Neidio i'r prif gynnwy

Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd – ei hyd a’i led!

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae’r Cwricwlwm newydd sydd ar ddod i Gymru wedi cael ei groesawu oherwydd bydd yn helpu ein pobl ifanc i oroesi ac i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni dyheadau’r Cwricwlwm. Gosodwyd y Cod gorfodol drafft yn y Senedd ar 23 Tachwedd i baratoi ar gyfer cymeradwyaeth yr aelodau.  Fe’i cynlluniwyd i amlinellu dysgu craidd ar gyfnodau priodol o ran datblygiad, gan gyflwyno’r dysgu mewn modd sensitif a rhoi manylion i ysgolion a lleoliadau ar yr hyn y dylid ei addysgu a phryd.

Mae arnom eisiau i’r darn hwn helpu ymarferwyr addysgu i ddeall sut cafodd y Cod drafft Addysg Cyberthynas a Rhywioldeb ei ddatblygu, yr ystyriaethau a’r ymgynghoriadau ar hyd y ffordd, a sut y dylid ei ddefnyddio. Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio darparu’r offer i chwalu unrhyw gamsyniadau a allai godi yn yr ysgol neu wrth giât yr ysgol. Mae arnom hefyd eisiau rhannu’r elfennau cadarnhaol lu a ddaw yn sgil y Cod drafft hwn sy’n edrych tua’r dyfodol.

Felly i ddechrau yn y dechrau… 

Mae’r cod drafft Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb wedi cael ei ddatblygu gan ymarferwyr addysgol, drwy ymgynghori ag arbenigwyr a phartïon sydd â diddordeb sy’n cynrychioli hawliau plant, teuluoedd a grwpiau cymunedol.  Fel gweithgor, aethom ati i ddatblygu’r Cod drafft a’r canllawiau stadudol sy’n ei gefnogi drwy ddefnyddio dull a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth. Buom yn trafod amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, iechyd a lles, hawliau ac amrywiaeth, i enwi dim ond rhai!  Cafwyd llawer o drafodaethau cyfoethog a difyr am bwrpas Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a’r rôl mae angen iddi ei chwarae o ran diogelu, addysgu a grymuso plant i ddatblygu cydberthynasau diogel ac iach, a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.

Beth bynnag oedd y trafodaethau, a ble bynnag roedd y trafodaethau’n crwydro, yn ddieithriad byddem yn dychwelyd at y tri chwestiwn hollbwysig hyn ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb:

  • Beth yw’r ffordd orau y gall Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gefnogi ein dysgwyr i ymgysylltu â’u byd cymdeithasol mewn ffordd iach, gadarnhaol a rhagweithiol?
  • Sut gall y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ddarparu’r dysgu gorfodol sydd eu hangen ar ymarferwyr i ddatblygu cwricwlwm  gwarchodol; sy’n rhan o ddull ysgol gyfan sy’n ddiogel ac yn gefnogol yn emosiynol?
  • Sut gall ysgolion a theuluoedd cael eu cefnogi i gydweithio i sicrhau bod dysgwyr yn cael y profiad gorau posibl o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?

Ymgynghorwyd yn helaeth ar gynigion ar gyfer y Cod drafft a’r canllawiau statudol ac roeddent yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod tymor yr Haf 2021.  Nid yw’r Cod drafft yn mynd ati’n weithredol i hybu nac i hyrwyddo unrhyw ddewisiadau penodol o ran ffordd o fyw, safbwyntiau crefyddol neu werthoedd, na gweithgareddau penodol; ond ei nod yw  bod ysgolion yn creu ‘amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol.

Yn ogystal â bod yn elfen drawsbynciol, gan ddefnyddio gwahanol feysydd dysgu a phrofiad a disgyblaethau pwnc, mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan o’r maes ehangach ar gyfer Iechyd a Lles. Er mwyn helpu i ddeall sut y gall pob maes gyfrannu at Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, mae rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu at ganllawiau ar-lein Cwricwlwm i Gymru. Er enghraifft, bydd cylchoedd bywyd ac atgenhedlu yn dal i gael eu dysgu drwy’r Maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg sydd, ynghyd â disgyblaethau eraill, yn defnyddio disgyblaeth bioleg.

