Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen beilot genedlaethol nawr yn ‘fyw’: adnodd newydd i werthuso a gwella ysgolion.

Gweler neges debyg yn Saesneg

Mae rhaglen beilot genedlaethol yn mynd rhagddi bellach o’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella. Mae’r Adnodd wedi’i gynllunio i roi modd i ysgolion werthuso a gwella perfformiad dros amser, mewn cytgord â diwygio’r cwricwlwm ac ymagwedd esblygol Estyn at arolygu.

Mae dros 100 o ysgolion eisoes wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot cam cyntaf a aeth yn dda ond a ddarparodd hefyd adborth a arweiniodd at newidiadau sydd wedi gwneud yr adnodd yn fwy hwylus i’w ddefnyddio.

Anogir pob ysgol i brofi’r Adnodd drostynt eu hunain nawr ac i anfon sylwadau drwy ffurflen ar-lein erbyn 8 Chwefror 2022 fan bellaf. Ar ôl hynny caiff ei ddiwygio, a’i lansio’n genedlaethol ym mis Ebrill 2022. Bydd yr Adnodd yn parhau i dyfu a datblygu wrth i ragor o astudiaethau achos, canllawiau a phecynnau cymorth adolygu eraill gael eu hychwanegu dros amser.

Mae’r Adnodd yn cynrychioli newid mewn diwylliant o’r dulliau a ddefnyddiwyd cynt, gan ganolbwyntio ar wella perfformiad yn y dyfodol yn hytrach na dangos tystiolaeth o weithgareddau/cyflawniadau presennol i gyrff allanol.

At hynny, mae’r adnodd mawr hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio’n ddethol: ar ôl adolygiad lefel uchaf o’r pedwar maes, gall ysgolion ddewis canolbwyntio ar y rhai y maent yn teimlo sydd angen mwy o sylw.

Mae manylion yr adnodd, gan gynnwys ei strwythur, astudiaethau achos o’i ddefnyddio, Cwestiynau Cyffredin a mwy, ar y dudalen hon: Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella – Hwb (llyw.cymru)

Gadael ymateb