Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Bydd yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella yn cael ei lansio’n ffurfiol ar 11 Mai gyda rhith gyflwyniad cenedlaethol a sesiynau ar lefel rhanbarthol i ddilyn.
Fel y soniwyd yn y blog hwn o’r blaen, mae’r Adnodd wedi’i ddylunio i fod o gymorth ymarferol i ysgolion gyda’u proses hunanwerthuso a gwella a fydd, yn y pen draw yn helpu i greu’r amodau cywir i’r cwricwlwm newydd lwyddo ledled Cymru. Mae wedi’i ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr, consortia, Estyn ac eraill, ac yn sail hyblyg ar gyfer cynllunio gwella ysgolion.
Yn ystod y cyfnod datblygu, treialwyd yr Adnodd gan 120 o ysgolion a oedd yn rhoi adborth ar y fersiynau cynnar, ac mae’r dull gweithredu trylwyr hwn wedi arwain at wella profiad y defnyddiwr. Daeth cyfnod y cynllun peilot i ben ym mis Chwefror, ond gallwch barhau i roi adborth ac awgrymiadau ar gyfer datblygu’r adnodd yn y dyfodol.

Gellir gweld enghreifftiau ymarferol o sut y defnyddiwyd yr Adnodd yn y rhestrau chwarae hyn a gyhoeddwyd ar Hwb yn ddiweddar (Rhestr Chwarae 1: Ysgol Dyffryn Conwy, Rhestr Chwarae 2: Ysgol Gynradd Glanhywi). Maent yn dangos sut y mae ysgolion wedi mynd ati i hunanwerthuso agweddau ar y cwricwlwm ac addysgu a dysgu gan ddefnyddio cwestiynau cynorthwyol o fewn yr Adnodd.
Bydd 11 o restrau chwarae eraill yn cael eu hychwanegu i’r adnodd erbyn dechrau’r tymor nesaf. Byddwn hefyd yn mapio pecynnau hunanwerthuso eraill i’r adnodd dros yr wythnosau nesaf.