Mae’r Athro Graham Donaldson, yr Athro Louise Hayward a’r Athro Mark Priestley yn cymryd rhan mewn podlediad newydd ar ein cwricwlwm newydd.
Mae eu sylwadau’n rhoi cipolwg diddorol ar y gwaith:
“Yn fy marn i, yr hyn sydd bwysicaf yw annibyniaeth athrawon” meddai Mark Priestley. “Os yw aderyn wedi bod mewn cawell am 20 mlynedd, nid yw’n syndod felly nad yw, o bosibl, eisiau dod allan pan fyddwch yn agor y drws”.
“Mae angen creu’r amgylchedd cywir…fel bod pobl yn teimlo’n hyderus am y cwricwlwm newydd a’i roi ar waith mewn ffyrdd adeiladol,” meddai Graham Donaldson.
Gwrandewch ar y podlediad ar itunes neu spreaker am android.
Ychwanegir podlediaid newydd yn y Gymraeg cyn hir.