Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae’r postiad hwn yn diweddaru’r postiad o fis Mehefin 2018: sut mae ‘ meysydd dysgu a phrofiad ‘ yn cael eu datblygu fel elfen ganolog o’r cwricwlwm newydd.
Mae’r fframwaith cwricwlwm newydd yn cynnwys pynciau trosfwaol ar ffurf: Cyflwyniad; Crynodeb o’r ddeddfwriaeth; Cynllunio eich cwricwlwm, a chefnogi dilyniant dysgwyr: asesu.
Ac wrth gwrs mae’n cynnwys y chwe Maes Dysgu a Phrofiad, sef:
Celfyddydau Mynegiannol; Iechyd a Lles; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Ond sut maen nhw’n cysylltu â’r Pedwar Diben, y weledigaeth a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, a beth yw’r dibenion hyn, yn union?
Wel, yn y postiad hwn ry’n ni’n ateb y cwestiynau hynny.
Mae pob MDaPh yn cynnwys:
- Esboniad o sut mae’n cefnogi’r Pedwar Diben
- Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig a’u seiliau rhesymegol – sy’n darparu’r sylfaen ar gyfer dysgu yn y maes, ac sy’n nodi’r ‘syniadau mawr’ sy’n sail iddo.
- Egwyddorion Cynnydd sy’n nodi sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd, a chyfrannu at y Pedwar Diben
- Disgrifiadau Dysgu – sy’n mynegi hanfod dysgu yn y maes, a hynny ar draws y pum Cam Cynnydd
- Dylunio eich Cwricwlwm – ystyriaethau penodol i Feysydd Dysgu a Phrofiad
Beth am edrych arnynt yn fanwl:
- Esboniad o sut mae’r MDaPh yn cefnogi’r Pedwar Diben
Mae hyn yn dangos sut y mae’r MDaPh yn gwneud cyfraniad pendant ac amlwg at ddatblygu’r Pedwar Diben, tra hefyd yn gwneud cysylltiadau â’r Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig sydd ynddo.
- Y Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig a’u seiliau rhesymegol
Mae gan bob MDaPh nifer o Ddatganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig (rhwng tri a chwech ohonyn nhw), a fydd yn orfodol. Gyda’i gilydd, maent yn rhychwantu’r MDaPh cyfan, maent yn cefnogi ac yn ategu ei gilydd, maent yn gwneud cysylltiadau â’r Pedwar Diben, ac maent yn nodi’r syniadau mawr yn y maes. Ni ddylid eu hystyried yn bethau ar wahân.
Dyma enghraifft o Ddatganiad o’r Hyn sy’n Bwysig ym MDaPh y Dyniaethau:
Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
Mae ei sail resymegol yna’n cyfiawnhau pam ei fod mor bwysig o fewn y MDaPh, a’r cysylltiadau â’r Pedwar Diben.
Dyma un rhan o sail resymegol y datganiad:
Gall profi rhyfeddod y byd naturiol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol a lles y dysgwyr, a bod yn gymorth i ennyn ynddyn nhw ymdeimlad o le ac o berthyn, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair ‘cynefin’.
Gall meithrin chwilfrydedd fod o gymorth i ddysgwyr ddeall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn fyd-eang. Yn ei dro, gall hyn alluogi dysgwyr i adnabod beth sy’n gwneud lleoedd a gofodau yn wahanol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau sydd rhwng pobl a’u hamgylchedd, a hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol.
- Egwyddorion Cynnydd – sy’n amrywio yn ôl y MDaPh
Yn ein henghraifft o’r Dyniaethau, mae pum egwyddor, fel a ganlyn:
- Cynyddu ehangder a dyfnder gwybodaeth
- Dyfnhau dealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y meysydd
- Mireinio sgiliau, a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso
- Nodi cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd
- Cynyddu effeithiolrwydd fel dysgwr
Yn y canllawiau, eglurir pob un o’r rhain yn fanylach.
