Gyda llai na blwyddyn i fynd tan i’r Cwricwlwm i Gymru drafft gael ei gyhoeddi ar gyfer cael adborth arno, mae Huw Foster-Evans, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, yn crynhoi’r datblygiadau diweddaraf ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd yn digwydd yn yr hydref.
Mae’n siarad am y gwaith ar strwythur, ‘Meysydd Dysgu a Phrofiad’, cynnydd a dilyniant dysgwyr a ‘Deilliannau Cyflawniad’.
Yn nes ymlaen yn yr wythnos, caiff esboniad mwy manwl o sut mae Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cael eu datblygu fel elfen ganolog o’r cwricwlwm newydd ei bostio ar y blog. Cofiwch ‘ddilyn’ y blog er mwyn cael eich hysbysu pan fydd rhywbeth newydd arno.