Mae ein cwricwlwm newydd ar y ffordd. Bydd yn cynnig mwy o ryddid i athrawon addysgu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion pob un o’u disgyblion yn y ffordd orau. Mae pedwar diben addysg yn sylfaen iddo fel y nodwyd yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’.
Bydd y dysgu wedi’i seilio ar chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn hytrach nag ar sail ffiniau pynciau cul. Oddi mewn i’r meysydd hynny, bydd datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad pwysicaf i’w datblygu.
Yn unol â ‘Dyfodol Llwyddiannus’, bydd y Cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn cael eu hadeiladu ar Gynnydd, felly bydd camau cynnydd ym mhob un o’r meysydd dysgu a phrofiad. Yn y modd yma, bydd dysgu a chynnydd yn mynd law yn llaw, gan gynnig dull ystyrlon o gyflwyno dysgu olynol.
Bydd asesiadau athrawon cyfredol yn seiliedig ar lefelau a rhaglenni astudio yn cael eu disodli yn rhan o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd.
Bydd profion llythrennedd a rhifedd yn parhau ond bydd pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu asesiadau personol ymaddasol i’w cwblhau ar-lein.
Bydd pedair egwyddor yn sail i’r dull gweithredu newydd:
- Caiff ei seilio ar gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 1 a 16 oed a fydd wedi’i ddisgrifio’n genedlaethol.
- Dylai dysgu fod yn siwrnai i’w theithio, yn hytrach na thaith mewn llinell syth. Mae Cynnydd yn fap o’r ffordd ar gyfer pob unigolyn ac mae’n bosibl y bydd pob unigolyn yn mynd yn ei flaen ar gyflymdra gwahanol neu y bydd yn mynd ar hyd llwybr gwahanol i gyrraedd y cam nesaf yn y daith i ddysgu.
- Bydd y Camau Cynnydd yn cael eu pennu yn 5, 8, 11, 14 a 16 oed a byddant i’w gweld ar ffurf Deilliannau Cyflawniad a fydd yn berthnasol yn fras i’r disgwyliadau ar yr adegau hynny. Bydd y rhain yn helpu dysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr i ddeall os yw’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn briodol.
- Bydd y deilliannau cyflawniad ar ffurf datganiadau ‘Rwy’n gallu’ a ‘Rwyf wedi’. Bydd llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, sgiliau ehangach ac elfennau o’r Cwricwlwm Cymreig yn cael eu cynnwys.
Bydd Deilliannau Cyflawniad yn helpu athrawon a dysgwyr i ddeall y camau nesaf i’w cymryd.
Dull gweithredu ar sail ymchwil
Mae ysgolion arloesi wedi gweithio gydag arbenigwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, sydd yn eu tro yn defnyddio gwaith ymchwil eang ei gwmpas, i fod yn sail i’r dull gweithredu newydd.
Dyma sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
- Yn ystod tymor y Gwanwyn, fe aeth ysgolion arloesi ati drwy weithio gydag ymchwilwyr, i gofnodi’r hyn yr oedd angen ei ddysgu rhwng 3 a 16 oed yn nghyd-destun pob un o’r datganiadau ‘Yr hyn sy’n bwysig’.
- Cafodd eu gwaith ei herio mewn ffordd gadarnhaol gan y Grŵp Cwricwlwm ac Asesu – panel o arbenigwyr addysg – a roddodd adborth ar ddatblygiadau hyd yn hyn a chyngor ar y camau nesaf.
- Mae ysgolion arloesi wrthi’n datblygu fersiwn ddrafft o’r Deilliannau Cyflawniad a fydd yn rhan annatod o’r cwricwlwm drafft sy’n cael ei gyhoeddi am adborth ym mis Ebrill 2019.
Bydd y cwricwlwm newydd yn helpu ein pobl ifanc i ffynnu a chystadlu mewn byd sy’n newid. Mae’n cael ei ddatblygu ar y cyd fel cyfanwaith integredig ynghyd â chynnydd, asesu ac addysgeg, er mwyn gwireddu dyfodol llwyddiannus.
Bydd animeiddiad esboniadol newydd ar ‘ddilyniant’ ar gael yn fuan. Am ddiweddariadau ‘Dilynwch’ y blog hwn.