Dyma’r esboniad am ‘ehangder a dyfnder gwybodaeth’:
Caiff cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Maes) ei ddangos wrth i ddysgwyr ymgysylltu â gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol cynyddol eang a dwfn. Mae dysgwyr yn datblygu’r gallu i drefnu a nodi cysylltiadau rhwng gwybodaeth osodiadol yn gynyddol, er mwyn nodi a datblygu cysyniadau ategol mwy pwerus, a gwneud penderfyniadau wedi’u hategu mewn cyd-destunau mwy cymhleth.
Mae dysgwyr yn cysylltu syniadau a gwybodaeth newydd â gwybodaeth sy’n deillio o ddysgu blaenorol yn yr ysgol a’r tu hwnt iddi, ac yn eu defnyddio i feithrin dealltwriaeth gynyddol glir a chydlynol o’r byd o’u cwmpas.
Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn sail i waith cynllunio ymarferwyr i gefnogi pob dysgwr unigol yn ystod ei daith ar hyd y continwwm ac ar gyfer deialog broffesiynol rhwng ymarferwyr o fewn ysgolion a rhyngddyn nhw. Maent hefyd yn adlewyrchu’r nod yn Dyfodol Llwyddiannus mai sylfeini cadarn mewn dysgu yw’r sail orau ar gyfer gwneud cynnydd, yn ogystal â helpu dysgwyr i symud ymlaen ar hyd y continwwm ar eu cyflymder eu hunain.
Mae’r rhain yn rhoi arweiniad ar sut y dylai dysgwyr symud ymlaen o fewn pob Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig wrth iddynt deithio ar hyd y continwwm dysgu. Fe’u trefnir mewn pum Cam Cynnydd – hynny yw, pwyntiau cyfeirio ar gyfer cyflymdra’r dilyniant.
Mae’r Camau Cynnydd wedi’u nodi o safbwynt y dysgwr, ac maent yn eithaf eang er mwyn iddynt allu cynnal dysgu dros gyfres o flynyddoedd. Nid ydynt wedi’u cynllunio fel tasgau, gweithgareddau neu feini prawf asesu unigol. Er bod y continwwm dysgu yr un fath ar gyfer pob dysgwr, efallai y bydd y cynnydd a wneir drwyddo yn wahanol, felly mae’r camau cynnydd yn ymwneud yn fras â disgwyliadau yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.
Er enghraifft, dyma dri o’r saith Disgrifiad Dysgu ar gyfer y Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol’, yng Ngham Cynnydd 3 (11 oed):
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml beth yw effaith gweithredoedd dynol ar y byd naturiol yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml beth yw effaith prosesau ffisegol ar bobl, lleoedd a thirweddau yn y gorffennol a’r presennol.
Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio’n syml sut a pham mae rhai lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn arbennig o bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.
Bydd y manylion yn yr elfen hon o’r MDaPh yn helpu ymarferwyr i gynllunio cwricwlwm ar lefel ysgol, ac yn rhoi arweiniad ar sut y dylai dysgwyr symud tuag at gyflawni’r Disgrifiadau Dysgu sy’n gysylltiedig â’r Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig.
Dylai Disgrifiadau Dysgu:
- alluogi dilyniant a chefnogi dysgwyr i gyflawni’r Hyn sy’n Bwysig a’r Pedwar Diben perthnasol.
- cael eu hystyried yn hanfodol i’r Hyn sy’n Bwysig, gan adlewyrchu pynciau, disgyblaethau neu feysydd perthnasol o fewn cwmpas y MDaPh, a/neu baratoi dysgwyr ar gyfer eu rolau yn y dyfodol mewn addysg, gwaith a chymdeithas.
- bod yn ddigon eang i fod yn ystyrlon ar draws y continwwm dysgu (a pheidio â bod ynghlwm wrth gamau cynnydd penodol).
- Cynllunio eich Cwricwlwm
Mae adran Cynllunio eich Cwricwlwm trosfwaol yn y canllawiau yn nodi’r darlun ehangach ar gyfer y cwricwlwm, ond mae gan bob MDaPh gynnwys penodol ar hyn hefyd.