I’r perwyl hwn, bydd dulliau ymarferwyr o ddelio ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cwmpasu amrywiaeth o ddulliau.  Byddant yn defnyddio llinynnau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb wrth ystyried Meysydd eraill. Er enghraifft, mae’r disgrifiad dyniaethau o ddysgu ‘Rwy’n gallu cydnabod ac esbonio bod fy marn i, a barn pobl eraill, yn werthfawr’ yn cefnogi nifer o agweddau o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fel, ‘y gallu i ddangos caredigrwydd, empathi a thosturi wrth ryngweithio â phobl’ a ‘phrofiad o ymddygiadau, iaith a modelau rôl cynhwysol sy’n dangos parch tuag at bobl eraill, beth bynnag fo’u rhywedd’.

Bydd ymarferwyr hefyd yn creu cyfleoedd i addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar wahân.  Cyn gynted ag y bydd plant yn ymuno â’r byd cymdeithasol, byddant yn dod ar draws negeseuon cymhleth sy’n aml yn groes i’w gilydd a byddant yn rhyngweithio â’r negeseuon hynny.  Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael cyfle i archwilio’r syniadau hyn mewn amgylchedd diogel a chefnogol.  Felly, ffordd arall o gyflwyno’r llinynnau dysgu sy’n ffurfio’r Cod drafft Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw sicrhau eu bod yn cael sylw yng nghyd-destun y Maes Iechyd a Lles.  Bydd hyn yn sicrhau bod natur gadarnhaol ac amddiffynnol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei wireddu drwy lygaid lles emosiynol a pherthnasoedd iach.

Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn mynnu bod ysgolion yn dylunio cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n seiliedig ar linynnau dysgu rhyng-gysylltiedig eang.  Sef:

Cydberthynasau a hunaniaeth

Iechyd rhywiol a lles

Grymuso, diogelwch a pharch

Cyflwynir y llinynnau mewn tri cyfnod.  Mae’r oedrannau wedi’u hatodi i bob cyfnod fel canllaw cyffredinol (o 3, 7 ac 11 oed).  Fodd bynnag, cydnabyddir bod pob plentyn yn datblygu ar wahanol gyfraddau ac mae ymarferwyr yn cael eu hannog yn gryf i ystyried popeth maen nhw’n ei wybod am ddatblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol dysgwr wrth gyflwyno llinynnau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.  Un o’r syniadau canolog sy’n ymwneud â’r cyfnodau hyn yw nad ydynt byth yn cael eu dysgu ar eu pen eu hunain.  Er enghraifft, ar gyfer y llinyn dysgu sy’n gysylltiedig â chymorth a chefnogaeth, pwrpas cyfnod 2 yw ‘gallu nodi ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a chodi materion a gofyn cwestiynau i oedolion dibynadwy’.  Y cyfnod sy’n rhagflaenu hyn yw ‘adnabod oedolion dibynadwy a all eu helpu…’ Felly, ni fyddem yn rhoi’r gorau i addysgu pwy yw’r oedolion dibynadwy y gallwn droi atynt am help o gyfnod 1, dim ond am ein bod wedi symud ymlaen i’r cynnwys yng nghyfnod 2.  Yn yr un modd, mae dysgu o’r ddau gyfnod hyn yn parhau pan fyddwn yn cyrraedd cyfnod 3, ‘gwybod am ystod o wasanaethau cymorth a gallu eu defnyddio’.

