Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Gyda chyflwyno ein Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Medi, bydd rôl asesiadau yn newid yn sylweddol. Bydd ysgolion a lleoliadau yn datblygu eu trefniadau asesu eu hunain i roi cyfle i bob dysgwr unigol wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau y caiff ei gefnogi a’i herio’n briodol. Er mwyn bod yn barod ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae asesiadau personol wedi cael eu cyflwyno fel adnodd i gefnogi’r ffordd newydd hon o asesu dysgwyr ac i helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn eu sgiliau darllen a rhifedd.
O dan y trefniadau newydd, dylid defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu er mwyn llunio darlun cyfannol o’r dysgwr. Fel rhan o hyn, caiff ymarferwyr eu hannog i ystyried yn llawn yr wybodaeth am sgiliau a nodir gan yr asesiadau personol wrth iddynt gynllunio dysgu a chefnogi cynnydd dysgwyr, ynghyd â gwybodaeth arall am y dysgwr sy’n deillio o’r ystafell ddosbarth.

Bydd y trefniadau asesu newydd yn edrych tua’r dyfodol, gan ganolbwyntio ar ganfod lle mae dysgwyr wedi cyrraedd o ran eu dysgu, a chan nodi’r camau nesaf a’r cymorth sydd ei angen er mwyn iddynt symud ymlaen. Mae’r asesiadau personol ar gyfer blwyddyn 2 hyd at flwyddyn 9 wedi’u cynllunio er mwyn helpu dysgwyr unigol i wneud cynnydd. Maent i’w defnyddio at ddibenion ffurfiannol, gan roi i ymarferwyr a dysgwyr gipolwg ar sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr, yn ogystal â dealltwriaeth o’u cryfderau a’r meysydd y mae angen iddynt eu gwella.
Mae’r asesiadau personol yn addasol, sy’n golygu bod y cwestiynau’n cael eu seilio ar yr ymatebion i’r cwestiynau blaenorol. O ganlyniad i hyn, caiff dysgwyr gyfle i ddangos hyd a lled eu sgiliau yn ystod yr asesiad, a gall ymarferwyr weld lle mae pob dysgwr ar y continwwm. Mae asesiad pob dysgwr yn ei helpu i feithrin ei sgiliau drwy ddeall yr hyn y mae’n gallu ei wneud, y pethau y gall fod angen iddo weithio arnynt, a’i gamau nesaf.

Mae’r asesiadau personol ar gael i’w defnyddio’n hyblyg drwy gydol y flwyddyn, fel y bydd modd i ysgolion drefnu i’w cynnal ar yr adeg a fyddai’n fwyaf buddiol iddyn nhw fel rhan o’u trefniadau asesu. Gall ymarferwyr alw ar gasgliad o adroddiadau er mwyn eu helpu i gynllunio’r camau nesaf o ran meithrin sgiliau.
Y diweddaraf
Mae’r asesiadau personol ym maes Rhifedd (Rhesymu) a gyflwynwyd yn ddiweddar yn helpu i sicrhau dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr o ran sgiliau rhesymu rhifyddol. Maent yn dangos i ba raddau y mae dysgwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau gweithdrefnol er mwyn datrys problemau rhifyddol. Mae’r asesiadau hyn yn cynnwys adnoddau addysgu i gefnogi’r camau nesaf.
Yr asesiad Rhifedd (Rhesymu) yw’r asesiad olaf i gael ei gyhoeddi yn y casgliad. Fel yr asesiadau eraill, mae ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd fel y bydd modd i ysgolion drefnu i’w gynnal ar yr adeg orau er mwyn cefnogi addysgu, dysgu a chynnydd.
Mae asesiadau personol yn statudol yn ystod y flwyddyn ysgol hon, a byddant yn parhau’n statudol o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adrannau perthnasol o’r Llawlyfr gweinyddu ar gyfer asesiadau personol ar gyfer 2021-22 yn egluro’r gofynion. Maent hefyd yn nodi bod modd i ysgolion fod yn hyblyg wrth benderfynu p’un a fydd dysgwyr unigol yn ymgymryd â’r asesiadau hyn ai peidio ar sail llesiant, a defnyddio barn broffesiynol er mwyn penderfynu p’un a ddylai dysgwyr blwyddyn 2 ymgymryd â’r asesiadau Rhifedd (Rhesymu) ai peidio.
Mae gwybodaeth ymarferol fanwl am amserlennu a chyflwyno’r asesiadau (gan gynnwys rhestrau gwirio) ac am gael hyd i’r adroddiadau ar gael yn y canllaw i ddefnyddwyr ar wefan yr asesiadau (drwy fewngofnodi defnyddiwr Hwb).
Mae casgliad o weminarau Datblygu Proffesiynol wedi’u creu i ymarferwyr. Maent ar gael yn Adnoddau – Hwb (llyw.cymru).
Mae Datganiad Ysgrifenedig gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, sy’n dangos bod y gyfres gyflawn o asesiadau ar-lein bellach ar gael i’w defnyddio mewn ysgolion, ac yn egluro sut mae’r asesiadau yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru ar gael yma.