Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi gwybod i rieni am y cwricwlwm newydd – deunyddiau defnyddiol

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Rhan annatod o baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yw ennyn diddordeb rhieni a rhoi gwybod iddynt – neu eu hatgoffa – am y newidiadau sydd i ddod.

Er y bydd gan bob ysgol ddehongliadau gwahanol iawn o’r cwricwlwm i adlewyrchu eu dull gweithredu a’u hamgylchiadau lleol, bydd yr hanfodion i gyd yn debyg. Dyma nodyn i’ch atgoffa o rai deunyddiau defnyddiol sy’n esbonio’r hanfodion hynny mewn modd hygyrch.

Animeiddiad byr (3 ½ munud) am y cwricwlwm newydd:

Fersiwn ‘hawdd ei ddeall’ o’r canllaw i bobl ifanc

Ac mae tudalen we Mae addysg yn newid | LLYW.CYMRU a chaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd, yn cynnwys gwybodaeth gefndir, fideos gyda rhieni a disgyblion a chysylltiadau i adnoddau a mwy o ganllawiau.

Mae canllaw hefyd i’r rhai sydd am gael gwybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol: System anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Ac yn nhymor yr Haf bydd cylchlythyr misol newydd ar gael i ysgolion i’w rannu gyda rhieni i’w hysbysu am y cwricwlwm newydd. 

Gadael ymateb