Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ysgolion yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru? Canfyddiadau o adroddiad thematig Estyn

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Estyn wedi cymryd rhan lawn drwy gydol datblygu Cwricwlwm i Gymru. Rydym wedi cyhoeddi ein fframwaith arolygu peilot yn ddiweddar i esbonio sut y byddwn yn arolygu ysgolion yn ystod y cyfnod pontio hwn ac yn dilyn mis Medi 2022. Yn yn diweddariad hwn, rydym yn gobeithio helpu arweinwyr ysgolion ac athrawon i ystyried eu hymateb i’r Cwricwlwm i Gymru, drwy rannu rhai o’r cryfderau sy’n dod i’r amlwg a’r rhwystrau canfyddedig i gynnydd y mae ysgolion wedi’i rannu gyda ni. Rydym yn ehangu ar y rhain mewn cyfres o webinerau

Er bod ysgolion wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod pandemig COVID-19, maent yn dechrau ailystyried eu cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn gynyddol. Hefyd, mae hyn wedi cynnwys ystyried beth maen nhw wedi ei ddysgu o’r cyfnod hwn y byddant eisiau ei ddatblygu ymhellach, er enghraifft defnyddio platfformau digidol.

Yn ystod y pandemig, mae Estyn wedi parhau i ymgysylltu’n sensitif ag ysgolion a gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Rydym wedi darparu adroddiadau yn crynhoi sut maent wedi ymateb i’r heriau niferus, ac addasu yn unol â nhw.

Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig yn edrych ar arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd. Mae’r adroddiad hwn yn darparu man cychwyn defnyddiol. Gallai arweinwyr ac athrawon ddefnyddio’r pecyn cymorth i weld ble mae eu hysgol wedi cyrraedd ar daith y cwricwlwm, neu archwilio’r cysylltiadau ag astudiaethau achos penodol.

Cyn y pandemig, ymwelom â nifer o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac ysgolion pob oed hefyd, ac o ganlyniad, cyhoeddom ein hadroddiad thematig, Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r adroddiad yn amlygu cryfderau a rhwystrau a nodwyd gennym yn ystod yr ymgysylltiad hwn ag ysgolion, ac yn darparu astudiaethau achos a chameos sy’n amlygu sut mae gwahanol ysgolion yn mynd i’r afael â’r diwygio hwn.

Pan mae cynlluniau sy’n dod i’r amlwg yn gweithio’n dda:

  • Mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad clir i’r Cwricwlwm o Gymru, a dealltwriaeth ohono
  • Mae ysgolion yn datblygu gweledigaeth gref ac uchelgeisiol ar gyfer eu cwricwlwm, addysgu a dysgu a deilliannau ar gyfer disgyblion
  • Mae ysgolion yn canolbwyntio ar wella addysgu a dysgu, gan ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o ‘sut’ mae addysgu yn alluogwr allweddol cwricwlwm cryf
  • Mae uwch arweinwyr yn annog staff i fentro’n ystyriol i wella dylunio a chynllunio’r cwricwlwm; pan mae hyn yn gweithio’n arbennig o dda, ceir hyblygrwydd o ran y dull a ddefnyddir ar draws disgyblaethau neu feysydd dysgu a phrofiad
  • Defnyddir cydweithio rhwng ysgolion, er enghraifft rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, yn effeithiol i ddeall sut olwg sydd ar gynnydd disgyblion rhwng 3 ac 16 oed

Rhai o’r rhwystrau y mae angen eu goresgyn i sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith yn llwyddiannus:

  • Cael amser i feddwl yn strategol
  • Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall proses dylunio’r cwricwlwm
  • Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y cwricwlwm ac addysgeg
  • Datblygu ffordd gryfach o weithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion
  • Cynllunio dulliau’n ofalus o ran dylunio a chyflwyno er mwyn osgoi cysylltiadau arwynebol rhwng meysydd dysgu a phrofiad

Nod rhannu’r cryfderau hyn yw annog arweinwyr ysgol ac athrawon i achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ar eu harferion presennol ac ystyried ‘sut gallwn i wneud pethau’n wahanol’.

Yn nhymor yr Hydref, cynhaliodd Estyn yr ail mewn cyfres o webinarau sy’n edrych yn fanylach ar yr adroddiad hwn. Mae’r webinar hon yn mynd ati i ystyried yr hyn mae ysgolion yn eu gwneud i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac addysgu. Nodwyd hefyd enghreifftiau lle mae ysgolion wedi gweithio i wella addysgu.

Gadael ymateb