Mae’r neges hon bellach wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r ffaith bod y Canllawiau Cwricwlwm wedi’u cyhoeddi ym mis Ionawr 2020. Gweler y neges newydd yma!
Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnwys Chwe Maes Dysgu a Phrofiad:
Celfyddydau Mynegiannol; Iechyd a Lles; Y Dyniaethau; Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Ond sut maent yn cysylltu â’r pedwar diben a nodir yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a beth y maent yn ei gynnwys?
Yn y blog hwn byddwn yn ateb y cwestiynau hynny, gan dderbyn nad yw’r gwaith datblygu wedi’i orffen eto, wrth iddo barhau i mewn i’r hydref.
Mae pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cynnwys:
- Esboniad o sut mae’n cefnogi’r pedwar diben
- Datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ a seiliau rhesymegol sydd, gyda’i gilydd, yn disgrifio’r agweddau hanfodol ar ddysgu o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad
- Y wybodaeth, sgiliau a phrofiadau sy’n gysylltiedig â phob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’
- Camau Cynnydd a Deilliannau Cyflawniad
Beth am i ni edrych ar y rhain yn fanwl:
1. Esboniad o sut mae’r Maes Dysgu a Phrofiad yn cefnogi’r pedwar diben
Mae hwn yn dangos sut mae’r Maes Dysgu a Phrofiad yn cyfrannu’n glir ac yn gadarn at ddatblygu’r pedwar diben, gan wneud cysylltiadau â’r datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ sydd ynddo hefyd.
2. Datganiadau Beth sy’n Bwysig a seiliau rhesymegol
Bydd gan bob Maes Dysgu a Phrofiad nifer o ddatganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ (rhwng pedwar a saith fel arfer). Gyda’i gilydd, maent yn cwmpasu’r Maes Dysgu a Phrofiad cyfan, gan ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau disgyblaethol, gwneud cysylltiadau â’r pedwar diben, a nodi’r agweddau hanfodol ar ddysgu. Mae pob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’ yn cefnogi o leiaf un o’r pedwar diben.
Dyma enghraifft o ddatganiad ‘Beth sy’n Bwysig’ ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau:
Mae ein byd naturiol yn amrywiol ac yn ddynamig, ac mae prosesau ffisegol a gweithredoedd dynol yn dylanwadu arno.
Mae gan bob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’ sail resymegol ategol sy’n cyfiawnhau pam ei fod mor bwysig o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad, ac mae’n ‘ysgogi’ cysylltiadau â’r pedwar diben, y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen i’w gyflawni, a’r datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ eraill.
Gweler diweddariad llawn ar ddatblygiadau’r cwricwlwm hyd at Mai 2018, sy’n cynnwys datganiadau a seiliau rhesymegol drafft ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad.
Gweler y model cynllunio Maes Dysgu a Phrofiad
3. Y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau y nodwyd eu bod yn allweddol er mwyn cyflawni pob un o’r datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’
Noda argymhelliad 4 o Dyfodol Llwyddiannus y dylai pob Maes Dysgu a Phrofiad fod ‘yn gydlynol yn fewnol, defnyddio ffyrdd gwahanol o feddwl, a chael craidd y gellir ei nodi o wybodaeth ddisgyblaethol neu gyfryngol’. Felly, o dan bob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’, nodir y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau allweddol yr argymhellir eu bod yn hanfodol i’w gyflawni.
Bydd y manylder yn yr elfen hon o’r Maes Dysgu a Phrofiad yn helpu ymarferwyr i gynllunio cwricwlwm lefel ysgol, ac yn rhoi arweiniad o ran sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd tuag at gyflawni’r canlyniadau cyflawniad sy’n gysylltiedig â’r datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’.
Felly, mae’r elfen hon yn cynnwys dwy adran sy’n disgrifio:
- Amlinelliad o’r ‘cynnwys’ y mae’n rhaid ei gwmpasu rywbryd ar y continwwm
- Amlinelliad o gynnydd sy’n esbonio natur y newid sydd ei angen ar draws y continwwm dysgu
Ar gyfer pob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’ bydd y rhain yn cyfeirio at y canlynol:
- Gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau allweddol sy’n adlewyrchu disgyblaethau a pharthau perthnasol o fewn cwmpas y Maes Dysgu a Phrofiad
- Dilyniant lle y bo’n briodol
- Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd a Sgiliau Ehangach
- Y dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol lle y bo’n briodol
- Cysylltiadau â datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ eraill yn y Maes Dysgu a Phrofiad a Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill lle y bo’n briodol.