Mae un peth pwysig arall i’w wybod am y cyfnodau hyn yn ymwneud â chynnwys ‘datblygiadol briodol’.  Mae’r dysgu a nodir ym mhob cyfnod yn nodi’n fras pryd y dylai ymarferwyr ddechrau ystyried a yw’r hyn a ddysgir yn ystod cyfnod yn briodol i ddatblygiad eu dysgwyr.  Mae’r egwyddorion cynnydd ar draws y Maes Iechyd a Lles yn sail i ddilyniant drwy Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac mae’r cyfnodau wedi cael eu cynllunio mewn ffordd sy’n helpu ymarferwyr i adnabod rhagofynion priodol ar gyfer dysgu am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.  Er enghraifft, wrth baratoi ar gyfer bod yn oedolyn, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddysgu am ‘berthnasau diogel a dymunol a chydnabod y rôl y mae gweithgarwch cydsyniol yn ei chwarae o fewn cydberthynasau’.  Ar gyfer y dysgwr iau, neu ddysgwr yng nghyfnod cynnar datblygiad gwybyddol, corfforol, emosiynol neu gymdeithasol, mae’r dysgu sy’n digwydd yn seiliedig ar ‘… ymwybyddiaeth o’r teimladau gwahanol y gellir eu cael, gan gydnabod teimladau pobl eraill a’r ffordd y gallai’r  rhain fod yn wahanol i’ch teimladau eich chi’.  Er y bydd dysgwyr yng nghyfnod 3 y Cod drafft Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn dysgu am iechyd rhywiol, bydd plant ifanc a dysgwyr sydd ar gyfnod cynnar eu datblygiad yn dysgu am hylendid personol a sut rydym yn cadw ein hunain yn lân.

Yn ystod cyfnod cynnar datblygiad, mae canolbwyntio’n effeithiol ar sgiliau sydd eu hangen ymlaen llaw yn hanfodol er mwyn galluogi’r dysgwr i ymateb yn llwyddiannus i sefyllfaoedd mewn ffordd ystyrlon.  Cyn i ddysgwyr allu ymgysylltu’n llwyddiannus â dysgu am gydberthynasau ystyrlon, bydd angen iddynt fod wedi datblygu’r wybodaeth bod gan bobl eraill feddyliau a theimladau sy’n wahanol i’w rhai nhw, a’r sgiliau i ryngweithio’n gymdeithasol mewn ffordd gadarnhaol.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r pwyslais ar sut gall oedolion sy’n galluogi greu amgylcheddau emosiynol-ddiogel sy’n cefnogi dysgwyr i fynegi eu hunain yn gynnar a rheoli eu hymddygiad. 

Felly, bydd ysgolion yn datblygu cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n adlewyrchu’n wirioneddol y profiadau y mae ein plant a’n pobl ifanc yn eu cael yn y byd o’u cwmpas.  Mae hyn yn golygu y bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei dylunio gan ymateb i sgiliau, gwybodaeth, galluoedd ac anghenion datblygol dysgwyr; yn ogystal â sicrhau eu bod yn dod ar draws pynciau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran cronolegol.

Mae llais y dysgwr yn hanfodol i‘r dull hwn a bydd angen i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn modd sy’n ystyried safbwyntiau ac anghenion dysgwyr a’u teuluoedd.  Mae llais dilys y dysgwr yn golygu mwy na dim ond canfasio barn, mae’n golygu bod ysgolion yn mabwysiadu dull cyfannol o sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu.  Dyna pam mae’r canllawiau drafft stadudol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cynnwys cyngor i ysgolion i sicrhau llinellau cyfathrebu clir â rhieni; gan gynnwys rhannu enghreifftiau o adnoddau maen nhw’n bwriadu eu defnyddio i gefnogi’r gwahanol gyfnodau o ddatblygiad.

Mae’r Cod drafft Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd yn golygu y bydd ysgolion yn cael eu grymuso i greu eu cwricwlwm a dulliau ysgol gyfan sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer eu disgyblion; gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cymryd rhan mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn ffyrdd sy’n briodol, yn berthnasol ac yn ystyrlon iddyn nhw.

Neges a gyfrannwyd gan y Gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Gadael ymateb