O fewn hyn, ceir pedair elfen, sydd fel grŵp yn pwysleisio na ddylid ystyried Meysydd Dysgu a Phrofiad yn endidau ar wahân a bod popeth yn dod yn ôl at y Pedwar Diben yn y pen draw. Yr elfennau yw: Sgiliau Trawsgwricwlaidd a Sgiliau Cyfannol; Ystyriaethau Penodol ar gyfer y Maes; Cysylltiadau Allweddol â Meysydd Eraill; a Themâu Trawsbynciol.
Gan gymryd y rhain fesul un, o fewn Sgiliau Trawsgwricwlaidd a Sgiliau Cyfannol, mae gennym: Llythrennedd, Rhifedd a Cymhwysedd Digidol, ynghyd â’r sgiliau cyfannol a ganlyn: Creadigrwydd ac Arloesedd, Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, Effeithiolrwydd Personol a Chynllunio a Threfnu.
I barhau gydag enghreifftiau o’r Dyniaethau …
Dyma enghraifft o ‘Llythrennedd’:
Sicrhau mynediad ac archwilio ystod o destunau o amrywiol leoedd a chyfnodau er mwyn dadansoddi tystiolaeth, meddwl yn feirniadol, dod i gasgliad, a gwerthuso dehongliadau a safbwyntiau.
Dyma enghraifft o ‘Rhifedd’:
Cefnogi datblygiad rhifedd drwy roi cyfarwyddiadau cyfeiriadol manwl gywir wrth ddarllen map neu ddatblygu eu mapiau a’u llwybrau eu hunain.
Dyma enghraifft o ‘Cymhwysedd Digidol’:
Archwilio effaith technoleg ddigidol ar gymdeithasau a’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn yr oes ddigidol.
Dyma enghraifft o ‘Creadigrwydd ac Arloesedd’:
Annog cyflwyno gwybodaeth a chanfyddiadau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol, a dychmygu dyfodol posib yn seiliedig ar y dystiolaeth.
Dyma enghraifft o ‘Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau’:
Casglu, myfyrio a gwerthuso’n feirniadol y defnydd o ffynonellau a thystiolaeth.
Dyma enghraifft o ‘Effeithiolrwydd Personol’:
Annog gwaith tîm a bod yn gyfrannwr dibynadwy trwy drefnu a gweithredu ymholiadau.
Dyma enghraifft o ‘Cynllunio a Threfnu’:
Annog cynllunio a threfnu ymchwiliadau, gosod nodau, amcanion a meini prawf, casglu a defnyddio ystod o dystiolaeth, a myfyrio ar ddulliau
O fewn ‘Ystyriaethau Penodol ar gyfer y Maes Hwn’ rydym yn dod o hyd i adran agoriadol sy’n cynnwys themâu pwysig, gan bwysleisio’r angen i ddatblygu dealltwriaeth soffistigedig o gysyniadau allweddol sy’n galluogi dysgwyr i weld gwybodaeth fel mwy na rhestr o ffeithiau digyswllt. Mae’r adran hefyd yn cynnwys: ‘Dull Cynllunio’, ‘Safbwyntiau lleol, cenedlaethol a’r byd ehangach’, ‘Ehangder/ystod’, ‘Cydlyniad’, ‘Trylwyredd’, ‘Canolbwyntio’, ‘Sensitifrwydd’, ‘Cysyniadau disgyblaethol a chyd-destunau’ (ar gyfer pob disgyblaeth), ‘Ystyriaethau ar gyfer darparu profiadau dysgu’, and ‘Enghreifftio ehangder’.
Mae ‘Cysylltiadau Allweddol gyda Meysydd eraill yn amlygu sut y gellir gwneud cysylltiadau dilys gyda’r holl feysydd dysgu a phrofiad eraill, gydag enghreifftiau clir.
Mae gan ‘Themâu Trawsgwricwlaidd’ gynnwys cryno am ‘Cyd-destunau lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol’, ‘Gyrfaoedd a Phrofiadau’n Gysylltiedig â Gwaith’ a ‘Addysg Hawliau Dynol ac Amrywiaeth’.