Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Annwyl Gydweithwyr,
Ar ddiwedd y tymor, rydw i am ddiolch i chi am eich gwaith caled a’ch ymrwymiad parhaol yn ystod yr hyn a wn i sydd wedi bod yn dymor heriol dros ben.
Ein blaenoriaeth gyda’n gilydd o hyd yw lleihau’r tarfu ar addysg, a sicrhau lle bo’n bosibl, bod dysgwyr yn parhau i gael eu haddysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal â diogelu staff a dysgwyr ysgolion.
Ond fel rhywun sy’n briod ag athrawes ysgol gynradd, rwy’n gwybod yn rhy dda pa mor anodd fu’r tymor hwn. Yn ei barn hi, dyma’r cyfnod mwyaf heriol y mae’r gweithlu addysgu wedi’i wynebu ers degawdau. Yn broffesiynol ac yn bersonol, rwy’n cytuno â’i hasesiad. Rwy’n gobeithio y bydd gennych amser dros yr wythnosau nesaf i orffwys, ymlacio ond hefyd i adlewyrchu ar y gwaith anhygoel rydych wedi’i wneud yn ystod 2021.

Ail-ymunais â Llywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Addysg a’r Gymraeg ddiwedd mis Mehefin 2021. Mae wedi bod yn fraint gweld y ffordd rydych wedi ymateb ac addasu i sefyllfa sy’n esblygu a’r ansicrwydd parhaus. Gallaf eich sicrhau bod trafodaethau rheolaidd a pharhaus gyda’r gweithlu addysgu yn parhau i dynnu ein sylw at y pwysau eithafol yr ydych yn eu hwynebu a’r angen i ni greu gofod a lleihau biwrocratiaeth lle bo modd.
Er mai fy rôl i yw cynghori a chefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hagenda, rwyf hefyd yn cymryd fy nghyfrifoldeb o ddifrif i ymgysylltu â’r sector addysg yng Nghymru ac i wrando ar eich syniadau a’ch pryderon. Bydd amrywiaeth o gyfleoedd yn parhau yn ystod 2022 i ni ymgysylltu a theimlaf fod y pandemig wedi arwain at ryngweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru, ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn a phartneriaid eraill. Ond mae yna wastad lle i wella ac rydym yn parhau i fod yn agored i awgrymiadau ynghylch sut rydym yn lleihau biwrocratiaeth a chreu gofod.
Yn anffodus, nid yw’r un ohonom yn gallu darogan yr hyn sydd am ddod yn ystod 2022. O ystyried y lefelau presennol o ansicrwydd ynghylch effaith Omicron, rydym wedi ceisio rhoi cymaint o eglurder nawr i ysgolion ag y gallwn, i’ch galluogi i gynllunio a pharatoi ar gyfer dychwelyd ym mis Ionawr. Fodd bynnag, mae hon yn sefyllfa sy’n esblygu’n gyflym a byddwn yn gweithio’n agos gyda’ch Cyfarwyddwyr Addysg i ystyried unrhyw addasiadau angenrheidiol i’r camau lliniaru ar ddechrau tymor Ionawr 2022.
Gobeithio y cewch chi hoe heddychlon a chyfle i ymlacio dros y Nadolig. Os bydd Covid yn caniatáu, rwy’n edrych ymlaen at ymweld â rhai o’ch ysgolion gwych yn ystod 2022.
Owain
o.n. Fel aelod o gôr fy hun, mae bob amser yn wefr clywed lleisiau ifanc yn dathlu’r Nadolig. Dyma Ysgol Dewi Sant sydd wedi cytuno’n garedig i adael i mi rannu eu fideo. Gyda diolch!