Mae adroddiad newydd o brosiect CAMAU yn disgrifio’r canfyddiadau diweddaraf yn y gwaith i ddatblygu fframweithiau cynnydd ar gyfer pob rhan o’r cwricwlwm.
Mae’r adroddiad ymchwil, sydd newydd ei gyhoeddi gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn nodi prif themâu gwaith ymchwil, arolwg o bolisïau ac arferion sawl gwlad, a Dyfodol Llwyddiannus; mae hefyd yn esbonio sut mae’r canfyddiadau wedi’u hystyried gan athrawon o Ysgolion Arloesi sydd wedi bod yn gweithio gyda thîm CAMAU ar ddatblygu fframweithiau cynnydd.
Mae’r disgrifiadau o gynnydd ym maes dysgu yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol ac yn ategu arferion asesu sy’n gyson ag asesiadau a ddefnyddir ar gyfer dysgu.
Cyhoeddwyd yr adroddiad ymchwil ar dri fformat:
- Yr adroddiad llawn
- O Syniadau i Weithredu: Crynodeb o’r prif ganfyddiadau
Is-adroddiadau ar bob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad:
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mathemateg a Rhifedd
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- Y Dyniaethau
Oes dolen i’r ddogfen CAMAU Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu os gwelwch yn dda? Blegallaf ddod o hyd i’r ddogfen yma at frys?
Ymddiheuriadau, fe fydd dolen newydd ar gael bore yfory
Diolch ond ble fydd y ddolen yn ymddangos?
Ymddiheuriadau! Rydym yn disgwyl am ddolen newydd i’r adroddiad gan y Brifysgol.