwy o bwyslais ar sgiliau trawsgwricwlaidd a chynnydd.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd – Camau ABC – Mân-newidiadau er mwyn gwneud pethau’n gliriach.
Galluogi Dysgu – Mae’r adran newydd hon wedi cael enw newydd yn lle ‘Agor Llwybrau’ yn dilyn yr ymgynghoriad, ac mae’n cynnig mwy o ganllawiau ar ddatblygu cwricwlwm i’r rheini sydd ar y camau cynnydd cyntaf.
Hawliau Dynol – Mae’r newidiadau yn amlinellu’r sail gyfreithiol dros hawliau dynol ac yn esbonio’n well beth mae hynny’n ei olygu i ysgolion ac wrth gynllunio cwricwlwm, gan gynnwys hawliau i bobl ag anableddau.
Canllawiau Asesu – Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r adran hon hefyd, gan gynnwys cysylltiadau cryfach â rhannau eraill o’r canllawiau. Caiff y diweddariadau eu crynhoi ar y blog hwn yn nes ymlaen yn y mis, gyda sylwadau ymarferwr.