Sut y caiff ‘cynnwys’ ei ddewis?
Mae grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad wrthi’n datblygu’r rhan hon o’r cwricwlwm.
Er mwyn dewis ‘cynnwys’ (gwybodaeth, sgiliau a/neu brofiadau), mae cynrychiolwyr y Maes Dysgu a Phrofiad yn gweithio yn unol â’r egwyddorion canlynol:
- Y dylai alluogi cynnydd (a ddisgrifir isod) a helpu dysgwyr i gyflawni’r datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’ a’r pedwar diben perthnasol.
- Y dylai gael ei ystyried yn rhan hanfodol o’r datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’, gan adlewyrchu pynciau, disgyblaethau neu barthau perthnasol o fewn cwmpas y Maes Dysgu a Phrofiad, a/neu baratoi dysgwyr ar gyfer eu rolau mewn addysg, gwaith a chymdeithas yn y dyfodol.
- Y dylai fod yn ddigon eang i fod yn ystyrlon ar draws y continwwm dysgu (a pheidio â bod yn gaeth i Gamau Cynnydd penodol).
Bydd y ‘cynnwys’ yn helpu ymarferwyr i gynllunio cwricwlwm lefel ysgol gan alluogi ymreolaeth briodol ar yr un pryd; bydd yn helpu ysgolion a chlystyrau i gynllunio eu cwricwlwm rhwng camau cynnydd er mwyn iddynt gyflawni pob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’.
4. ‘Cynnydd’
Ar gyfer pob datganiad ‘Beth sy’n Bwysig’, nodir disgrifiad bras o gynnydd, gan ddefnyddio cynnwys a natur y newid rhwng blynyddoedd ysgol yr ystyrir eu bod yn hanfodol er mwyn cyflawni’r datganiad. Bydd y naratifau hyn yn disgrifio’r hyn y dylai dysgwyr weithio tuag ato ar draws y continwwm dysgu, gyda disgwyliadau bras ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.
Bydd hyn yn sail i’r gwaith cynllunio a wneir gan ymarferwyr i gefnogi pob dysgwr unigol ar ei daith ar hyd y continwwm a’r ddeialog broffesiynol rhwng ymarferwyr o fewn ysgolion a rhyngddynt. Bydd hefyd yn adlewyrchu’r nod a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, sef y dylid rhoi pwyslais ar osod sylfeini cadarn er mwyn sicrhau’r dilyniant gorau posibl a helpu dysgwyr i symud ar hyd y continwwm ar eu cyflymder eu hunain.
Lle y bo’n briodol, cyfeirir at lythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, sgiliau ehangach a’r dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol.
- Camau Cynnydd a Deilliannau Cyflawniad
Mae grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad yn gweithio ar y maes hwn yn ystod tymor yr haf. Fel yr amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus:
- Bydd Camau Cynnydd yn cael eu disgrifio ar bum pwynt yn y continwwm dysgu a fydd yn cyfateb yn fras i’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.
- Bydd y Camau Cynnydd hyn ar ffurf amrywiaeth o Ddeilliannau Cyflawniad.
- Drwy nodi pwyslais ar gyflawniad cyffredinol, mae’r deilliannau hyn yn ymestyn cwmpas yr hyn a werthfawrogwn o ran dysgu plant a phobl ifanc.
- Caiff Deilliannau Cyflawniad eu disgrifio o safbwynt y dysgwr, gan ddefnyddio termau fel ‘Mae gen i…’ ar gyfer profiadau a ‘Galla’ i…’ ar gyfer deilliannau.
- Bydd Deilliannau Cyflawniad yn cynnwys:
- Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiadau
- Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach
- Y Dimensiwn Cymreig/persbectif rhyngwladol lle y bo’n briodol
- Bydd Deilliannau Cyflawniad yn cyfrannu at gyflawni’r pedwar diben.
Bydd Deilliannau Cyflawniad yn fras ond yn ddigon manwl a chlir i sicrhau dealltwriaeth gyson ac i osgoi gwahaniaethau yn y ffordd y cânt eu cyflawni.